Efengylu fel Alltudion
Dewi Alter
Wrth i Gristnogaeth gael ei gwthio i’r cyrion, ac i’n credoau gael eu gwawdio’n gyhoeddus a phopeth yn awgrymu na fydd pethau’n newid er gwell, gall y Cristion deimlo fel person alltud.
Nid yw’r cysyniad o fod yn alltud yn estron yn hanes Cristnogaeth yng Nghymru. Er enghraifft, dywed yr emynydd Dafydd Jones o Gaeo (1711-77): ‘Pererin wy’n y byd, Ac alltud ar fy hynt’. Mae’n galw ei hun yn alltud wrth deithio drwy’r byd, nid yw’n perthyn i’r byd. Rhywbeth tebyg sydd gan Williams Pantycelyn (1717-91) wrth ddweud ‘Pererin wyf mewn anial dir’ gan gyfosod ei hun â’r Israeliaid a alltudiwyd yn yr anialwch.
Alltudiaeth yw pwnc cyfrol newydd Elliot Clark, Evangelism as Exiles a gyhoeddwyd eleni yng nghynhadledd The Gospel Coalition. Ei fwriad yw holi sut y gallwn efengylu mewn oes ôl-Gristnogol gan ddadlau ymhlith pethau eraill nad oes rhaid i Eglwys sy’n cael ei halltudio fod yn Eglwys sy’n cilio i’r cyrion.
Cyn symud ymlaen, mae’n rhaid egluro’r term ‘alltud’ fel y caiff ei ddefnyddio gan Clark. Nid alltudion yn yr ystyr wleidyddol, rhai wedi gorfod cefnu ar eu gwlad frodorol, yw’r ffordd y mae’n defnyddio’r gair. Yn hytrach, mae’n defnyddio’r gair fel y mae’r Apostol Pedr yn ei ddefnyddio yn ei epistol cyntaf at y Cristnogion yn Asia. Yn y Gymraeg cyfieithir y gair i ‘dieithriaid’ yn y Gymraeg. Mae’n debyg fod Clark yn tynnu ar yr ESV sy’n defnyddio’r term ‘elect exiles’. Roedd y bobl a gyferchir gan Pedr yn cael eu gwawdio am eu ffydd a’u dilorni am beidio ag ymwneud â gweithredoedd pechadurus eu dydd, roeddynt hefyd yn cael eu gwahardd o’r gymdeithas. Mae’n cydnabod heddiw efallai y byddwn yn ystyried hyn yn ffurf ar erledigaeth ysgafn. Dyma beth sydd gan Pedr mewn golwg wrth ddefnyddio’r term alltudiaeth. Profiad sydd efallai yn dod yn fwyfwy cyffredin i Gristnogion yn y Gorllewin.
Rhag i ni feddwl fod rhywbeth arbennig am hyn. Cawn ein hatgoffa gan Clark mai alltudiaeth yw’r patrwm cyffredin ar gyfer Cristnogion a phobl yr Arglwydd ar hyd y canrifoedd. Lladdwyd yr holl Apostolion am eu ffydd, bu Esther a Daniel yn alltudion mewn teyrnasoedd gwahanol, ac wrth gwrs darllenwn am alltudiaeth Israel yn yr Hen Destament adeg y Gaethglud. Erbyn y ganrif gyntaf pan ysgrifennodd Pedr ei lythyr, roedd alltudiaeth yn rhan allweddol o ymwybyddiaeth genedlaethol yr Israeliaid.
Gan alw’r Cristnogion yn Asia’n alltudion mae Pedr yn eu cysylltu ag alltudiaeth pobl Dduw ar hyd yr oesoedd, a dangos mai fel yr hen Israel, felly y bydd yr Israel newydd, a’r Eglwys hithau’n profi alltudiaeth. Profwyd hyn yn wir: alltudion oedd Cristnogion bore yng nghyfnod yr Ymerawdwr Nero yn y ganrif gyntaf. Adeg y Diwygiad Protestannaidd lladdwyd nifer am eu ffydd yng Nghrist ac am geisio rhoi’r ysgrythur yn iaith y person cyffredin.
Hyd heddiw, pwysleisia Clark, alltudiaeth yw’r norm i nifer o Gristnogion mewn gwledydd fel Twrci, Sri Lanka ac Oman a nifer eraill. Crist yw’r esiampl pennaf o alltudiaeth ar y ddaear. Cafodd ef ei wrthod gan gymaint o bobl a’i ladd. A fydd ein profiad ni yn wahanol? Efallai ddim, dywed Crist y byddwn ni’n dioddef fel ef yn Ioan 15:20 ‘Os erlidiasant fi, fe’ch erlidiant chwithau’ oherwydd ‘Nid yw unrhyw was yn fwy na’i feistr’, neu yng ngeiriau Benjamin Francis (1734-99): ‘Nid rhyfedd os gwawdir y gwas, Cans gwawd gafodd Arglwydd y ne’.’
Un o brif amcanion Clark yw dangos ein bod ni, fel Cristnogion yn y Gorllewin, wedi’i chael hi’n hawdd. Tyn Clark ar ei brofiadau o alltudiaeth wrth genhadu mewn gwlad Islamaidd yn Asia. Roedd angen cuddio’r ffaith ei fod yn Gristion ac yn genhadwr; bu bron i’w fab gael ei lofruddio am ei ffydd yng Nghrist – ac mae’r cofnod o’r digwyddiad hwnnw yn codi braw. Wrth iddo ddychwelyd yn ôl i’r Unol Daleithiau, a gweld grymoedd cymdeithasol yn troi yn erbyn Cristnogaeth, teimlodd fel petai’n estron yn ei wlad ei hun, heb groeso iddo na’i Arglwydd.
Yn wyneb y gymdeithas ôl-Gristnogol, ceisia Clark roi cyngor i Gristnogion yn y Gorllewin ar sut i efengylu. Cawn ein hannog gan Clark i gofio bod alltudiaeth yn rhan o’n galwad a hefyd yn gyfle. Dywed, yn wyneb dirywiad Cristnogaeth ddiwylliannol (sydd efallai ddim yn beth rhy ddrwg oherwydd mae’n haws dirnad pwy sydd wir yn credu) fod angen inni asesu sut yr ydym yn ceisio cyrraedd pobl.
Er enghraifft, mae Clark yn cwestiynu’r pwyslais cyfoes ar rannu’r efengyl. Hynny yw aros am gyfle, cyfle efallai na ddaw. Heria Clark ni wrth ddefnyddio tystiolaeth ysgrythurol i gydnabod mai datgan a chyhoeddi’r efengyl a wnaethpwyd gan yr Apostolion a’r Proffwydi. Mae pennod bwysig yn y gyfrol lle mae Clark yn trafod sut y dylem fod yn sensitif, ac yn barchus wrth wneud hyn, gan garu pawb sy’n anghytuno â ni, a bod, ar yr un pryd, yn ddewr.
Un canlyniad i dranc Cristnogaeth yn ein dydd, yn ôl Clark, yw’r ffaith nad yw nifer o bobl yn gyfforddus mewn capeli ac eglwysi mwyach. Mae nifer cynyddol yn cael eu magu heb fod mewn addoldy erioed. Mae’n ffaith mai yn anaml iawn y mae pobl yn taro i mewn i gapeli. Hyd yn oed ymhlith y Cymry Cymraeg mae’r arfer o fynd i’r capel yn prinhau.
O ganlyniad i hyn dylem addasu ein dull o efengylu. Dywed Clark y dylem fynd at bobl, yn hytrach nag aros iddynt ddod atom ni. Edefyn sy’n rhedeg trwy’r gyfrol gyfan yw’r apêl at efengylu personol ac adeiladu perthynas ac i garu pobl trwy fod yn lletygar.
Efallai y daw’r bwrdd bwyd yn brif lwyfan ein cenhadaeth, fel ag yr oedd gyda’r Cristnogion bore. Bwyta gydag eraill, rhannu ein bywydau gydag eraill, onid dyma a wnaeth Crist droeon? Cyngor Clark yw y dylem ddefnyddio hynny yn blatfform i drafod ein gobaith yn wyneb barn gyfiawn Duw, sef i Iesu Grist dderbyn ein cosb a marw yn ein lle ac atgyfodi ar y trydydd dydd er mwyn achub pechaduriaid.