Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Emyn Newydd – Anne M. Davies

20 Ebrill 2022 | gan Anne M. Davies

Pan fo’r ddaear wedi gwylltio
Wedi’r esgeulustod mawr,
Nid oes driniaeth all ei hadfer
I’w gogoniant hyfryd nawr.
Rhaid cael fflam o dân i redeg
Ysa’r rhedyn coch a’r brwyn,
Felly, Gymru, bydd yn barod
Trefnwyd coelcerth er dy fwyn.

Cyn i’r cnwd aeddfedu’n iraidd,
Cyn cael gwared ar y graith
Awel iach o’r mynydd uchel –
Rhaid i hwnnw wneud ei waith.
Chwythu’r llwch oddi ar y gwreiddyn,
Ennill eto ffrwythlon dir,
Dim ond anadl dyner nefol
Wna i’r hadau wisgo fflur.

Disgwyl gweld y tir yn glasu,
Disgwyl gweld y lliw ar ffridd,
Ble mae’r gawod sydd yn golchi
Maeth y lludw mewn i’r pridd?
Arglwydd, rhaid i Ti ei danfon,
Rhaid wrth ffynnon newydd lân
Sydd yn tarddu yn dragwyddol
I ddwyn ffrwyth yr Ysbryd Glân.

Anne M. Davies