Gwaith yr Efengyl yn yr Eglwys yng Nghymru
Stuart Bell
Roedd 2020 yn flwyddyn fawr i’r Eglwys yng Nghymru sy’n dathlu canmlwyddiant ei chreu’n Eglwys Anglicanaidd annibynnol ar Loegr a’r wladwriaeth. Oherwydd y pandemig, ni fu modd dathlu hyn fel y disgwylid, ond diolch i Stuart Bell, un sydd wedi bod yn amlwg iawn ei dystiolaeth yn yr Eglwys dros ddeugain mlynedd, am roi cip i ni ar gyflwr ysbrydol yr Eglwys – yr heriau a’r calondid – i’n helpu i weddïo am yr eglwysi hyn.
Y rhwyg
‘Tad-cu, ti’n rhwygo fy nghot’ gwaeddodd ein hŵyr ieuengaf pan oeddem ni yn y maes chwarae yn Nantyrarian. Roedd e wedi dechrau bod yn anufudd ac fe gydiais yn ei got er mwyn ei rwystro rhag rhedeg i ffwrdd. Fe glywodd y ddau ohonom ei got yn rhwygo. Roedd e’n iawn i ddweud bod y gwnïo’n dod yn rhydd, ond fe oedd yn tynnu i ffwrdd oddi wrthyf fi, a dim fi yn tynnu i ffwrdd oddi wrtho fe. Yn ei ddicter roedd e’n rhoi’r bai arnaf i yn hytrach na dod yn ôl a bihafio.
Dyna’n union yw’r sefyllfa yn yr Eglwys yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’r Cristnogion efengylaidd yn ein henwad yn clywed y cyhuddiad ein bod yn rhwygo’r eglwys. Yn fwy na hynny, rydym wedi derbyn galwad oddi wrth yr awdurdodau i beidio â pholareiddio’r eglwys. Ond y gwir amdani yw hyn: dydyn ni ddim yn tynnu i ffwrdd oddi wrth yr Ysgrythurau na’r Eglwys, os rhywbeth rydym yn cydio ynddynt yn dynnach fyth am ein bod ni’n medru gweld y cyfeiriad y mae’n harweinwyr yn mynd yn eu polisïau a’u penderfyniadau. Os ydy’r awdurdodau rhyddfrydol yn tynnu i ffwrdd oddi wrthym ni, ac oddi wrth yr Ysgrythurau, pwy sy’n polareiddio’r eglwys? Pwy sy’n ei rhwygo?
Hanfodion
Yn gymharol ddiweddar, dechreuodd mudiad newydd yn yr Eglwys yng Nghymru o’r enw Hanfodion Anglicanaidd Cymru. Yr hyn sydd wedi digwydd yw bod aelodau efengylaidd, aelodau carismataidd ac aelodau Engyl-Gatholig wedi dod at ei gilydd i dystio i gred, ymarferiadau a moesoldeb uniongred ac ysgrythurol. Fe gawsom gynhadledd yng Nghaerdydd ym mis Mawrth y llynedd gyda 150 ohonom yn bresennol i gadarnhau ein hymrwymiad i Grist ac i’w Air ef.
Safbwynt sydd wedi’i fynegi ers hynny yw bod canghennau gwahanol yn ein henwad wedi dod at ei gilydd. Dyw hynny ddim yn wir. Nid canghennau o’r Eglwys ydym ni, ond gwreiddiau’r Eglwys. I bob un ohonom, mae ein gwreiddiau yn yr Ysgrythurau ac yn y dealltwriaeth traddodiadol o’r Ysgrythurau hefyd. Nawr, mi all coeden fforddio colli ambell gangen a pharhau i flodeuo a ffrwytho. O dro i dro, mae’n lles i’r goeden golli cangen neu ddwy, os ydy’r canghennau hynny’n wan neu’n afiach. Ond rhywbeth gwahanol iawn yw colli cysylltiad efo’i gwreiddiau. Marwolaeth sy’n wynebu’r goeden, a dyna’r realiti sy’n wynebu’r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, rwy’n ofni, os na fydd yr awdurdodau’n gwrando, yn edifarhau a throi nôl at yr Ysgrythurau ac at ei gwreiddiau.
Y gynnen
Ers llawer dydd, roedd dadl rhwng Luther ac Erasmus, ac fe ddywedodd Luther rhywbeth digon llym wrth ei gyfaill. ‘Beth yw’r gwahaniaeth rhyngoch chi a finnau, Erasmus? Rydych chi’n eistedd uwchben y Beibl ac yn ei farnu, tra fy mod i’n eistedd oddi tan y Beibl ac yn caniatáu iddo fy marnu i’. Mae ein hawdurdodau wedi priodi barn Erasmus. Maent yn eistedd uwchben yr Ysgrythurau ac yn dweud eu bod yn gwybod yn well.
Ichabod?
Mae arweinwyr ein heglwys yn pellhau oddi wrth egwyddorion Beiblaidd ac yn dilyn agenda y byd secwlar, yn enwedig y lobi hoyw a ffeministaidd. Un o’r cwestiynau mae Cristnogion wedi eu trafod trwy hanes yr Eglwys yw, pryd mae eglwys yn mynd mor bell i ffwrdd oddi wrth yr Arglwydd nes ei fod ef yn golchi ei ddwylo o’r enwad neu’r gynulleidfa honno ac ar ôl hynny mae’n methu â’i bendithio na’i defnyddio na gweithio trwyddi hi. Pryd bydd Duw yn ysgrifennu’r gair ‘Ichabod’, uwchben yr eglwys, ‘ciliodd gogoniant yr Arglwydd’? Y gwir yw, Duw yn unig a ŵyr. Ond nes ein bod ni’n gweld y gair yna wedi’i ysgrifennu yn yr awyr uwchben yr Eglwys yng Nghymru rydym yn dal i weddïo, yn dal i weithio ac yn dal i obeithio y bydd dylanwad ein Cristnogion uniongred a ffyddlon yn ddigon i’w throi hi’n ôl a gweld ein harweinwyr a’n heglwys yn edifarhau ac yn dychwelyd i lwybrau pur sancteiddrwydd unwaith eto.
Ni allwn farnu’r aelodau sy’n ein gadael ac sy’n dweud na all eu cydwybod eu cadw o fewn ein praidd Anglicanaidd mwyach. Yn sicr, mae yna nifer sylweddol sy’n chwilio am gartref ysbrydol mewn mannau eraill, sy’n tynnu nôl o’r cynulleidfaoedd lleol, ac sy’n addoli gydag enwadau eraill; rhai, yr wyf wedi clywed amdanynt sy’n newid eu hewyllysiau am nad ydynt yn teimlo’n gysurus i adael arian i eglwys sy’n crwydro oddi wrth yr Ysgrythurau.
Arwyddion gobeithiol
Ond er ein bod yn cario consyrn dwfn yn ein calonnau am y cyfeiriad rhyddfrydol y mae arweinwyr yr Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru yn ei gymryd, eto i gyd mae’n galondid gweld beth sy’n digwydd mewn ambell eglwys Anglicanaidd leol. Mae nifer sylweddol o offeiriaid efengylaidd yn dal i wasanaethu o fewn ein henwad. Os rhywbeth, llawer mwy nag yr ydym wedi’u gweld am sawl cenhedlaeth. Maent wedi eu gwasgaru ar hyd a lled y dalaith, yn y gogledd a’r de, mewn plwyfi tref a chefn gwlad, plwyfi dwyieithog ac uniaith Saesneg. Tua hanner cant o flynyddoedd yn ôl dim ond llond dwrn o offeiriad efengylaidd oedd i’w gweld yn ein henwad. Erbyn heddiw gallwn gyfrif dros gant ohonynt, sy’n llawn egni a gweledigaeth, ac sy’n gweithio i weld newid yn ein Heglwys o’r pen i lawr. Mae aelodaeth y Gymdeithas Efengylaidd yn yr Eglwys yng Nghymru wedi mynd heibio’r 300 erbyn hyn, sy’n beth hyfryd i’w wybod.
Rydym yn clywed hanesion hefyd sy’n rhoi calondid mawr i ni ac sy’n ein cadarnhau ni yn ein cred nad yw’r Arglwydd wedi gorffen gyda’n henwad ni eto. Rydym yn clywed sôn am Gristnogion newydd yn cael eu bedyddio, yn y môr, mewn chwarel, ac mewn tanciau bedydd. Rydym yn clywed am bobl yn troi at yr Arglwydd; pobl a oedd yn grefyddwyr traddodiadol, rhai eraill yn anffyddwyr, rhai yn Foslemiaid, a rhai yn baganiaid [yn llythrennol]. Rydym yn clywed am bobl afradlon yn dod yn ôl hefyd, yn dod adre ac yn ailddarganfod eu ffydd. Dyna’r storïau sy’n ein cadw ni ar ein gliniau, sy’n ein cadw yn yr Eglwys yng Nghymru ac sy’n ein codi ni o’r gwely yn y bore. Diolch Iddo!