Rhyddid trwy’r groes
Sinai oedd i gyd yn mygu
A llais utgorn yn cryfhau
Rhedaf eto at y croesbren
Lle mae Duw yn trugarhau
Croes fy Iesu, dyna ddigon
Ymddiriedaf yn y gwaed
Dyma noddfa’r colledigion
Lle y caf faddeuant rhad.
Yn ei glwyfau mae fy mhechod
Yn cael fflangell drom y Tad
Llid a holl ddigofaint Duwdod
Rydd im henaid lawn rhyddhad.
Deddfau Sinai sy’n fy nychryn
Methu cadw nemor un
Ond y ddyfais fawr dragwyddol
Croes y Mab sy’n cadw dyn.
Seiliedig ar Exodus 19 adnodau 18 a 19
Geiriau – Alwyn Pritchard
Awgrymir y dôn – Arwelfa neu Blaenwern