Gweddio dros waith Duw ynom ni
Gwyon Jenkins
(13) Yr wyf yn erfyn, felly, ar ichwi beidio â digalonni o achos fy nioddefiadau drosoch; hwy, yn wir, yw eich gogoniant chwi. (14) Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau gerbron y Tad, (15) yr hwn y mae pob teulu yn y nefoedd ac ar y ddaear yn cymryd ei enw oddi wrtho, 16) ac yn gweddïo ar iddo ganiatáu i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, gryfder a nerth mewnol trwy’r Ysbryd, (17) ac ar i Grist breswylio yn eich calonnau drwy ffydd. (18) Boed i chwi, sydd â chariad yn wreiddyn a sylfaen eich bywyd, gael eich galluogi i amgyffred ynghyd â’r holl saint beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist, (19) a gwybod am y cariad hwnnw, er ei fod uwchlaw gwybodaeth. Felly dygir chwi i gyflawnder, hyd at holl gyflawnder Duw.
Effesiaid 3:13-19
Yn y darn hwn, dechreuwn feddwl am weddïo y bydd yr Arglwydd yn gweithio yn ein calonnau ni.
Onid yw hi’n rhwydd digalonni? Mae llawer o bethau yn gallu achosi hyn. Mae Paul yr Apostol yn dioddef a rhai o Gristnogion Effesus yn colli ysbryd. Felly, i helpu, mae Paul yn ysgrifennu’r llythyr hwn sy’n disgrifio iachawdwriaeth fawr y Cristion trwy Iesu Grist ac fel y mae’r iachawdwriaeth honno yn newid ein bywydau. Yn y rhan hon o’r llythyr, mae Paul yn gweddïo na fydd Cristnogion Effesus yn digalonni, ond yn cael eu nerthu, yn dod i adnabod Crist yn well, yn gweld pa mor fawr yw gwaith Duw yn yr achubiaeth, ac yn dod i weld dyfnder cariad Crist. Dyma’r pethau i chi a fi eu gweddïo am ein hunain ac am ein gilydd a gofyn i’r Arglwydd weithio yn ein calonnau ninnau.
Gweddïwch:
- Y bydd Duw yn ein cryfhau a’n nerthu yn fewnol trwy’r Ysbryd Glan, ad.16 ‘yn gweddïo ar iddo ganiatáu i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, gryfder a nerth mewnol trwy’r Ysbryd’. Mae angen cryfhau ar bob un ohonom ni. Wedi bod yn Gristion am bum wythnos neu 50 mlynedd, mae angen ein cryfhau. Pan rydyn ni’n digalonni, rydyn ni’n gweld ein gwendid. Felly, gweddïwch y bydd Duw yn ein nerthu. Sut mae Duw yn gwneud hyn? Trwy waith mewnol yr Ysbryd Glân! Nid gwaith arwynebol, ond gwaith mewnol yn ein heneidiau yn ôl cyfoeth gogoniant, cryfder a nerth Duw trwy yr Ysbryd. Yn ôl cyfoeth ei ogoniant. Y mae’r Ysbryd yn ein cryfhau ni, ein helpu ni i dyfu mewn gras ac i aeddfedu oherwydd gogoniant a grym Duw. Gweddïwch y bydd yr Arglwydd yn eich cryfhau â nerth mewnol trwy’r Ysbryd Glan.
- Y byddwn yn gallu amgyffred maint gwaith Duw ad.18, ‘…gael eich galluogi i amgyffred ynghyd â’r holl saint beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist.’ Mae cyflawnder person Duw a’i waith ynom (trwy’r efengyl) yn enfawr. Yn rhy fawr i’w fesur na’i ddisgrifio. Yn rhy fawr i un ohonom ni ei werthfawrogi’n gyflawn. Felly mae yna ddigon o le i ddysgu am, deall yn fwy, a rhyfeddu’n fwy at berson ein Duw mawr. Dysgu mwy hefyd am, a rhyfeddu’n fwy, at y gwaith enfawr o achub pechaduriaid trwy aberth Iesu Grist. Gweddïwch y byddwch yn dod i werthfawrogi maint gwaith Duw yn fwy o fewn rhagluniaeth ac yn yr iachawdwriaeth. Y mae Iesu yn Waredwr enfawr dewch i’w adnabod a’i werthfawrogi’n well.
- Y byddwn yn gwybod am gariad Crist sydd uwchlaw gwybodaeth ad.19, ‘…a gwybod am y cariad hwnnw, er ei fod uwchlaw gwybodaeth.’ Y mae pob gair yn methu disgrifio’n gyflawn, gariad Crist tuag at bechaduriaid, (pobl sy’n feirw yn eu camweddau a phechodau). Ond, er bod geiriau yn methu, rydyn ni’n gallu gwybod am gariad Crist a gwerthfawrogi, rhyfeddu at, a moliannu Duw yn fwyfwy oherwydd ei gariad ef a chariad Crist. Y mae cariad Crist uwchlaw gwybodaeth ond rydyn ni’n gallu gwybod am gariad Crist a gwerthfawrogi fwyfwy y cariad rhyfeddol hwn.
I gloi
Gweddïwch felly y bydd Duw yn gweithio ynom ni, fel y byddwn yn cael ein cryfhau, yn gwerthfawrogi maint ei berson, ac yn rhyfeddu at gariad Crist, fel na byddwn yn digalonni, ond yn y parhau yn ffyddlon yn ei waith.