Effaith Cofid-19 ar MEC
Holi Steff Job
Diolch am siarad gyda ni, gawn ni gychwyn drwy ofyn sut mae’r argyfwng Cofid-19 wedi effeithio ar y Mudiad a dy waith di?
Rhaid dweud yn gyntaf fy mod yn diolch i Dduw nad oes un o’n staff wedi dioddef o’r salwch, ac felly rydym yn cyfrif ein bendithion. O ran y gwaith – mae wedi bod yn gyfnod diddorol! Mae’n Canolfan Gynadledda (Bryn-y-groes), Swyddfa’r De a phob un o’n siopau llyfrau ynghau ar hyn o bryd, gyda’r rhan fwyaf o’r staff ar gyfnod o seibiant o’r gwaith (furlough). Mae hyn yn amlwg yn anodd i’r staff a’r gwirfoddolwyr hynny ac roedd hi’n dorcalonnus gorfod canslo neu ohirio gweithgareddau fel y gwersylloedd a’r cynadleddau.
Ond wrth i rai gweinidogaethau orfod cymryd saib mae wedi rhoi cyfle i ni ganolbwyntio ar bethau eraill – rydyn ni’n parhau i geisio gwasanaethu Duw drwy gefnogi eglwysi a Christnogion Cymru. Dwi’n siŵr y byddwn ni’n edrych yn ôl ar y cyfnod hwn gan weld gymaint mae Duw wedi ei wneud a’r drysau y mae wedi eu hagor.
Beth, felly, ydych chi wedi bod yn ei wneud a sut ydych chi wedi ymateb i’r sefyllfa?
Dwi’n gwybod ei fod yn swnio’n ffuantus ond un o’r pethau mawr dwi wedi cael fy atgoffa ohono yn y cyfnod hwn yw’r angen i weddïo a dibynnu’n llwyr ar Dduw. Mae pethau wedi bod yn newid mor sydyn, ac mae cymaint o bethau a phobl ar y we bellach fel bod y demtasiwn i gymharu ag eraill yn real. Mae cymaint o anghenion nes fy mod ar adegau wedi fy llethu, ond mae Duw wedi bod mor garedig yn dod â phersbectif ac mae ei ragluniaeth yn berffaith.
Un o’r pethau cyntaf inni eu gwneud oedd cynhyrchu a gyrru defosiynau dyddiol dros e-bost ac ar bapur. Mae cannoedd o bobl o bob rhan o Gymru (a’r byd) yn derbyn y rhain. Does dim diwrnod yn mynd heibio heb ein bod yn derbyn e-bost yn nodi diolchgarwch neu yn rhannu fel y mae Duw wedi eu calonogi a chynhesu eu calon drwy’r defosiwn.
Yn ogystal â pharhau gyda’r Cylchgrawn Cymraeg a Saesneg a’r bwletin gweddi wythnosol, un o’r pethau pwysicaf a wnaethom yn yr wythnosau cyntaf oedd lansio gwefan golau.org. Pwrpas y wefan yw rhannu gwybodaeth ac adnoddau i helpu eglwysi yn y cyfnod cloi ac allan o hyn y tyfodd y gwaith gyda’r gweinidogion sydd yn un o’r prif bethau yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd.
Fedri di esbonio ychydig mwy am hyn?
Yn fuan daeth yn amlwg bod angen i ni ganolbwyntio llawer o’n hadnoddau ar geisio cynnal a chefnogi arweinwyr eglwysi. Daeth y cyfarfodydd ar-lein wythnosol yn bwysig, lle’r oedd cyfle iddynt rannu gwybodaeth, rhannu beichiau ac yn fwy pwysig gweddïo gyda’i gilydd. Roedd yn brofiad arbennig cael bod yn rhai o’r cyfarfodydd cyntaf hynny wrth weld yr arweinwyr yn ymateb a cheisio dilyn Duw mewn sefyllfa newydd iawn. Roedd yn hyfryd gweld waliau yn dod i lawr a pherthnasau newydd yn datblygu wrth i wahanol arweinwyr weithio gyda’i gilydd. Mae’r cyfarfodydd hynny yn awr wedi ffurfioli i TeamTalk – cyfarfod Saesneg wythnosol, ‘Brawd’ gyfarfod ddwywaith y mis i weinidogion drwy gyfrwng y Gymraeg a chyfarfod misol i wragedd gweinidogion, ac un arall i’r rhai sy’n ymwneud â gwaith plant ac ieuenctid.
Beth fyddet ti’n ei ddweud yw’r prif bethau y mae angen gweddïo drostynt am arweinwyr yn y cyfnod hwn?
Mewn un ffordd, does dim angen i gynnwys ein gweddïau dros arweinwyr a gweinidogion fod yn wahanol iawn i’r arfer – dylem weddïo eu bod yn cerdded yn agos gyda’r Arglwydd. Pobl mae Duw yn eu bendithio, nid syniadau, ac felly dylem fod yn gweddïo ar i Dduw eu bendithio. Efallai mai’r prif beth i gofio yn yr amser hwn yw’r pwysau mawr sydd ar nifer o weinidogion. Maent yn gweithio’n galed, yn teimlo pwysau (yn enwedig gan fod gymaint o bregethau yn cael eu darlledu ar y we), yn cario beichiau (yn aml yn ceisio bugeilio pobl o bellter) ac mae’n anodd cadw’r cydbwysedd. Nid superheros ydyn nhw, ac mae angen i ni gofio hynny.
Oes rhywbeth sydd wedi bod yn rhwystredig yn y cyfnod hwn?
Yn amlwg roedd gorfod canslo cymaint o’n digwyddiadau yn rhwystredig, ond mae’n rhaid trystio Duw gyda hynny. Efallai mai’r peth rwyf wedi ei ffeindio’n fwyaf rhwystredig yw ein hanallu i helpu pobl ifanc yn y cyfnod hwn. Rwy’n ddiolchgar ein bod wedi medru cyhoeddi Gwneud Marc ar-lein yn ddwyieithog ac yn amlwg mae helpu arweinwyr eglwysi sy’n bugeilio pobl ifainc yn gymorth. Ond bydden i wrth fy modd yn cael mwy o amser ac adnoddau i helpu’r rhai ifainc. Byddai wedi bod yn braf medru helpu eglwysi mewn rhyw ffordd fwy uniongyrchol. Mae criw ohonom yn meddwl ar hyn o bryd am y misoedd nesaf ac am ffyrdd ymarferol o wneud hyn. Plîs gweddïwch.
Beth am y dyfodol felly?
Peth mawr sydd ar y gweill dros y misoedd nesaf yw’r gwaith efengylu. Mae wedi bod yn rhyfeddol gweld fel y mae Duw wedi defnyddio’r sefyllfa i roi cyfle i eglwysi estyn allan i bobl na fyddai fel arfer yn dod i gyswllt â hwy. Dwi’n gweld fod gennym ni rôl fach i helpu eglwysi yn hyn o beth – rydym ni wedi lansio gwefan holi-cymru (ask-wales) yn ddwyieithog ac mae modd i eglwysi ddefnyddio a rhannu’r deunydd yn rhad ac am ddim. Rwyf ar hyn o bryd yn y broses o gynhyrchu’r rhifyn nesaf o Holi/Ask fydd yn barod erbyn diwedd Mehefin. Thema’r rhifyn hwn fydd gobaith a bydd yn llawn o hanesion ac erthyglau sy’n dangos yn glir mai Iesu yw gobaith mawr ein byd ni. Bydd modd i bobl brynu Holi mewn pecynnau mawr er mwyn medru eu rhannu yn eu cymunedau – gan nodi enw’r eglwys neu berson cyswllt lleol arno.
Peth mwy hirdymor fydd meddwl sut rydym am gyrraedd nifer o gymunedau fydd wedi colli capeli wedi’r argyfwng hwn – mae gymaint o bosibiliadau! Law yn llaw wrth hyn bydd ein ffocws ar weddi wrth i ni roi gwybod am anghenion ac annog pobl i bwyso ar yr Arglwydd.
Diolch eto, oes rhywbeth yr hoffet ei rannu cyn gorffen?
Y baich mawr sydd ar fy nghalon, ac ar galonnau nifer o arweinwyr eraill y Mudiad yn y cyfnod hwn yw y byddwn ni’n profi mwy o realiti’r Arglwydd yn ein bywydau. Dwi’n ymwybodol bod yna dlodi mawr wedi bod yn fy mhrofiad i, ac mae cymaint o ddyfnder gras a gogoniant yn yr Arglwydd. Dwi eisiau ei garu yn fwy a dwi’n teimlo fy ffydd mor wan. Dwi wir yn gweddïo y byddwn ni yn bersonol, fel eglwysi, ac y bydd Cymru gyfan hefyd yn dod i werthfawrogi ac addoli Duw yn llawer mwy o ganlyniad i’r profiad hwn. Fel y dywedodd Paul – byw i mi yw Crist a marw sydd elw!