Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gwirfoddolwyr i ddigido’r Beibl

22 Ebrill 2022 | gan Carwyn Graves

Gwirfoddolwyr i ddigido’r Beibl

Carwyn Graves

 

Mae tair asiantaeth cyfieithu’r Beibl wedi ymuno i sicrhau bod y Beibl ar gael yn ehangach mewn cannoedd o ieithoedd ychwanegol drwy brosiect digido uchelgeisiol. Mae MissionAssist, Cymdeithas y Beibl a Wycliffe: Cyfieithwyr y Beibl yn apelio am wirfoddolwyr i ddigido cyfieithiadau o’r Ysgrythur fel y gellir eu darparu’n rhwydd ar blatfformau mawr megis YouVersion.
Mae’r gwaith yn cynnwys copïo cyfieithiadau nad ydynt ond yn bodoli ar ffurf brintiedig oherwydd eu bod wedi eu creu cyn yr oes ddigidol, neu oherwydd bod copïau digidol hŷn wedi eu colli.

Mae llawer o’r cyfieithiadau hyn mewn ieithoedd lleiafrifol nad yw eu siaradwyr yn gallu cael gafael ar yr adnoddau niferus sydd ar gael i siaradwyr Saesneg. Yn ogystal â diwallu anghenion Cristnogion brodorol a myfyrwyr y Beibl, mae cyfieithiadau digidol – oherwydd eu bod yn ehangu’r ystod o lenyddiaeth sydd ar gael yn yr ieithoedd hyn – yn helpu i sicrhau bod yr ieithoedd a’r diwylliannau hyn yn goroesi.

Mae digido testunau yn golygu hefyd y gellir gwella cyfieithiadau cynharach a chwblhau prosiectau nad ydynt wedi eu gorffen, ac y gellir cynhyrchu fersiynau Braille i bobl ddall.
Dan arweiniad MissionAssist, mae Prosiect Digido’r Beibl yn cynnwys hyfforddi gwirfoddolwyr yn y sgiliau bysellfwrdd y mae arnynt eu hangen i drawsgrifio testunau’r Beibl i iaith nad ydynt yn ei medru. Mae angen sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol ar wirfoddolwyr, ond cywirdeb a’r gallu i ganolbwyntio sydd bwysicaf.
Yn y dechneg a ddatblygwyd gan MissionAssist, mae dau wirfoddolwr yn gweithio’n annibynnol ar yr un testun ac mae eu canlyniadau’n cael eu coladu a’u gwirio o’u cymharu â’r testun printiedig gwreiddiol a’u cywiro gan wirfoddolwr arall yn ôl yr angen er mwyn sicrhau’r lefel uchaf bosibl o gywirdeb.
Mae Mrs Christine Reynolds (76), o Balham, yn digido’r Salmau i iaith Micmac, iaith frodorol sydd mewn perygl, un a ddefnyddir gan lai na 7,000 o bobl yn Nova Scotia. Dywedodd hi fod y gwaith yn heriol oherwydd y sgiliau canolbwyntio sydd eu hangen, yn ogystal â’r sgiliau y bu’n rhaid iddi eu dysgu er mwyn mewnbynnu’r llythrennau Micmac. ‘Mae’n rhaid i mi ddefnyddio bysellau nad wyf erioed wedi bod yn agos atyn nhw o’r blaen’, meddai hi. ‘Mae angen pedwar trawiad bysell ar gyfer rhai llythrennau.’
Dywedodd hi: ‘Mae’r gwaith yn rhoi boddhad mawr ichi oherwydd eich bod chi’n galluogi rhywun i gael gafael ar y Beibl. Rydych chi’n helpu i achub iaith sydd mewn perygl hefyd – mae’r byd yn mynd yn wallgof ynglŷn â rhywogaethau sydd mewn perygl, ond rydyn ni’n anghofio bod ein hieithoedd a’n diwylliannau ein hunain yn diflannu. Yn ogystal â diwallu anghenion ysbrydol rhywun, rydych yn cadw iaith calon rhywun yn fyw.’

Dywedodd James Poole, Cyfarwyddwr Gweithredol Wycliffe: ‘Mewn byd lle nad yw bron i 1 o bob 5 o bobl yn gallu cael gafael ar y Beibl yn eu hiaith eu hunain, ond lle bo’r defnydd o ffonau clyfar a’r rhyngrwyd yn cynyddu’n gyflym, mae hon yn fenter strategol iawn. Gall bod ag Ysgrythur ddigidol ar ffurf ddarllenadwy a sain fod yn drawsnewidiol i eglwysi a chymunedau, a gall Cristnogion yma yn y DU wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn hynny o beth.’

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol MissionAssist, y Parch. Daryl Richardson: ‘All Beibl ddim gwneud llawer gan orwedd mewn storfa lyfrgell wedi’i orchuddio gan lwch, ond pan fo pobl yn darllen neu’n clywed gair Duw drostynt eu hunain, yna mae bywydau’n cael eu newid. Mae’n waith hynod o werthfawr – ac iddo ganlyniadau tragwyddol – pan fo gwirfoddolwyr yn rhoi rhywfaint o’u hamser hamdden i wneud yr Ysgrythurau’n hygyrch yn y cenhedloedd y’u bwriedir ar eu cyfer. ’Dyw’r bobl hyn ddim yn rhan o’r broses gyfieithu, ond trwy ddefnyddio bysellfyrddau eu cyfrifiaduron gartref, ar ôl cael hyfforddiant oddi wrth MissionAssist, maen nhw’n sicrhau bod llyfrau o’r Beibl ar gael i bobl eu darllen neu eu clywed yn eu gwlad eu hunain. Mae’n fraint gallu anfon gair iachawdwriaeth o gysur ein cartrefi ein hunain ledled y byd.’

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas y Beibl, Paul Williams: ‘Mae digido cyfieithiadau o’r Beibl yn hynod o bwysig. Cymdeithas y Beibl sydd â’r casgliad mwyaf o Ysgrythurau printiedig yn y byd, ac yn ein harchifau ceir testunau mewn ieithoedd nad oes Ysgrythurau ar-lein iddyn nhw. Rydyn ni’n dymuno sicrhau eu bod nhw ar gael mor eang â phosibl fel y gall mwy a mwy o bobl ddarllen y Beibl yn iaith eu calon. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda chymdeithasau Beibl ac asiantaethau cyfieithu eraill i wneud i hyn ddigwydd. Mae gan wirfoddolwyr bysellfwrdd ran hanfodol i’w chwarae o ran gwneud gair Duw yn hygyrch heddiw.’

Yn iaith Kare, sef iaith Gweriniaeth Canolbarth Affrica, y mae un o’r cyfieithiadau sy’n cael ei ddigido. Dywedodd un siaradwr brodorol sy’n gweithio ar adolygiad gyda Wycliffe: ‘Ers i mi gael fy ngeni, dw i erioed wedi gweld testun yn iaith Kare. Ond yn awr, rydyn ni wedi darllen testun yn ein hiaith ein hunain am y tro cyntaf!’

I gael gwybod mwy am brosiect Digido’r Beibl neu sut y gallwch helpu, cysylltwch ag Ymholiadau Gwirfoddoli: volunteers@missionassist.org.uk