Gwrthsefyll Drwg – Gwaith Sefydliad y Cristion (The Christian Institute)
Gareth Edwards (Swyddog Cymru, Sefydliad y Cristion)
Mae Duw yn mynegi ei berffeithrwydd ym mhob peth a wna, felly am y creu darllenwn ‘Gwelodd Duw y cwbl a wnaeth, ac yr oedd yn dda iawn’ (Genesis 1:31). Wrth gwrs, yng nghwymp Adda ceisiodd Satan newid yr hyn sydd dda i’r hyn sydd ddrwg. Er hynny, bwriad Duw oedd i ddod â gogoniant i’w enw gan ddangos mawredd ei gariad a’i rym drwy ddelio â phechod a gorchfygu’r un drwg. Gwelir gras Duw yn hyn mewn dwy ffordd:
GRAS ACHUBOL
Yn bennaf, gwelir gras Duw yn iachawdwriaeth pechaduriaid. Trwy eni, bywyd, marwolaeth ac atgyfodiad Iesu Grist mae maddeuant ar gael i bechaduriaid yn ôl ewyllys Duw y Tad. Cydnabyddir hyn fel gras neilltuol gan ei fod yn cyrraedd y rhai y mae Duw yn eu dewis yn unig. Daw â rhyddid oddi wrth gosb a grym pechod i bawb sy’n ymddiried yng Nghrist. Maent yn cael eu cipio o afael Satan i fwynhau rhyddid o dan arglwyddiaeth yr Iachawdwr. Galwad yr Eglwys yw i bregethu’r newyddion da am ras achubol gyda’r sicrwydd y bydd rhai yn ymateb mewn ffydd.
GRAS CYFFREDINOL
Hefyd, mae ail ran i ras Duw. Yn ei gariad dros y greadigaeth ac er mwn gogoneddu ei enw, mae Duw yn gwrthsefyll drwg er lles dynion. Gelwir hyn yn ras cyffredinol. Mae’r gyfraith foesol (y Deg Gorchymyn) sy’n argyhoeddi pobl o’u pechodau a’u hangen am iachawdwriaeth (Galatiaid 3:24) hefyd yn atal pechod a chadw trefn o fewn cymdeithas. Yn ogystal, mae Duw wedi gosod llywodraethau i gosbi drwgweithredwyr ac annog pobl i wneud daioni (Rhufeiniad 13:1-4). Wrth ddarparu pob peth da ar gyfer dynion, mae Duw yn ei sofraniaeth hefyd yn troi yr hyn sy’n ddrwg yn ddaioni (Genesis 50:20).
GWAITH Y CREDINIWR
Mae Duw am i’w bobl chwarae eu rhan trwy wrthsefyll drygioni a gwneud lles i’w cymdogion. Ysgrifennodd Paul yn Rhufeiniad 12:21: ‘Paid â goddef dy drechu gan ddrygioni. Trecha di ddrygioni â daioni’. Mae’r Iesu hefyd yn dysgu ei ddisgyblion yn y Bregeth ar y Mynydd i fod yn halen a goleuni yn y byd (Matthew 5:13-16). Wrth ymateb i’r gorchymyn hwn, mae Cristnogion ar hyd y canrifoedd wedi ceisio gogoneddu Duw trwy wrthsefyll drwg. Mae hyn yn wir am y Cristion anhysbys lleol yn ogystal â’r rhai adnabyddus fel William Wilberforce. Er enghraifft, yn Y Tadau Methodistaidd, darllenwn am y rhai yn Llanfachreth yn nyddiau Thomas Charles a wnaeth wrthsefyll yr hyn a elwid yn ‘gyfarfodydd anfoesol’ oedd yn llygru’r ardal. Wrth glywed fod y fath gyfarfod yn digwydd, byddai’r credinwyr yn cynnal cwrdd gweddi ar yr un pryd tra y byddai eraill o’u mysg yn nodi’r sawl oedd yn ochri gyda’r un drwg. Does dim syndod fod y ‘cyfarfodydd anfoesol’ wedi chwalu yn fuan wedyn!
SEFYDLIAD Y CRISTION
Efallai y credwn ei bod yn rhwyddach yn nyddiau diwygiadau’r ddeunawfed ganrif i wrthsefyll drwg a bod yn ddylanwad da,ond dyna’n union pam y daeth Sefydliad y Cristion i fodolaeth ar ddechrau 1990au. Mae’n gweithio i annog a galluogi Cristnogion i fod yn halen a goleuni er clod i Dduw a lles y genedl. Mae’n rhoi gwybodaeth i Gristnogion am yr hyn sy’n digwydd yn y gymdeithas i’w helpu i weddïo, yn enwedig dros arweinwyr y wlad (1 Timotheus 2:2). Mae hefyd yn ceisio dylanwadu ar ddadlau moesol yr oes ac i alw ar arweinwyr i ddilyn llwybrau Duw sydd wedi’u gosod yn y Gyfraith Foesol. Ar ben hynny, mae’r Sefydliad yn amddiffyn rhyddid Cristnogion i fyw a siarad dros yr Arglwydd mewn oes sy’n gynyddol wrthwynebus a secwlar.
Mae’n bwysig nodi na all neb brofi iachawdwriaeth drwy geisio cadw’r gyfraith. Dyhead mwyaf Sefydliad y Cristion yw gweld pechaduriad yn edifarhau a chredu yn yr Arglwydd Iesu Grist. I’r diben hwnnw, mae rhyddid Cristnogol yn bwysig, nid er lles credinwyr, ond i’r colledig gael clywed yr efengyl a gweld grym achubol Crist ym mywydau ei bobl. Ar yr un pryd, mae cadw cyfreithiau Duw o fewn y wlad er lles pawb. Cyfiawnder sy’n dyrchafu cenedl (Diarhebion 14:34). Felly wrth i ni efengylu rydym hefyd yn gwneud daioni i bawb wrth ogoneddu Duw drwy wrthsefyll drwg.
MATERION DIWEDDARAF
Gyda hyn mewn golwg, mae Sefydliad y Cristion wedi bod yn weithgar yng Nghymru dros ddau achos.
Yn gyntaf, trwy arwain ymgyrch Byddwch yn Rhesymol i wrthwynebu cynnig y Llywodraeth i wahardd smacio plant. Nid ymgyrch i hybu smacio ydi hon, ond un sy’n amddiffyn hawl rhieni i ddefnyddio cosb resymol pan fyddant yn gweld yr angen.
Cynllun Duw yw i rieni gymryd cyfrifoldeb dros fagu eu plant ac ni ddylai’r llywodraeth ymyrryd mewn bywyd teuluol oni bai fod gwir angen. Yn y bil presennol, mae’r Llywodraeth yn gorymestyn yr awdurdod mae Duw wedi ei roi. Mae’n debygol y bydd y ddeddf yn arwain at griminaleiddio rhieni cariadus am ddim byd mwy na smac ysgafn ar gefn coes eu plentyn. Gall hyn ymddangos fel gorfodi agwedd ryddfrydol, seciwlar ar sut i fagu plant ar rieni sydd eisiau dilyn dysgeidiaeth y Beibl.
Yn ail, mae’r Sefydliad wedi codi cwestiynau ar gyflwyno pwnc newydd i gwricwlwm ysgolion, sef Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Mae rhai elfennau da yn y pwnc, fel helpu plant i ddiogelu eu hunain rhag deunydd anweddus ar-lein, ond mae’r canllaw ar gyfer y pwnc yn cynnwys adnoddau dadleuol a pheryglus. Mae mudiadau fel Mermaids, grŵp ymgyrchu dros hawliau pobl trawsrywiol, a’r grwp LHDT, Stonewall, yn cael eu hannog yn ffynonellau gwybodaeth i athrawon. Mae’r canllawiau hefyd yn dweud y dylai plant ddysgu fod pob math o berthynas gadarn, nid yn unig perthynas gŵr a gwraig mewn priodas, yn sail i gymdeithas gref. Mwy na hyn, mae awgrym y bydd rhieni yn colli’r hawl i neilltuo eu plant o’r gwersi hyn beth bynnag fydd y pwnc dan sylw. Mae hyn yn tanseilio rheolaeth rhieni dros addysg eu plant. Mae’n bosibl y bydd plant mor ifanc â phump oed yn cael eu harwain i gredu fod perthnasau LHDT yn iawn a’i bod hi’n ddrwg credu i’r gwrthwyneb. Mae Sefydliad y Cristion yn ceisio dylanwadu’n bositif ar y cwricwlum newydd, a bydd y corff yn parhau i hysbysu rhieni Cristnogol yng Nghymru am beth sy’n digwydd. Bydd cymorth hefyd i rieni godi gofidiau gydag ysgolion am yr hyn sy’n cael ei ddysgu i’w plant.
SEFYLL YN GADARN
Wrth inni glodfori Duw trwy gyhoeddi iachawdwriaeth yn yr Arglwydd Iesu Grist, rydym hefyd yn gogoneddu ei enw, er lles i bawb, trwy wrthwynebu drwg yn ein dydd. Mae Duw yn galw arnom i sefyll yn gadarn dros yr hyn sy’n ysgrythurol wir – nid i orfodi pobl i gytuno â ni, ond i’w gwasanaethu y gorau gallwn yn enw’r Arglwydd. Mae Sefydliad y Cristion ar gael i’ch helpu chi i wneud hyn er clod i Dduw.