Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gweledigaeth Genhadol

26 Ebrill 2022 | gan Gwen Emyr

Gweledigaeth Genhadol

Adolygiad gan Gwen Emyr

Lindsay Brown, Into All the World: The Missionary Vision of Luther and Calvin, (Fearn: Christian Focus, 2021), 119 tt., £8.99.

 

Pan ddaeth Cynhadledd yr IVF (>UCCF) i Gymru yn 1949, gan ymgynnull yng ngwesty Pantyfedwen, Y Borth, dangosodd Gwyn Walters (Ysgrifennydd Teithiol cyntaf yr IVF yng Nghymru) fap o’r byd, gan esbonio’r egwyddor o edrych allan, sef y pwyslais ar genhadaeth, boed gartref neu dramor.

Yn ddiweddarach, yn y 1970au, pan oedd Lindsay Brown yn astudio yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen, ar gyfer gradd mewn hanes Ewropeaidd, cafodd gyfle, wrth arwain yr Undeb Cristnogol, i rannu’r efengyl â myfyrwyr oedd yn hanu o sawl gwlad. Yn y cyfnod ffurfiannol hwnnw, penderfynodd gysegru ei fywyd i wasanaethu byd mewn angen, yng ngwaith y colegau, drwy gyflwyno’r newyddion da am Iesu Grist. Yn 1977 fe’i penodwyd yn Ysgrifennydd Teithiol ar ran yr UCCF yng ngholegau Cymru. Yna, yn 1981, dechreuodd waith mawr ei fywyd yn y cyd-destun rhyngwladol (IFES). Maes ei astudiaethau arbenigol yn y brifysgol oedd hanes Ewrop rhwng 1500 ac 1700: cyfnod y Diwygiad Protestannaidd. Gwelwn, felly, fod ganddo adnoddau fel hanesydd a hefyd brofiad helaeth yn y colegau.

Yn ei gyflwyniad, esbonia’r awdur fod y llyfrau a ysgrifennwyd am Martin Luther a John Calfin yn canolbwyntio ar y dylanwad aruthrol a gawsant ar ailddarganfod hanfod yr efengyl Gristnogol a diwygio’r eglwys. Mae Lindsay Brown yn mynd rhagddo i rannu o ffrwyth ei ymchwil mewn dau faes cysylltiol sef, yn gyntaf, effaith y Diwygiad Protestannaidd ar ddiwylliant Ewrop, a’r gwaith o gymhwyso gwirioneddau Beiblaidd i gymdeithas yn ei holl agweddau, gan gynnwys addysg, gwyddoniaeth, y celfyddydau, gwleidyddiaeth a rhyddid yr unigolyn. Ac yn ail, effaith y Diwygiad Protestannaidd ar holl gyfandir Ewrop drwy’r pwyslais a roddwyd ar genhadaeth.

Yn y llyfr fe welwn fod sawl un wedi ymchwilio i’r agweddau hyn yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf, ac mae’r awdur yn enwi Alister McGrath yn Rhydychen, Jean-Marc Berthoud ac Andy Buckler yn Ffrainc, a nifer o rai eraill sydd wedi torri tir newydd yn eu hymchwil i’r meysydd dan sylw drwy fynd yn ôl at y ffynonellau gwreiddiol. Mae’r gyfrol yn dwyn i’n sylw gasgliadau o bwys, ac mae’r awdur yn gobeithio y bydd hyn yn deffro awydd ynom i fod yn fwy cenhadol yn ein dyddiau heriol ni.
Mae’r awdur yn dangos bod Luther a Calfin yn wladgarwyr oedd yn caru eu diwylliant a’u hiaith eu hunain, ond bod yr efengyl wedi’u gwefreiddio i’r fath raddau nes eu bod yn llawn sêl genhadol i wasanaethu diwylliannau eraill. Lledaenodd neges Luther a’i ddilynwyr yn Wittenberg i daleithiau’r Baltig, Sgandinafia ac ymhellach, gan adael ei marc yn drwm ar yr eglwys Anglicanaidd newydd. Arweiniodd y diwygiad, dan arweiniad Calfin yn Genefa, at ledaeniad yr Efengyl yn y Swistir, Ffrainc, yr Iseldiroedd, Gwlad Pwyl, Hwngari a hyd yn oed cyn belled â Brasil.

Cawn gip ar strategaeth y diwygwyr, sef canolbwyntio’u hymdrechion ymhlith myfyrwyr y colegau a meithrin cysylltiad â brenhinoedd a breninesau. Roedden nhw’n sylweddoli hefyd y cyfle oedd ar gael i rannu’r newyddion da â phobl oedd ar wasgar o’u gwledydd eu hunain.

Mae’r gyfrol hon yn crynhoi’r gwersi a ddysgodd Lindsay Brown wrth ymweld â’r gwledydd ac astudio’r hanes ymhellach. Defnyddiol iawn yw ei grynodeb o’r hyn a ddysgodd ef yn ystod ei yrfa.

1. Mae’n rhaid i’r neges Gristnogol fod yn glir.

2. Rhaid wrth synnwyr o ryfeddod wrth rannu’r newyddion da ag eraill.

3. Rhaid ymddiried yn llwyr yng ngallu’r Ysgrythur i newid calonnau.

4. Mae angen cefnogi cyhoeddi’r efengyl gyda cherddoriaeth gan fod gair a chân yn mynd law yn llaw. Fel y dywedodd Luther ei hun, yn ail i Air Duw mae cerddoriaeth yn haeddu’r clod uchaf.

5. Mae lledaenu’r newyddion da yn y prifysgolion a’r colegau yn allweddol. Fel y dywedodd Luther, os ydym am newid y byd, rhaid dechrau gyda’r prifysgolion.

6. Rhaid gweithio mewn timau.

7. Rhaid pregethu efengyl sy’n cyffwrdd â phob agwedd ar fywyd, a gochel rhag cefnu ar gymdeithas.

8. Cofier pwysigrwydd cyrraedd ymfudwyr gyda’r newyddion da.

9. Angenrheidiol yw bod yn greadigol wrth gyflwyno’r efengyl.

10. Gallwn hyderu bod gwirionedd bob amser yn lledaenu, ac na all ffiniau gwleidyddol atal ei dwf.

Yng nghefn y gyfrol ceir llinell amser y Diwygiad Protestannaidd, sy’n gymorth defnyddiol i osod gwaith Luther a Calfin mewn cyd-destun hanesyddol. Ceir hefyd restr o lyfrau ar gyfer darllen pellach a chyflwyniad byr i rai cyfrolau diweddar ar hanes y Ffydd Gristnogol.

Mae’r gyfrol yn cloi gyda geiriau Kenneth Scott Latourette a rannodd bwysigrwydd y chwe arf sydd gennym wrth wynebu’r byd, sef gweddi, efengylu, esiampl, dadl, gweithredu a dioddefaint.

Gwelwn yn y gyfrol werthfawr hon fod y Diwygwyr wedi defnyddio’r chwe arf yn ffyddiog ac effeithiol. Pwysleisia Lindsay Brown mai dyna’r her i ninnau. Rhaid dysgu o hanes y gorffennol, ac wrth edrych yn ôl gallwn gamu ymlaen yn fwy effeithiol.
Diolch am gyfrol hynod ddarllenadwy sy’n rhagflas o gyfrolau eraill sydd yn yr arfaeth. Dymunwn bob bendith i Lindsay ac Ann Brown ar ddechrau cyfnod newydd ym mywydau’r ddau.