Gweld yn Glir: Salm 73
John Treharne
Dyma Salm werthfawr, ymarferol, ysbrydol, cadarnhaol a real. Mae Asaph, un o brif gerddorion Lefiaidd Dafydd, trwy’r Ysbryd Glân, yn cyhoeddi daioni Duw – a hynny nid yng nghyd-destun bywyd cyfforddus a llewyrchus – ond yn hytrach yn wyneb creisis ysbrydol gyda threialon a themtasiynau garw, cenfigen a chwestiynu ffôl. Mae’n Salm amhrisiadwy i Gristnogion sy’n wynebu anawsterau, sy’n cael eu temtio i roi’r ffidil yn y to, ac yn cwestiynu a yw’r bywyd Cristnogol yn werth ei fyw. Mae’n dangos nodweddion a pheryglon gwrthgilio, ond hefyd sut mae adfer y gwrthgiliad.
Gallwn rannu’r Salm yn dair rhan: Ad. 1-12; 13-17; 18-28. Wrth edrych ar yr adrannau, gallwn ystyried gwreiddyn a gwellhad i’r argyfwng a golwg clir unwaith eto.
Gwreiddyn yr argyfwng (ad. 1-12)
Mae’r Salm yn agor gyda datganiad o ddaioni Duw i’r wir Israel – y pur o galon. Cawn ddisgrifiad o ddaioni Duw yn Exodus 34.6,7: ‘Aeth yr Arglwydd heibio o’i flaen, a chyhoeddi: ‘Yr Arglwydd, yr Arglwydd, Duw trugarog a graslon, araf i ddigio, llawn cariad a ffyddlondeb; yn dangos cariad i filoedd, yn maddau drygioni a gwrthryfel a phechod, ond heb adael yr euog yn ddi-gosb.”’
Mae meddyliau cywir am Dduw yn ein cryfhau yn erbyn temtasiynau Satan. O golli golwg ar ei ddaioni, ryn ni’n wan ac yn fwy agored i’w ymosodiadau mileinig. Mae Asaph wedi dod nôl at olwg eglur o fywyd gyda phersbectif Gair Duw.
Mae calon bur yn allweddol i fendith nefol a gwynfyd ysbrydol. Mae’n golygu calon agored gerbron yr Arglwydd heb ryw gysgodion i guddio dim oddi wrtho. Mae’n golygu rhodio yn y goleuni.
Symptomau’r argyfwng (ad 1-12)
Mae Asaph yn genfigennus o’r annuwiol! Dylai hyn ein syfrdanu. Bod plentyn yr Hollalluog yn eiddigeddus o rywun sydd heb geisio nac adnabod yr Arglwydd. Os yw hyn yn wir, mae rhywbeth mawr o’i le, mae salwch ysbrydol difrifol arno.
Ar un olwg, mae’r di-gred yn llewyrchus iawn: yn iach, yn gyfoethog ac yn rhydd o drafferthion; maen nhw’n falch, didrugaredd, calon-galed, gwawdlyd ac yn hyf yn erbyn Duw; eto maen nhw’n boblogaidd a llwyddiannus.
Gallwn ni feddwl yr un ffordd heddiw hefyd. Efallai ein bod ni’n adnabod rhai sydd yr un mor ddi-Dduw, ffroenuchel a gwawdlyd, ac eto sy’n gwneud yn dda iawn … yn nhermau’r byd. Gallwn deimlo bod Cristnogaeth yn amherthnasol, gan fod sawl agenda arall ‘pwysicach’ ar feddwl ein cymdeithas gyfoes. Onid yw arbed y blaned yn bwysicach nag arbed eneidiau; a chyrraedd Mawrth yn bwysicach na chyrraedd nefoedd a daear newydd; ac onid yw cywiro ‘camgymeriadau’ ein geni yn dod trwy newid corff, nid trwy ein geni o’r newydd?
At y gwreiddiau: Mae’r broblem yn codi o gael golwg unllygeidiog o fywyd, fel edrych mewn drych rhyfedd yn hall of mirrors y ffair. Mewn un drych gallwn edrych yn dal iawn – a bydd un arall yn ein dangos yn llydan a chryf – heb newid dim ar siâp real y corff. Os nad yw’n golwg ar fywyd yn cyd-fynd â’r Beibl (lle cawn bersbectif Duw) bydd y cwbl yn dwyll.
Gwella’r argyfwng (ad. 13-17)
Mae Asaph yn holi cwestiynau dwfn iawn. Ydy ceisio byw y bywyd sanctaidd – gyda phurdeb yn y galon, ac yn ein ffordd o fyw (y dwylo) – yn ofer a dibwrpas? Pam mae cymaint o anawsterau yn y bywyd hwn, fel petai pla arnom, a gwg y nef? Pam mae treialon yn ein bwrw nôl mor amal? Ac mae hyn yn berffaith wir ym mhrofiad pob Cristion sydd o ddifrif yn ceisio plesio’r Arglwydd yn ei fywyd. Beth am addewidion fel Salm 1.3: “Beth bynnag a wnel, fe lwydda.”?
Mae gwellhad yr argyfwng yn dibynnu i raddau helaeth ar beth a wnawn ni â’r meddyliau hyn. Rhaid gwneud dewisiadau pwysig:
Mynd yn gyhoeddus neu gadw’n breifat? Dweud y cwbl ar Facebook, Twitter a tik-tok ai peidio? Mae Asaph yn cadw hyn yn breifat nes dod trwy’r creisis. Mae’n ddyn dylanwadol, a gallai achosi cwymp brawd neu chwaer yn y Ffydd. Mae hyn yn rhywbeth difrifol iawn yng ngolwg yr Arglwydd Iesu: ‘Ond pwy bynnag sy’n achos cwymp i un o’r rhai bychain hyn sy’n credu ynof fi, byddai’n well iddo pe crogid maen melin mawr am ei wddf a’i foddi yn eigion y môr’ (Mathew 18:6).
Agosáu at Dduw neu gadw draw? Glynu wrth ei amheuon a’i ddryswch a beio Duw, neu nesáu ato gyda’r holl gwestiynau dyrys? Mae’n dod i’r cysegr – man sydd yn cynrychioli’r nef ar y ddaear. Man lle daw’n ymwybodol o Dduw, man cyfarfod. Mae fel person mewn trafferth mewn gwlad ddieithr, yn troi i mewn i lysgenhadaeth ei famwlad. Rhaid i ni beidio byth ag esgeuluso moddion gras Duw. Dyma sut mae’n cyfleu gras i ni ddod i’w adnabod, i aros yn Iesu Grist a dal ati tan y diwedd. Beth yw’r rhain? Gair Duw (ei glywed, ei ddarllen a’i fyfyrio), gweddi, yr ordinhadau a chymdeithas saint Duw. Moddion gras. Dyma ble caiff ein golwg ar bopeth ei wella a’i gywiro. Dyma ble cawn berspectif Duw.
Golwg clir unwaith eto (ad. 18-28)
Nawr mae’n cofio beth yw’r perspectif iawn ar fywyd. Mae’n cofio taw dim ond hanner cyntaf ein bodolaeth yw bywyd ar y ddaear, tra bod ail hanner ar ôl marwolaeth. Nid ein cyflwr allanol nawr sydd wir yn cyfrif, ond ein cyflwr mewnol, a’n diwedd maes o law. Rhaid cofio diwedd Salm 1: ‘Y mae’r Arglwydd yn gwylio ffordd y cyfiawn, ond y mae ffordd y drygionus yn darfod. Mae’r llwybr llydan, hawdd ei chael, hawdd ei dilyn, yn arwain i ddistryw.
Mae unrhyw lwyddiant mae’r annuwiol yn ei brofi nawr yn fyr iawn ei barhad. Mae fel bod ar sleid enfawr gyda lot o hwyl, nes sylweddoli ei fod yn disgyn i ddistryw uffern. Ac os ydyw’n ymddangos bod yr Arglwydd yn cysgu nawr, fe fydd yn deffro i Farn cyn hir, a bydd rhaid rhoi cyfrif i Dduw am ein bywyd.
Mae’n gweld ac yn cyffesu ei ffolineb gerbron Duw. Mae’n diolch bod yr Arglwydd yn ffyddlon iddo, ac yn bopeth iddo hefyd.
Mae llewyrch y Cristion yn ei berthynas â’r Arglwydd. Mae’n llawer dyfnach nag amgylchiadau allanol. Mae’n golygu adnabod y gwir Dduw fel Tad, ac adnabod y Mab fel Bugail, Craig a Phriod, ac adnabod yr Ysbryd Glân fel Diddanydd a Chyfnerthwr yn wyneb holl droeon trwstan bywyd.
Mae’n gweld ei wendid, a chryfder ei Waredwr. Mae’r Arglwydd yn caniatáu i ni weld hyn yn gyson trwy amryw brofedigaethau, er mwyn ein taflu nôl ar gadernid ein Duw.
Mae mor dda i fod yn Gristion; i fod yn agos at yr Arglwydd trwy ffydd; i gael gobaith byw o fywyd tragwyddol mewn ‘cartref’ dibechod, di-boen a gogoneddus gyda’n Duw yn barhaus.