Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Hiraeth

26 Ebrill 2022 | gan Elin Bryn

Hiraeth

Elin Bryn

 

Creaduriaid hiraethus ydym ni fel Cymry on’de? Rydyn ni mor hiraethus nes ein bod wedi bathu’r gair unigryw hwn, hiraeth, i gyfleu’r teimlad! Mae’n deimlad sydd bron yn greiddiol i’n cenedl. Rydyn ni’n ei deimlo i’r byw, on’dydyn? Mae hiraeth yn ‘torri ‘nghalon…’ chwedl yr hen gân.

Mae hiraeth yn deillio o brofiad, boed hwnnw’n lle, peth, cyfnod, neu berson. Mae’r profiad wedi gadael y fath argraff arnom nes ein bod yn dyheu am fwy. Ac er ei fod yn aml yn boenus, ac mi fyddwn ni’n meddwl amdano mewn ffordd negyddol, mae ynddo hefyd rhyw dinc o lawenydd. Mae’r profiad a ysgogodd y teimlad yn dda ac wedi’n llonni gymaint nes ein bod yn dyheu am fwy. Efallai weithiau y byddwn ni’n hiraethu am hafau hir plentyndod, pan nad oedd poen a phryder y byd yn ein cyffwrdd a bywyd syml ieuenctid yn hawdd o’i gymharu â dyletswyddau heddiw. Hiraeth am gyfaill neu berthynas sy’n annwyl i ni, hiraeth am gael profi eu cwmni, y goflaid gynnes honno unwaith eto. Ac wrth gwrs, yma yng Nghymru pan fyddwn ni oddi cartref, yr hiraeth dwfn am fro ein mebyd, am gael bod hefo’n pobl, pobl sydd yn llathen o’r un brethyn.

Mae hiraeth yn ein hatgoffa o’r hyn sy’n dda, yn ein cyweirio at lawenydd bywyd a’n tristáu nad ydym yn ei brofi rŵan.
Tybed beth fyddwch chi’n hiraethu amdano? Rydw i’n siŵr bod gan bawb ateb gwahanol, dyma gwestiwn sydd a’i ateb efallai’n datgelu dyhead ein calon. Ond ys gwn i ai eich ateb oedd, ‘dw i’n hiraethu am gael bod hefo’r Arglwydd yn nhragwyddoldeb’?
Mae’r un sydd wedi cael y fraint o adnabod Iesu yn Arglwydd a Gwaredwr dros ei fywyd wedi cael profiad arbennig. Os ydych chi’n Gristion heddiw rydych wedi eich breintio y tu hwnt i ddeall, ac wedi profi a gweld mai da yw’r Arglwydd a bod gennym ni Dduw sy’n dyheu i’n hadnabod – Duw sydd wedi aberthu’n ddrud er mwyn adfer ein perthynas ag o. Duw sydd yn Dad nefol i ni a Duw sydd yn paratoi lle i ni yn y nefoedd gydag o.

Weithiau, gall prysurdeb a bendithion bywyd neu bryderon heddiw godi’n niwl o flaen ein llygaid ac achosi i ni anghofio’r rhyfeddod mawr hwn. Gall realiti bydol deimlo’n fwy real na’r realiti go iawn, ond nid yr hyn a welwn yn y byd hwn yw’r diwedd. Mae mwy i fywyd na hyn, mae gennym ni fywyd yng Nghrist! Wrth ysgrifennu, yr adnod sydd wedi’i serio ar fy meddwl ydy:
‘Oherwydd, i mi, byw yw Crist, ac elw yw marw.’

Roedd Paul wedi rhoi ei fryd ar yr Arglwydd– nid oedd yn byw iddo’i hun ond i Grist. Roedd yn ffyddlon i’r gwaith ac yn byw’r iachawdwriaeth yr oedd yn ei phregethu. Roedd yn caru Iesu gymaint, a’i ffydd mor gryf, nes ei fod yn medru dweud fod marw yn elw iddo.

Mae’r frawddeg yn taro’n chwithig rywsut, wedi’r cyfan daeth marwolaeth i’r byd o ganlyniad i bechod, ond dyma ni Paul yn ei throi ar ei phen a’i datgan yn elw! Dyma’r gwirionedd i ni sydd wedi rhoi ein hymddiriedaeth yn yr Arglwydd – mae marw yn brofiad gwahanol. Gallwn farw’n hyderus bod y gorau eto i ddod, gadewch i ni ddarllen geiriau Ioan am yr hyn sydd i ddod:
‘Gyfeillion annwyl, yn awr yr ydym yn blant Duw, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn. Yr ydym yn gwybod, pan fydd ef yn ymddangos, y byddwn yn debyg iddo, oherwydd cawn ei weld ef fel y mae. Ac y mae pob un y mae’r gobaith hwn ganddo, yn ei buro ei hun, fel y mae Crist yn bur’ (1 Ioan 3:2-3).

Dyma’r hiraeth oedd gan Paul, a dyma hefyd yr hiraeth sy’n codi yng nghalon y Cristion pan fyfyriwn ar ein profiad o’r Arglwydd a dyheu am y profiadau sydd i ddod. Mae gennym y gobaith sicr y bydd yr hiraethu yn dod i ben ryw ddydd ac y cawn adael y byd hwn, gadael y pechod sy’n ein baeddu i fod yng nghwmni ein Harglwydd da gan ei foli a’i fwynhau am byth bythoedd.
Dewch i ni felly hoelio’n sylw ar Iesu ac ar y dydd y cawn fod gydag e wyneb yn wyneb, bydd yn codi hiraeth, ond mae’n hiraeth hawdd sy’n edrych ymlaen.

‘Am hynny, y maent o flaen gorsedd Duw, ac yn ei wasanaethu ddydd a nos yn ei deml, a bydd yr hwn sy’n eistedd ar yr orsedd yn lloches iddynt. Ni newynant mwy ac ni sychedant mwy, ni ddaw ar eu gwarthaf na’r haul na dim gwres, oherwydd bydd yr Oen sydd yng nghanol yr orsedd yn eu bugeilio hwy, ac yn ei harwain i ffynhonnau dyfroedd bywyd, a bydd Duw yn sychu pob deigryn o’u llygaid hwy.’