Emyn gan John Emyr
Arglwydd bywyd rho dy anadl
Nawr yn hael i’r meirwon hyn;
Esgyrn sychion bro marwolaeth
Cnawd a gewyn arnynt tyn:
Gwynt yr Ysbryd
Yw ein gobaith am gael byw.
Arglwydd bywyd rho dy anadl
I ysgyfaint sych a chrin;
Gwna dy ddirgel waith o’r newydd,
Anfon eto nefol rin –
Fflam dy gariad
O drigfannau Mab y Dyn.
Arglwydd bywyd, chwyth i’n clustiau
Air unigryw Un yn Dri,
Gad in yfed dŵr o ffynnon
Fyw dy bresenoldeb di;
Tyred, Iesu,
Cod y meirw’n fyddin gref.