Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Deufis yn Uganda

14 Ebrill 2022 | gan Megan Turner

Deufis yn Uganda

Megan Turner

Yn ystod yr haf, fe deithiais dros 9,000 o filltiroedd o’m cartref yn Las Vegas er mwyn treulio dau fis yn cynorthwyo gweinidogaeth nad oedd gennyf unrhyw gysylltiad na pherthynas â hi cyn hynny. Enw’r genhadaeth yw New Hope Uganda (NHU), sef gweinidogaeth Gristnogol wedi ei lleoli yn Kasana, Uganda.

Mae NHU yn gorff wedi ei neilltuo i gyflwyno tadolaeth Duw i’r amddifad trwy waith yr efengyl yn gweddnewid cymunedau, gan ddefnyddio dulliau fel gofal yr amddifad, addysg, a chefnogaeth ariannol. Roeddwn yn byw gyda nifer fawr o staff y prosiect oedd ag amrywiaeth o dasgau er mwyn gwireddu’r un weledigaeth, sef arddangos cariad Duw i’r byd. Roedd rhai o’r staff yn rhieni cartref i’r gwahanol blant amddifad, roedd eraill yn athrawon yn yr ysgolion a gynhelid ar gyfer yr amddifad a phlant anghenus yn y gymuned, ac eraill yn staff swyddfa oedd yn cynnal trefniadaeth ariannol y genhadaeth. Profiad rhyfeddol oedd gweld cynifer o bobl yn dilyn eu galwedigaeth i garu’r byd fel dilynwyr Crist. Roedd y dylanwad cyfan a gâi’r bobl hyn ar gannoedd o blant yn anhygoel.

Dull yr NHU o weithredu, yng nghyd-destun gofal yr amddifad, yw bod yna saith teulu gyda rhieni lleol o Uganda sydd â rhyw 12-15 o blant dan eu gofal. Mae’r unedau teuluol hyn yn byw gyda’i gilydd, yn tyfu eu bwyd eu hunain, ac yn cael defosiwn deuluol bob nos. Yn y cyfarfodydd defosiynol, yr oedd yn syfrdanol i weld y plant hyn a oedd wedi profi dolur a thrawma anhraethol yn moli Duw ac yn diolch Iddo am ei garedigrwydd tuag atynt.

Fy ngwaith penodol i oedd bod yn athrawes adfer yn yr ysgol gynradd. Profodd hyn yn llawer iawn anoddach nag y disgwyliais gan nad oedd gan fy swydd i dasgau na disgwyliadau penodol. Rhaid oedd imi ddarganfod ffyrdd o helpu’n gyson – tasg anodd gan fod y system addysg yno yn anghyfarwydd i mi. Roedd cyfathrebu’n anodd iawn hefyd gan mai fi oedd yr unig berson gorllewinol yn yr ysgol ac nid oedd Saesneg yn iaith gyntaf i unrhyw un o’r plant. Roedd yr athrawon i gyd yn garedig ond yn oddefol iawn, ac o ganlyniad teimlwn fy mod yn treulio fy nyddiau mewn ansicrwydd ynglŷn â’r hyn y dylwn fod yn ei gyflawni. Profiad anodd i mi oedd peidio â bod yn brysur. Ond defnyddiodd Duw hyn yn ffordd imi ddysgu dibynnu arno ef a gweithio iddo ef mewn ffyrdd nad oeddwn i’n teimlo eu bod yn gynhyrchiol nag o lawer o werth. Credaf fod hyn oherwydd fy mod wedi fy magu o fewn diwylliant lle mae’r gymdeithas yn ein dysgu i ‘newid y byd’ a ‘gwneud rhywbeth pwysig’. O ganlyniad, yn fy malchder, rwyf eisiau achub bywydau a newid yr holl gyfundrefn! Ond gelwir ni gan Iesu i garu. Caru’r plant. Pob un ohonynt. Hwyrach nad yw hynny’n ymddangos yn drawiadol iawn, ond fy mwriad yw gogoneddu Duw trwy garu a gwasanaethu eraill, bydded hynny trwy eu cynorthwyo i wneud mathemateg neu eu gwthio ar siglen yn ystod amser chwarae.

Cyfleoedd eraill a gododd yn ystod fy arhosiad yno oedd: siarad mewn cyfarfodydd staff ynglŷn â newid safon y maeth yn yr ysgol, trwy awgrymu cynlluniau prydau bwyd a syniadau am newid; siarad ar y radio am holl bwnc maeth (mae hwn yn bwnc pwysig yno, yn enwedig o gofio bod dros hanner y plant yn dioddef o ddiffyg maeth); gofalu am blant y staff tramor yn ystod encil; paratoi prydau bwyd i deuluoedd; a darllen llyfrau i rai o’r plant oedd yn byw drws nesaf i mi. Hwyrach bod clywed hyn yn awgrymu imi gyflawni llawer, ond gallaf eich sicrhau mai dim ond trwy ras Duw yr oeddwn i’n gallu helpu er gwaethaf fy ymdrechion niferus.

Un o’r problemau mwyaf i’m hwynebu oedd y teimlad o unigrwydd a bod neb yn fy adnabod. Er bod pawb yn hynod o garedig a chroesawgar, teimlwn na fedrwn fod yn fi fy hun oherwydd y rhwystr iaith, gan olygu y byddwn yn gorfod newid yr hyn oedd gennyf i’w ddweud a’r dull o siarad yn gyson. Sylweddolais ar y daith hon nad oeddwn wedi gorfod wynebu unigrwydd erioed o’r blaen. Am fendith! Defnyddiodd Duw y cyfnod anodd hwn i’m gorfodi i bwyso arno ef am gysur. Bu’n garedig iawn yn caniatáu imi gysylltu â’m teulu cariadus o dro i dro, y teulu a fu’n anogaeth gyson imi ac a weddïodd drosof. Rhagluniaeth ryfeddol arall oedd cael cyfnither yn aros yn y dref agosaf at New Hope am ran o’r cyfnod y bûm yno! Nid oedd y cyfarfyddiad hwnnw wedi ei gynllunio ymlaen llaw o gwbl gennyf i na’m cyfnither (mewn gwirionedd fe ‘ddigwyddodd’ inni daro ar ein gilydd mewn marchnad leol) ond defnyddiwyd hynny gan Dduw yn anogaeth fawr, gan ddangos imi bwysigrwydd bywyd cymunedol.

Mae Uganda mor wahanol i’r byd gorllewinol. Profodd addasu i arferion diwylliannol gwahanol a’r ffordd o fyw yn anodd, ond llwyddodd hynny i roi imi werthfawrogiad ehangach o rychwant pobl Dduw. Er mai dod yno i gynorthwyo a gwasanaethu oedd y bwriad, rwy’n teimlo fod y bobl y bu imi eu cyfarfod wedi dysgu mwy imi nag yr oeddwn wedi ei ddychmygu. Cefais fy herio wrth glywed hanesion y Cristnogion yno oedd wedi profi’r fath ddioddefaint mawr ond, er hynny, yn medru goresgyn hynny drwy ddweud ‘Mae Duw yn ffyddlon’, tra roeddwn innau’n gweld colli fy nghysuron materol a phrofi unigrwydd dros dro. Doedd dim ganddyn nhw, er hynny llwyddent i lawenhau. Y peth pwysicaf imi ei ddysgu yw bod Duw yn ffyddlon. Mae e’n ffyddlon yn Uganda ac mae e’n ffyddlon yn Las Vegas. Gwelais sut mae pobl sy’n byw bywydau yn llwm o fendithion materol yn medru dal i foli Duw ffyddlon.

Cyrhaeddais Uganda gan feddwl yn naïf a hunanol y byddwn o gymorth mawr ac y byddwn yn creu cyfeillgarwch gydol-oes â’r plant amddifaid. Gadewais gyda golwg cyfan gwbl newydd o’m gwendid a’m balchder, ond hefyd o ffyddlondeb a nerth Duw. Er nad wyf yn gwybod yn union sut y bydd Duw yn fy nefnyddio i yn ystod gweddill fy mywyd, gweddïaf y bydd ef yn rhoi nerth imi gyflawni ei bwrpas ynof, ni waeth ble y bydd hynny’n fy arwain. Defnyddiodd Duw y cyfnod hwn – yn fy ngwendid i, yr oedd ef yn gryf. Gweddïwch dros bobl Uganda y dônt i adnabod yr Arglwydd yn bersonol a rhoi eu hymddiriedaeth ynddo. Bydded iddo ddarparu eu holl anghenion corfforol ac ysprydol.

Adnodd diwethaf