Dod i adnabod John Aaron
Ar ôl gyrfa yn athro Ffiseg ac yn weinyddwr ysgol, erbyn hyn mae John Aaron yn darlithio ac yn ysgrifennu ar wahanol bynciau hanesyddol, ymhlith pethau eraill gan gynnwys bod yn gaplan ar wersyll iau y Mudiad. Dyma gyfle i ddod i’w adnabod ychydig yn well.
Allech chi sôn yn gyntaf am eich magwraeth? Pa ddylanwadau oedd arnoch chi’n ifanc?
Fe’m ganwyd yn Aberystwyth yn un o bump o blant a chyda sawl modryb ac ewythr yn byw yn y dre, a’r dylanwad cyntaf ac un o’r cryfaf arnaf felly oedd yr ymdeimlad o’r diogelwch, hapusrwydd a chefnogaeth a ddaw o fod yn aelod o deulu agos. Dylanwad arall o’r cartref wedyn oedd y ffaith fod llyfrau ymhob ystafell ac ar bob silff yn y tŷ. Cawn ddarllen unrhywbeth – llyfrau fy mrawd a’m chwiorydd hŷn i ddechrau, ac yna llyfrau fy rhieni. Nid oes byth eisiau chwilio am rywbeth i’w wneud os oes cariad at ddarllen ynoch.
Sut daethoch chi’n Gristion?
Fel teulu, roeddem yn addoli yng nghapel Bethel, Aberystwyth. Byddwn yn y capel unwaith y Sul pan oeddwn yn fach, ddwywaith y Sul pan oeddwn yn ddigon hen i fynd i Ysgol Sul y prynhawn, a theirgwaith y Sul pan oeddwn yn ddigon o oedran i fynd i gwrdd y nos gyda’m rhieni. Fe’m codwyd, felly, i barchu Crist, i gydnabod y Deg Gorchymyn, ac i ofni Duw. Mwy na dim efallai oedd y ffaith fod y fath fagwraeth wedi’m gadael â gwybodaeth weddol drylwyr o’r Beibl – neu o leiaf o lyfrau hanesyddol yr Hen Destament, o’r Salmau, o’r Efengylau ac o Lyfr yr Actau.
Ac yna daeth y sioc o gwrdd â chyd-fyfyrwyr yn y brifysgol yn Abertawe a oedd â chymaint mwy na hyn yn rhan o’u Cristnogaeth – roeddent yn gweddïo a darllen y Beibl yn ddyddiol, yn rhannu’u profiadau ysbrydol, a mwy na dim, a’r mwyaf rhyfedd i mi, yn berchen ar sicrwydd fod eu pechodau wedi’u maddau drwy’r aberth a offrymwyd trostynt gan eu Ceidwad ar y groes. Roeddwn i fel petawn i’n cwrdd â nhw ymhob man – yn y clwb rhedeg traws gwlad, yn fy neuadd breswyl, wrth y bwrdd cinio. Mor barod oeddent i ddangos cyfeillgarwch i ddieithryn, mor amyneddgar wrth esbonio ac egluro, mor glir yn dangos o’r Beibl ffolineb rhai o’r dadleuon y byddwn yn eu codi yn eu herbyn. Ac yn eu cwmni nhw a thrwy eu dylanwad y daeth ymwybyddiaeth o bechod, gweddïo, dealltwriaeth o’r efengyl a phroffes o gredu – er y bu amser hir wedi hynny cyn cael sicrwydd o faddeuant.
Beth sydd wedi bod o gymorth i chi yn eich bywyd Cristnogol? Pa wersi rydych chi wedi eu dysgu?
Mae fy ateb i’r ail gwestiwn yn dangos mai yng nghwmni a chymdeithas cyd-gredinwyr a thrwy ddarllen cynyddol o’r Beibl y cefais yr help mwyaf o’r dechrau. Yn fuan wedyn daeth y sylweddoliad mai trwy bregethiad y Gair y mae’r Ysbryd Glân yn ein bendithio fwyaf. Yn fy mlynyddoedd cyntaf fel Cristion roedd y gyfres o bregethau ar y Llythyr at yr Hebreaid gan fy ngweinidog yn Abertawe ar y pryd, y Parch Leighton James, yn agoriad llygad rhyfeddol ar Berson a Gwaith yr Arglwydd Iesu, ac ar eglurhad y Testament Newydd am bwrpas a neges yr Hen Destament. Yn hwyrach y daeth y sylweddoliad am bwysigrwydd ac angenrheidrwydd gweddi, yn enwedig cydweddïo yn yr eglwys.
A’r rhain, wrth gwrs, yw moddion gras – darllen a myfyrio’r Gair, gwrando pregethu’r Gair, gweddi, a chymdeithas y saint. Eu hangenrheidrwydd nhw yw’r brif wers yr ydwyf wedi ei dysgu. Mae’n wers yr wyf yn gyfarwydd iawn â hi oherwydd pa mor aml y bu’n rhaid i mi ei hailddysgu , o ran un neu arall o’r moddion, dro ar ôl tro.
Fel un sydd wedi astudio gwyddoniaeth, sut ydych chi’n cysoni ymchwil wyddonol â’ch ffydd Gristnogol?
Nid wyf yn gweld unrhyw anghysondeb rhwng gweithgaredd gwyddonol a ffydd Gristnogol. Duw a wnaeth y bydysawd, ac ymchwilio gwaith Duw felly yw pob ymchwil wyddonol. Yn barhaus, felly, mae darganfyddiadau gwyddonol yn datguddio mwy a mwy o ryfeddodau’r Creawdwr. Ond rhaid cofio mai astudiaeth o’r hyn sydd – o’r byd materol o’n hamgylch – yw gwyddoniaeth. Unwaith yr estynnir yr astudiaeth i’r hyn a allai fod wedi digwydd, neu i’r hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol, nid ymchwilio gwyddonol ydyw bellach ond damcaniaethu. Mi all gynhyrchu syniadau pwerus a diddorol – enghreifftiau o orchestweithiau mwyaf y meddwl dynol (esblygiad, dyweder, neu’r gampwaith fathemategol sydd y tu cefn i’r damcaniaethau cosmolegol diweddaraf) – ond nid oes iddynt y sail angenrheidiol ar gyfer gwyddoniaeth, sef y posibilrwydd o’u gwireddu trwy arbrawf. Rwy’n hoff iawn o ddyfyniad gan y Cristion a’r ffisegydd enwog, James Clerk Maxwell: ‘One of the greatest achievements for a scientist is the recognition of the limitations of science.’
A chithau wedi treulio’r rhan fwyaf o’ch gyrfa broffesiynol ym myd addysg, pa bwysau sydd ar athrawon Cristnogol? Oes gennych chi unrhyw gyngor i’r rhai sy’n dechrau yn y proffesiwn?
Mae pawb yn pwysleisio’r angenrheidrwydd yn ein bywydau am ddiogelu cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd. Mae hyn yn gymaint o broblem i athrawon cydwybodol ag yw i unrhyw broffesiwn, rwy’n credu. Ac i athawon sy’n Gristnogion mae’r pwysau’n fwy fyth. Rhaid cadw’r cydbwysedd rhwng gofynion ysgol, paratoi, marcio, cyfarfodydd rhieni, teulu, diddordebau, capel, Beibl, gweddi, ac yn y blaen. Mae’n rhaid i bob un ddod o hyd i’w gydbwysedd personol wrth gwrs, ond yn sicr un help ar gyfer gwneud hyn yw trwy fod yn hollol ymwybodol, yn gynnar yn eich gyrfa, o’r problemau a all godi.
Erbyn hyn, rydych chi’n gyfarwydd i nifer fel awdur a darlithydd ar hanes Cristnogaeth yng Nghymru. O ble daeth y diddordeb hwn? Beth gall Cristnogion heddiw ei ddysgu oddi wrth hanes Cristnogaeth Cymru?
Prif ddiddordeb hanes i mi yw’r ffordd y mae’n dangos i ni fel y mae pethau wedi datblygu yn y gorffennol: datblygiadau gwledydd, diwylliannau, mudiadau, enwadau, ac yn y blaen, a mwy na dim, datblygiadau bywydau unigol. Yn y bôn, hanes pobl yw’r rhain i gyd, a phobl yw’r pethau mwyaf diddorol sy’n bod (heblaw, wrth gwrs, am Dduw). A dyma werth darllen hanes Cristnogaeth a chofiannau Cristnogion, sef ein bod yn cael gweld fel y mae credinwyr drwy’r oesoedd wedi brwydro a dyfalbarhau drwy’r union brofiadau, temtasiynau a phenderfyniadau sydd yn ein hwynebu ni; ac fel y mae Duw, yn ôl ei addewidion, wedi eu harwain a’u cadw. Un enghraifft arall o fwynhau ‘cymdeithas y saint’, felly, yw darllen cofiant ysbrydol, da i ryw Gristion dewr o’r gorffennol.
Yn y dyffryn tywyll garw
Ffydd i’r lan a’u daliodd hwy;
Mae’r addewid lawn i minnau,
Pam yr ofna f’enaid mwy?
Rydych chi hefyd wedi bod yn gaplan ar rai o wersylloedd plant yr haf, Sut brofiad oedd hynny? Sut y dylem ni weddïo amdanyn nhw?
Mae cael bod yng nghwmni plant ifanc, hapus, yn codi’r ysbryd ac yn ein cadw’n ifanc ein hunain, ac mi roedd yn bleser llwyr, ar ôl rhai blynyddoedd o fod wedi ymddeol o’r ysgol, cael bod yng nghanol criw gwersyll. A mwy, hyd yn oed, na mwynhad bywyd a sbri’r plant oedd cael gweld ymroddiad, gofal ysbrydol a chariad y swyddogion tuag atynt – cael clywed eu gweddïau a gweld fel yr oedd y plant yn ceisio’u cwmni a’u cyngor.
Sut i weddio am y gwersylloedd? Wel, am wn i, parhau i weddïo drostynt fel y mae pobl Dduw yng Nghymru wedi gweddïo ers y gwersylloedd cyntaf yn y pumdegau: gweddïo fel unigolion, fel teuluoedd ac fel eglwysi am y caplaniaid, yr arweinyddion, y swyddogion, y plant, am dywydd da, am ddiogelwch rhag damweiniau; ac yn arbennig wrth gwrs ar i Dduw fod yn bresennol drwy arddel ei Air. Onid y fath yma o weddïo sydd y tu ôl i unrhyw arbenigrwydd a berthyn i’n cynadleddau a’n gwersylloedd?