Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Drych yr Amseroedd gan Robert Jones, Rhos-lan

22 Ebrill 2022 | gan Dewi Alter

Drych yr Amseroedd gan Robert Jones, Rhos-lan

Dewi Alter

 

Dwy ganrif yn ôl, yn 1820, cyhoeddwyd Drych yr Amseroedd gan Robert Jones (1745-1829) o Ros-lan, Cricieth. Dyma lyfr hanes sy’n cloriannu twf y Methodistiaid Calfinaidd yng Ngwynedd, hen ffordd o gyfeirio at ogledd Cymru. Er mai’r ffocws yw ei enwad ef, mae’n gosod hanes y Diwygiad Efengylaidd o fewn fframwaith Brotestannaidd-Ymneilltuol sy’n dechrau gyda chyfieithu’r Beibl, sy’n parhau trwy waith y Piwritaniaid ac sy’n cyrraedd ei lawn dwf gyda dechreuad y Methodistiaid Calfinaidd.

Erbyn 1820, rhaid cofio fod Pantycelyn, Harris, a Rowland yn y bedd ers tro, ac yn fwy diweddar roedd yr enwad wedi colli Thomas Charles yn 1814 a Thomas Jones yn 1820. Roedd Robert Jones wedi sylweddoli fod hynt a helynt y Diwygiad Efengylaidd yn dechrau mynd dros gof personol yr aelodau. Roedd yn benderfynol o ddiogelu’r cyfnod hwn ymhlith aelodau’r enwad yng ngogledd Cymru, ac er mwyn llenwi’r bwlch hwnnw ysgrifennodd lyfr hanes ar eu cyfer.

Dyma yw hanes yr enwad, ac roedd yn bwysig fod yr hanes ar gael ar gyfer y dyfodol. Gan gofio i’r Methodistiaid adael yr Eglwys Wladol yn 1811, mae’r Drych yn ail-greu’r gorffennol gan ddileu neu anwybyddu unrhyw dystiolaeth y bu’r Methodistiaid yn rhan o’r Eglwys o gwbl! Roedd yn benderfynol i’r enwad ymddangos yn rhan o gynllun Duw sy’n dangos gwendidau hanesyddol yr Eglwys Anglicanaidd.

Yn wahanol i lyfrau hanes eraill, dialog yw ffurf Drych yr Amseroedd, wrth gwrs, dialog oedd un o brif gyfryngau rhyddiaith y Methodistiaid. Mae mantais fawr i ddefnyddio dialog wrth ysgrifennu hanes: mae’r naratif yn fwy personol ac yn tynnu’r gynulleidfa i mewn i’r hanes, try’r gorffennol i fod yn rhywbeth llai ffurfiol ac agos atoch. Nid gweithred academaidd mo hanes yr enwad yn ôl y Drych, mae’n rhan o fywyd yr aelodau, mae’n wybodaeth berthnasol a phersonol sy’n cynnwys diffiniad o bwy ydyn nhw ac o’r hyn y dylent ei gyflawni.

Dau gymeriad sydd i’r ddialog: hen ŵr, y ‘Sylwedydd’ sydd wedi bod gyda’r enwad ers ei dechreuadau ac sy’n medru cofio’r digwyddiadau; ac ‘Ymofyn-gar’, sef gweinidog ifanc heb gysylltiad uniongyrchol â’r digwyddiadau a arweiniodd at ffurfio’r enwad, sy’n benderfynol o lenwi’r bylchau yn ei wybodaeth. Gellid dadlau mai microcosm ar gyfer yr enwad yw’r Sylwedydd ac Ymofyn-gar yn cynrychioli dwy genhedlaeth o fewn yr enwad, y genhedlaeth a oedd yn dyst i’r dechreuadau, a’r genhedlaeth iau â gwybodaeth ail-law am arweinwyr cyntaf yr enwad

Efallai y gellid crynhoi’r darlun a geir yn y Drych i un frawddeg: yma cawn olwg ar gynhaliaeth ryfeddol yr Arglwydd a’i ragluniaeth wrth sicrhau fod yr efengyl yn cael ei chynnal a’i lledaenu – cofnodi llwyddiant yr efengyl y mae yn y bôn. Dyma sydd gan yr awdur mewn golwg yn un o eiriau cyntaf y gyfrol, dywed Ymofyn-gar:

Myfyrio yr oeddwn ar y gwaith rhyfedd a wnaeth yr Arglwydd, o’i fawr drugaredd, yn yr oesoedd diwethaf drwy’r Efengyl yng Nghymru; a bod llaw’r Arglwydd, yn amlwg ac yn wyrthiol, yn dwyn y gwaith gogoneddus ymlaen : ond er mor rhyfedd yr amddiffynnodd Duw Ei achos, ac y cosbodd yr erlidwyr; er hynny, meddaf, hyd y gwn i, ni bu wiw gan neb gadw coffadwriaeth, na dodi y pethau hynny mewn ysgrifen, i ddangos i’r oes bresennol ac i’r oesoedd a ddêl, ryfedd weithredoedd Duw.

Mae’r Drych yn deillio o fyfyrdodau’r cymeriad ifanc ar waith Duw a’i gynhaliaeth, mae’n deillio hefyd o’i ryfeddod a’i siom nad yw’r gynhaliaeth hon ar gof a chadw, ac i lenwi’r bwlch hwnnw ysgrifennwyd Drych yr Amseroedd.

Gwelwn law Duw wrth amddiffyn y Methodistiaid. Caent eu herlid sawl tro yn y naratif, ac wrth ddisgrifio ymdrechion gwrthwynebwyr yr efengyl y gwelwn Robert Jones ar ei orau. Yn hyn i gyd mae’r Drych yn dangos mai llaw Duw oedd ar waith yn diogelu’r enwad, wrth i’r gelynion ymosod ar yr aelodau ac wrth iddynt gael eu herlid, mae Duw yn sicrhau fod rhywun neu ryw ragluniaeth ryfedd yn eu diogelu. Mewn un darn rhyfeddol sy’n sôn am ymgais i osod bom i ladd gweinidog, trwy ragluniaeth nid yw’n cael ei ladd. Nid rhywbeth i’w ofni mo erledigaeth, yn hytrach mae’n destun balchder iddynt, oherwydd mae’r Methodistiaid, fel Crist gynt, yr Apostolion a nifer o’r saint i lawr y canrifoedd, yn cael eu herlid am eu ffydd ac mae’r neges yn lledu.

Wrth i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg fynd yn ei blaen, ac wrth i statws y Methodistiaid ddatblygu yn un o brif sefydliadau diwylliannol ac ysbrydol Cymru, nid oeddynt yn mynd i ddioddef erledigaeth fel eu sefydlwyr. Ond pwysleisia’r Drych mai dyma yw ei hanes, ac mae’r breintiau sy’n eiddo iddynt yn seiliedig ar gynhaliaeth a rhagluniaeth Duw yn y cyfnod cythryblus gynt. Fel yr apostolion yn Llyfr yr Actau, gwasanaethwyr Duw yw’r Methodistiaid, ac oherwydd hynny mae eu gwaith yn sicr o lwyddo.