Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Fy nheulu i: Profiad 3 Cenhedlaeth

14 Ebrill 2022

Fy nheulu i: Profiad 3 Cenhedlaeth

 

Nain/ hen nain: Rhiain Lewis, Aberystwyth

I mi llawenydd, braint, cyfrifoldeb a hwyl yw cael bod yn nain a hen nain bellach. Tri phlentyn sydd gennym, 12 o wyrion a 6 gorwyr, a’u hoedran o ddeufis i 31.Yn ôl rhagluniaeth ac arweiniad Duw, mae bod yn rhan o deulu yn foddhaol iawn. Duw ordeiniodd y teulu yn sail i’n cymdeithas. Tros y blynyddoedd rwyf wedi gweddïo’n feunyddiol ar i Dduw fendithio’n hwyrion ac iddynt ddod i brofiad byw o’i ras. Mae’n bwysig iddynt sylweddoli fod Duw yn ei holl briodoleddau yn rhan annatod o hapusrwydd a dedwyddwch fy mywyd i a’m teulu.
Rwy’n argyhoeddedig y dylem fanteisio hefyd ar bob cyfle i sgwrsio a thrafod gyda’r wyrion, am gyfiawnder Duw a’i drefn ar gyfer bywyd bob dydd. Weithiau fe ddaw cyfle i rybuddio, ond ceir cyfleoedd bob amser i gefnogi ac annog.
Caf ddedwyddwch yng nghwmni’r wyrion ar fin nos yn syllu ar y sêr a’r lleuad neu dreulio amser ar lan y môr. Wrth fynd am dro gyda hwy, edrychwn ar harddwch natur a’u hatgoffa mai Duw a greodd y cyfan.
Cawn hwyl fawr yn chwarae gemau o bob math a’r chwerthin a’r miri’n atseinio drwy’n cartref. Cynhaliwn ddathliad mawr ar nos Wener olaf y Gynhadledd Saesneg – sgwrsio, trafod a phawb ynghyd yn bwyta plataid o fwyd Tsieineaidd.
Blynyddoedd yn ôl, ysgrifennodd Bethan gerdd amdanaf – dyma un pennill :-
Triw yw Nain i’r fitaminau
Ac yfai folasis fesul galwynau.
Gweithio yn y siop a phrysur yn gwnïo.
Recordio i’r deillion a gwneud cinio.
‘Nain’, meddai rhywun, ‘yw cael ail gynnig!’
Tybed?

Tad: Emyr Jones, Resolfen

Rwyf yn dad i dri o blant: y tri yn eu harddegau erbyn hyn. Fel y byddai pawb yn cytuno, mae bod yn dad (neu’n fam) yn gyfrifoldeb mawr a byddaf fi (a’m gwraig) yn teimlo’n ddigon annigonol ar y gorau. Serch hynny, mae bod yn dad wedi dod â bendithion di-ri i mi. Un o’r meysydd lle mae hynny wedi bod yn arbennig o wir yw trwy ein ‘dyletswydd deuluol’. Ers i’r plant gael eu geni, rydym wedi neilltuo amser o’r dydd er mwyn dod at ein gilydd i addoli. Byddwn yn canu, darllen y Beibl, ceisio esbonio’r Gair a gweddïo gyda’n gilydd. Rwyf yn gredwr cryf ym mhwysigrwydd yr arfer hon a byddwn am annog teuluoedd eraill i feithrin ac i barhau gyda’r arfer – mae cymaint o fanteision. Ces i fudd fwy nag unwaith i glywed sylwadau deallus y plant wrth inni drafod rhan o’r Gair. (Yn naturiol,, ces fy siomi, ond nid fy synnu, sawl tro yn eu diffyg dealltwriaeth a’u difaterwch; a ches hi’n anodd peidio â chwerthin ar adegau eraill at rai o’u sylwadau!) Ces fy sobri wrth iddynt gofio ac ail-ddweud rhywbeth a ddwedwyd fisoedd ynghynt. Cefais flas droeon wrth geisio rhannu’r efengyl gyda nhw, mor syml ag y medrwn i. Diolch am y fraint o gael meithrin ein plant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd.

Mab: Gruffudd Jenkins, Llwynhendy

Rydw i’n un o bump o blant. Un chwaer hŷn a thri brawd iau. Cawsom ein magu yn Llwynhendy a bu’r teulu’n mynychu Eglwys Bedyddwyr y Tabernacl gydol fy mywyd.
Mae fy rhieni yn Gristnogion. Doedd dim gwasgedd arnom ni fel plant i ddod yn Gristnogion. Roedd rhyddid i feddwl drosom ein hunain yn bwysig iawn gartref. Roeddem ni yn cael ein hannog i feddwl trwy bethau ein hunain. Doedd yr efengyl ddim yn cael ei gorfodi arnom, ond roedd rhagoriaethau dilyn Iesu Grist yn amlwg i ni drwy esiampl ein rhieni. Roedd fy rhieni yn ymwybodol o berygl ‘iachawdwriaeth trwy weithredoedd,’ sy’n amhosibl. Dim ond trwy ras Duw y mae’n bosib. Gwnaeth dyfnder eu hargyhoeddiadau argraff fawr arnaf. Er hynny, doedd dim rhwystr i ni ofyn cwestiynau trwm nac ysgafn am y ffydd i’n rhieni, a thrafod hyd syrffed.
Gartref oedd fy hafan – roedd Mam wastad yno. Dyna lle roeddwn i’n mwynhau bod ac yn teimlo’n saff. ‘Bored people are boring people,’ oedd un o ystrydebau fy nhad. Cefais blentyndod hapus a mynd mas i chwarae gyda fy mrodyr oedd yr hoff beth. Rydyn ni gyd â diddordebau gwahanol ond yn gytûn gyda’n hoffter o Fathemateg.
Y peth rydw i’n ei werthfawrogi fwyaf, o’r hyn a ddysgais gan fy rhieni, oedd ein harfer fel teulu o fynychu’r eglwys leol bob Sul a chlywed Gair Duw yn cael ei ddarllen a’i esbonio, a’r efengyl yn cael ei phregethu a’i gweithredu gan Gristnogion yn yr eglwys leol. Clywais yr efengyl yn ifanc – trwy hynny des i’n Gristion. Doedd hyn ddim yn faich i’m rhieni ond yn amlwg yn fwynhad i fynychu ac ymwneud â’r eglwys leol.
Rydw i’n ddiolchgar i Dduw am fendithion magwraeth ar aelwyd Gristnogol.

Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf