Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Efengylu ar y Traethau

14 Ebrill 2022 | gan David Norbury

Efengylu ar y Traethau

David Norbury

 

Mae’n ha’. Mae’n tresio bwrw glaw! Mae Tîm y Traeth ym Menllech i gyd yn swatio dan gysgod y gazebo. Mwya’ annisgwyl daw person dieithr atynt! ‘Dwi isio’ch calonogi chi’, meddai’r wraig. ‘Fyddech chi ddim yn gwybod, ond ‘chydig flynyddoedd yn ôl daeth fy mab i’r ymgyrch yma ym Menllech. Dysgodd lot. Fel canlyniad daeth yn Gristion. Wedyn mi ddois i yn Gristion ac yn y diwedd daeth ei dad a’r teulu i gyd i nabod yr Arglwydd. Rydyn ni gyd wedi cael ein bedyddio ac wedi ymuno ag eglwys. Diolch yn fawr a chymrwch galondid – dych chi byth yn gwybod beth mae Duw yn ei wneud wrth ichi ei wasanaethu Ef!”

Dyma’r hyn sy’n digwydd ar ymgyrchoedd y traeth. Caiff y Beibl ei ddysgu. Mae’r efengyl yn cael ei phregethu i’r teuluoedd ac mae aelodau’r tîm yn ceisio rhannu’r efengyl yn bersonol. Ac mae’r Arglwydd yn gweithio.

Mae cysylltiad agos rhwng Cymru ag ymgyrchoedd y traeth. Cynhaliwyd yr ymgyrch gyntaf erioed ar draeth yn Llandudno. Llynedd dathlodd Undeb y Gair (UG) ac Ymgyrchoedd Unedig y Traethau (YUT) 150 o flynyddoedd o ymgyrchoedd yng Nghymru. Pob haf mae dros 24 wythnos o ymgyrchoedd yn digwydd ar draethau Cymru. Cafodd ymgyrch traeth ddathliad dwyieithog o hanner can mlynedd o ymgyrchoedd yno ddwy flynedd yn ôl. Mae ymgyrch traeth Benllech bron yn 50 mlwydd oed – fe’i dechreuwyd gan fyfyrwyr prifysgol Bangor ar ddechrau’r saithdegau. Mae ymgyrch y Mwmbwls – sy’n gweithio ar y tywod ym Mae Langland ac ar wair Lido yn Blackpill bron yn 20 mlwydd oed! Arweiniodd ymgyrch Undeb y Gair yng Nghricieth at ffurfio eglwys leol. Am bythefnos mae’r ymgyrch yn Ninbych-y-pysgod yn cael ei harwain gan yr Ymgyrch Awyr Agored.
Mae Ymgyrch Unedig y Traethau yn gweithio ar dair egwyddor Feiblaidd:
Cariad at yr Arglwydd;
Cariad at ein gilydd a
Chariad at y colledig.
Mae popeth a wnawn yn deillio o’r rhain.

Felly beth yn union yw ymgyrch ar draeth?

Dyma’r cynhwysion ar gyfer ymgyrch YUT:
Cymrwch ddarn gwag o draeth (neu wair yn Blackpill Lido yn y Mwmbwls!); tîm o Gristnogion pryderus rhwng 15 a 78; arweinydd tîm sy’n fwy pryderus, mwy na thebyg! Cogydd yn gweithio gyda chyllid cyfyngedig; eglwysi lleol sy’n cefnogi mewn ffyrdd gwych; llety – yn amrywio o neuaddau eglwysi (gyda chawodydd) i garafanau ar gyfer teuluoedd i dai gyda darpariaeth en-suite. Y cynhwysyn pwysicaf yw calon wasanaethgar – yn barod i wneud unrhyw beth i helpu’r tîm i gyrraedd pobl golledig gydag efengyl ogoneddus ein Harglwydd Iesu Grist.

Mae diwrnod arferol yn dechrau am 7.30 gyda’r tîm yn treulio amser gyda’r Arglwydd yn ei Air am hanner awr. Ar ôl brecwast mae cyfarfod tîm pryd mae’r arweinydd yn agor Gair Duw ac mae’r tîm yn gweddïo gyda’i gilydd am y diwrnod sydd o’u blaenau. Treulir gweddill y diwrnod ar y traeth yn dilyn rhaglen hyblyg. Ein nod gweddigar yw ymwneud yn ystyrlon â’r bobl ar y traeth sydd wedi dianc oddi wrth brysurdeb bywyd arferol, gyda mwy o amser i ddarllen ac ystyried pethau ysbrydol. Defnyddiwn tua 30,000 o gylchgronau Beach Special yn yr holl ymgyrchoedd yn y DU. Rydym yn sicrhau fod ein cyhoeddusrwydd a’n llenyddiaeth yn dangos yn glir ein bod yn elusen Gristnogol sy’n rhannu efengyl Iesu. Fel arfer mae’r gweithgareddau yn cynnwys cymysgedd o gemau, caneuon, storïau Beiblaidd, cwisiau, crefftau ac weithiau peintio wyneb. Mwy na thebyg fe ddowch ar draws bwrdd yn llawn o lyfrau Cristnogol perthnasol wrth ymyl. Mae cinio ar y traeth yn aml yn arwain i bêl droed a penalty shootout gyda thad yn ennill un o’n llyfrau! Mae digwyddiadau gyda’r nos yn amrywio. Yn Llandudno cawn gyfarfodydd awyr agored pob nos. Mewn canolfannau eraill defnyddir digwyddiadau mwy creadigol, sy’n cynnwys modelu tywod, barbeciws, nosweithiau hwyl i’r teulu, helfa drysor, a mentrau newydd fel ‘Munud i’w Ennill’. Mae pob digwyddiad yn gorffen gyda thystiolaethau, efallai aelodau’r tîm yn cyd-ganu a’r arweinydd yn pregethu’r efengyl.

Ydy Duw yn defnyddio ein hymdrechion gwan? Ar ôl dros 50 mlynedd yn gwneud ymgyrchoedd ar draethau gydag Ymgyrchoedd Unedig y Traethau (YUT) rwyf weithiau wedi amau hynny. Wedi’r cwbl nid yw’n ddiwygiad. Dim ond nifer cymharol fychan o bobl sydd wedi cael tröedigaeth. Ond yr hyn a wn yw bod had yr efengyl wedi cael ei hau. Mae llenyddiaeth efengylu dda ac Efengylau wedi cael eu cymryd yn fodlon gan bobl nad ydynt yn credu – a’u darllen! Mae nifer o sgyrsiau am yr Arglwydd Iesu Grist wedi digwydd gyda phobl anghenus. Mae plant a rhieni wedi mynd ymaith yn canu caneuon Cristnogol ac adrodd adnodau. Mae rhai yn ymuno â’r Ysgol Feiblaidd drwy’r Post. Yn ogystal, mae Cristnogion hen ac ifanc fel ei gilydd wedi dysgu gorchfygu eu hofnau – a mentro allan o’u cylch cyfforddus. Mae’r hen a’r ifanc wedi dysgu mor ffyddlon yw ein Harglwydd yn ateb gweddïau ar linell flaen efengylu. Mae pobl hŷn yn eu chwedegau a’u saithdegau wedi sylweddoli y gall Duw eu defnyddio yn y cyd-destun hwn. Cafodd eglwysi eu helpu wrth i’w pobl ifanc ddysgu llawer o’r sgiliau sydd eu hangen mewn gwasanaeth Cristnogol. Yn ychwanegol, mae Cristnogion wedi cael eu meithrin a’u calonogi mewn arweinyddiaeth wasanaethgar gan brofi cymdeithas hyfryd gyda Christnogion ledled y DU a phellach.

Mae Derrick Adams yn arwain tîm YUT yng Ngheinewydd yn awr. Beth mae e’n feddwl am ymgyrchoedd y traeth?

‘Rydw i wedi elwa’n fawr o’r ymgyrchoedd yng Ngheinewydd. Nid yn unig mae’n gyfle i rannu’r efengyl ond mae hefyd wedi bod yn ffordd o gael gwir gymdeithas a mwynhad gyda Christnogion eraill ledled Prydain. Rwy’n teimlo fy mod wedi derbyn mwy bob tro na’r hyn yr wyf wedi ei roi. Un o’m bwriadau yw cael mwy o Gymry Cymraeg i fod ar y timoedd yng Nghymru gan ei bod hi gymaint haws i Gymry sgwrsio a chlosio at bobl o’r un genedl a chefndir.’

Go iawn, wyddwn ni ddim faint a gyflawnir – ond gŵyr ein Harglwydd – i’w Ogoniant. Pwy gaiff ymuno â thîm? Os ydych dros 15 oed cewch ymuno – pam ddim y flwyddyn nesaf?