Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Dwi’n torri brechdanau’n sgwâr (ac mae hynny’n océ!)

14 Ebrill 2022 | gan Trystan Hallam

Dwi’n torri brechdanau’n sgwâr (ac mae hynny’n océ!)

Trystan Hallam

 

Mae Carys yn 16 mlwydd oed ac mae newydd gael ei bedyddio yng Nghwmsgwt. Bron cyn sychu’r dŵr oddi ar ei hwyneb mae am ddilyn cyngor ei gweinidog ac ymdaflu i ganol bywyd yr eglwys. Beth yw’r gweithgaredd nesa ar y calendr? Parti Ysgol Sul. ’Iawn te, fe alla i helpu i baratoi’r bwyd.’

Mae Mrs Jones yn 86 mlwydd oed. Am 70 o flynyddoedd mae hi wedi bod yn paratoi parti’r Ysgol Sul. Dydy’r hyn nad yw Mrs Jones yn ei wybod am jeli a blomonj ddim yn werth ei wybod! ’Stop! Stop! Beth ar wyneb y ddaear ti’n ei wneud, ferch?’ Mae cryndod Carys yn fwy na’r jeli sigledig o glywed y floedd. ’Ym … ym, torri’r brechdanau!’ meddai. Gyda rhyfeddod mawr mae Mrs Jones yn ymateb: ’Am 70 o flynyddoedd dwi wedi paratoi brechdanau’r Ysgol Sul, a dydyn ni erioed wedi cael rhai sgwâr! Triongl, ferch! Triongl! Cer i wneud y sgwash – a phaid â’i wneud yn rhy gryf!’

Croeso i’r Generation Game eglwysig! Dylai eglwys iach fod yn gawdel o oedrannau. Plant, pobl ifanc, pobl yr ugeiniau-tridegau, canol oed, rhai’n disgwyl ymlaen i’w pensiwn gwladol, ac eraill wedi hen groesi’r deg a thrigain! A oes modd i eglwys leol wneud mwy na chadw dysgl y cenedlaethau yn wastad, ond yn hytrach hybu mwynhad a gwir gymdeithas rhwng y cenedlaethau? Yn syml: beth sydd i’w wneud gyda Carys a Mrs Jones? Does gan y ddwy, ar yr olwg gyntaf, ddim yn gyffredin. Ond ni all yr eglwys fod fel y byd o’n hamgylch a dibynnu ar ‘yr olwg gyntaf’. Mae’r Eglwys wedi’i hadeiladu ar seiliau cadarnach na’r ‘olwg gyntaf’.

Realiti’r Undod

Beth yw’r gadwyn sy’n clymu Carys a Mrs Jones at ei gilydd? Mae’r ddwy yn paratoi parti’r Ysgol Sul am fod y ddwy yn perthyn i’r Arglwydd Iesu Grist. Wrth ddarllen Effesiaid 2:11-18, mae’r Apostol Paul yn sôn am ddwy garfan wahanol iawn o bobl, Yr Iddewon a’r Cenhedloedd. Yn sicr roedd y gwahaniaethau rhwng y ddwy garfan yn enfawr – yn llawer mwy na siâp brechdanau! Credai’r Iddewon mai nhw yn unig, gyda’u hordeiniadau a’u harferion oedd pobl Dduw, gan edrych ar y Cenhedloedd fel rhai y tu hwnt i ffafr Duw – ie, yn ddim gwell na chŵn. Ond mae pregethu Crist-ganolog yr Apostolion, yn enwedig Paul yn Llyfr yr Actau, yn newid pethau. Plannwyd eglwysi newydd, eglwysi sydd nawr yn cynnwys credinwyr Iddewig a chredinwyr o’r Cenhedloedd. O diar me! Beth sy’n mynd i ddigwydd ym mhartïon Ysgol Sul yr eglwysi newydd hyn? Eglwysi sy’n llawn Cristnogion o gefndir Iddewig a Christnogion o gefndir y Cenhedloedd. ‘Oherwydd ef (Iesu Grist) yw ein heddwch ni. Gwnaeth y ddau, yr Iddewon a’r Cenhedloedd, yn un, wedi chwalu trwy ei gnawd ei hun y canolfur o elyniaeth oedd yn eu gwahanu. Dirymodd y Gyfraith, a’i gorchmynion a’I hordeiniadau. Ac felly, i wneud heddwch, creodd o’r ddau un ddynoliaeth newydd ynddo ef ei hun, er mwyn cymodi’r ddau â Duw, mewn un corff, trwy’r groes; trwyddi hi fe laddodd yr elyniaeth.’ (Effesiaid 2:14-17 BCN) Sut oedd Paul nawr yn gweld yr eglwysi hyn? Dwy garfan? Cristnogion Iddewig ar naill ochr y capel a Christnogion o’r cenhedloedd ar yr ochr arall. Na! ‘…creodd o’r ddau un ddynoliaeth newydd ynddo ef ei hun…’ O achos gwaith achubol yr Arglwydd Iesu Grist, a thrwy ffydd ynddo ef, mae undod hanfodol wedi’i greu rhwng dwy garfan a oedd heb ddim yn gyffredin ar yr olwg gyntaf. Ergyd y cyfan yw: os nad yw’r Cristnogion o gefndir Iddewig, a’r Cristnogion o gefndir y Cenhedloedd yn byw o ddydd i ddydd mewn cytgord ac undod â’i gilydd, dydyn nhw ddim yn byw y realiti Cristnogol, y realiti wnaeth Crist ei ennill iddynt.
Mae’r gwirionedd hwnnw i’w gymhwyso hefyd i’r Generation Game eglwysig. Ydy ein Carys un ar bymtheg ni yn credu yn yr Arglwydd Iesu Grist? Ydy mae hi! Ydy Mrs Jones sydd ymhell dros oed yr addewid yn credu yn yr Arglwydd? Ydy mae hi! Mae saithdeg o flynyddoedd rhyngddynt, heb sôn am y dull gwahanol sydd ganddynt o dorri brechdanau – ond maen nhw’n un â’i gilydd yn yr Arglwydd Iesu Grist. Sut all eglwys fwynhau realiti’r undod hwn? Wel, beth am sesiwn yn y cwrdd gweddi o rannu tystiolaethau gyda’n gilydd? ’Falle fod Mrs Jones wedi clywed sut y daeth Carys yn Gristion yn ystod ei chyfarfod bedyddio. Ond ydy Carys wedi clywed sut y dechreuodd taith ysbrydol Mrs Jones?

Licris Olsorts

Yn ymarferol yn yr Eglwys leol, mae pob cenhedlaeth yn gallu bod yn euog o golli golwg ar Grist – sail ein hundod. Beth yw sail ‘ymarferol’ ein hundod? Yn ymarferol ’chlywn ni neb yn cyhoeddi: ‘Dwi’n hapus i fwrw ymlaen gyda phawb o bob oedran yn yr eglwys – dim ond eu bod nhw fel fi!’ Ond y gwir yw fy mod i’n teilwra fy ymwybyddiaeth o undod yn ôl yr hyn sy’n fy siwtio i. Felly dwi’n ‘dewis’ eglwys lle mae pobl o’r un oed ac sy’n ymdroi yn yr un sefyllfaoedd â fi. Os oes gen i deulu a phlant – dwi eisiau bod mewn eglwys gyda theuluoedd a phlant. Os dwi’n berson ifanc dwi eisiau bod mewn eglwys sy’n llawn pobl ifanc. Neu os dwi’n berson hŷn, sy’n gyfarwydd ag oedfaon traddodiadol, yn ymddeol i ardal newydd – wel, dwi am fod mewn eglwys gyda phobl hŷn sy’n mwynhau oedfaon traddodiadol. Felly’r stereoteip, neu’n tuedd bersonol ni, ac nid realiti ein hundod yng Nghrist, sy’n ein diffinio. Mae hyn yn groes i Eglwys Feiblaidd. Crist – a Christ yn unig – yw sail undod yr Eglwys. Wrth ein bod yn adeiladu ar y sylfaen mai Crist yn unig yw sail undod yr Eglwys, mae hyn yn ein rhyddhau ni i feithrin perthynas a mwynhau Cristnogion o bob oed.

Y peth am losin Licris Olsorts yw, er eu bod yn wahanol iawn, maen nhw i gyd yn yr un bocs! Mae ein Carys un ar bymtheg ni yn gwbl wahanol i Mrs Jones 86 mlwydd oed. Ond maen nhw yn yr un realiti – yn un yn yr Arglwydd Iesu Grist.

Yr hen a wŷr a’r ifanc a dybia?

Unwaith mae eglwys yn sylweddoli realiti ein hundod, fe all y cenedlaethau gwahanol fugeilio a gofalu am ei gilydd. Ond meddai rhywun, ‘Yr hen a wŷr a’r ifanc a dybia – y genhedlaeth hŷn sydd i fod i arwain yr ifanc.’ Yn sicr, mae’r Beibl yn gosod pwys mawr ar brofiad bywyd cenhedlaeth hŷn. Mae’r Gair, i’r gwrthwyneb i’n cymdeithas ni yn aml, yn gosod pwyslais mawr ar werth ac ar barchu cenhedlaeth hŷn. Ond nid rhyw ddarlith ‘Yr hen a wŷr a’r ifanc a dybia’ – darlith ‘brechdanau triongl’ Mrs Jones y mae ei hangen ar genhedlaeth iau. A oedd Mrs Jones 86 mlwydd oed yn gorfod wynebu cwestiynau rhywioldeb a rhywedd yn yr ysgol gynradd? Doedd dim rhaid iddi hi boeni am demtasiynau pornograffi ar ffôn symudol. Cafodd Mrs Jones ei magu mewn cymdeithas lle’r oedd dylanwad Cristnogol yn dal i fodoli, tra bod Carys yn brwydro fel Cristion ifanc mewn cymdeithas gwbl seciwlar. Wnaiff darlith ‘Yr hen a wŷr a’r ifanc a dybia’ ddim mo’r tro. Mae angen rhywbeth amgen na darlith, mae angen cariad Crist – y cariad sy’n deillio o fod yn un â Christ.

Wnaiff hi chwaith ddim y tro i Carys fwmian dan ei anadl – ‘Mrs. Jones yr hen ffydi-dydi!’ Ydy Carys yn deall beth yw hi i ddeffro bob bore mewn poen corfforol? Bob bore, i ddeffro fel gweddw, gyda gobennydd gwag drws nesa i’w phen? Wnaiff hi ddim mo’r tro i wfftian ‘Mrs Jones, ffydi-dydi!’ Mae angen mwy na ryw wfftian, mae angen cariad Crist – y cariad sy’n deillio o fod yn un â Christ. Wrth fod yn un â Christ, mae Carys a Mrs Jones yn un â’i gilydd. Dydy gwahaniaeth y blynyddoedd ddim yn diflannu, na, ond yng Nghrist maen nhw’n cael eu gwerthfawrogi a’u parchu. Sgwâr yw brechdanau Carys, triongl yw rhai Mrs Jones ac, yng Nghrist, mae hynny’n océ!

Adnodd diwethaf