Dechrau Newydd yn y Weinidogaeth: Sgwrs â Gwilym Tudur
Allet ti ddweud rhywbeth am dy gefndir a dy fagwraeth?
Rwy’n dod yn wreiddiol o Gaerdydd a chefais fy magu ar aelwyd mans eglwys Ebeneser yn fab i weinidog ac athrawes ysgol gynradd Gymraeg. Mae gen i nifer o atgofion melys o’m plentyndod gan gynnwys chwarae yn yr ardd gyda’m chwaer, mynd am dro gyda’r teulu o amgylch Parc y Rhath, a chadw reiat yng nghlwb ieuenctid Ebeneser.
Sut dest ti’n Gristion?
Er i mi gael fy magu ar aelwyd Gristnogol, ddes ddim yn Gristion nes fy mod yn 16 oed. Er i dad ddarllen y Beibl gyda fi’n gyson, roedd Duw yn ymddangos fel rhywun pell. Er fy mod yn galw fy hunan yn ‘Gristion’ pan gychwynnais ar fy addysg uwchradd yn Ysgol Glantaf, roedd yn deitl gwag.
Fodd bynnag, daeth tro ar fyd pan oeddwn yn ddisgybl TGAU. Yn ystod y cyfnod hwnnw, dechreuais fynychu Cwrs Alffa a gynhaliwyd gan ddosbarth ieuenctid Ebeneser. Wrth drafod cwestiynau fel ‘Pwy yw Iesu?’ a ‘Pam fu Iesu farw?’, ailystyriais y gwirioneddau hynny yr oeddwn wedi eu clywed ers yn blentyn.
Agorais fy Meibl a dechreuais ei ddarllen. Darllenais Efengyl Mathew a Llythyr Paul at yr Effesiaid yn gyntaf. Wrth i mi wneud hyn, dyma fi’n sylwi mai pechadur oeddwn oedd wedi byw mewn gwrthryfel yn erbyn Duw. Ond deallais hefyd pam mae’r Efengyl am Iesu yn newydd mor dda! Wrth farw ar y groes, wynebodd Iesu, Mab Duw, y gosb am fy mhechodau er mwyn i mi gael maddeuant.
Yn ystod yr wythnosau yn dilyn y Cwrs Alffa, rhoddais fy ffydd yn Iesu a des i’n Gristion.
Beth sydd wedi dy helpu i dyfu fel Cristion?
Un peth sydd wedi fy helpu i dyfu fel Cristion yw cael cymdeithas â Christnogion eraill mewn eglwys leol. Wedi i mi ddod i’r bywyd, cefais fy nerbyn yn aelod yn eglwys Ebeneser. Yno, cefais fy mwydo’n ysbrydol a’m meithrin fel Cristion ifanc. Rhywbeth pwysig arall sydd wedi fy helpu i dyfu yw darllen y Beibl yn ddyddiol. Ar hyn o bryd, dwi a’m gwraig, Alex, yn defnyddio cynllun darllen Explore i’n helpu i fynd trwy’r Beibl cyfan mewn blwyddyn. Rwyf hefyd wedi cael budd mawr o ddarllen llyfrau Cristnogol da a defnyddiol, fy ffefrynnau yw: Knowing God gan J. I. Packer a hunangofiant Billy Graham, Just as I am.
Rwyt ti’n dod o deulu ‘nid anadnabyddus’ yng Nghymru, yn ŵyr iR. Tudur Jones, yn fab i Alun Tudur, ac yn nai i Geraint Tudur, ydy hynny wedi cael unrhyw ddylanwad arnat ti?
Rwy’n caru fy nheulu yn fawr iawn. Rwyf mor ddiolchgar i’r Arglwydd am iddo ddefnyddio aelodau o’m teulu i dystio i Iesu ar hyd y blynyddoedd. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iddo am alw fy nhad a’m taid i’r weinidogaeth Gristnogol o’m blaen i. Ond, er cymaint yr wyf yn eu hedmygu, nid wyf yn weinidog i’r Arglwydd Iesu o’u hachos nhw. Wedi’r cyfan, nid busnes teuluol – nid proffesiwn – yw’r weinidogaeth, ond galwad gan Dduw.
Allet ti ddweud rhywbeth wrthym am dy alwad i’r weinidogaeth?
Wedi i mi ddod yn Gristion yn fy arddegau, roedd dyhead dwfn ynof i rannu’r newyddion da am Iesu gydag eraill. Pan ddes i’r brifysgol yn Aberystwyth, cefais nifer o gyfleoedd i rannu fy ffydd ag eraill trwy’r Undeb Cristnogol Cymraeg ym Mhantycelyn a thrwy’r cyfarfodydd myfyrwyr a gynhaliwyd gan Eglwys Seion, Baker Street.
Yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol, teimlais fod Duw yn fy ngalw i neilltuo fy mywyd i bregethu’r newyddion da am Iesu a chadarnhawyd yr alwad hon gan Gristnogion eraill yn Seion ac Ebeneser.
Sut y gwnest ti baratoi ar gyfer y cam hwn? A fu’r coleg o gymorth?
Ar ôl gorffen fy astudiaethau yn Aberystwyth, penderfynais y byddai’n fuddiol i mi gael hyfforddiant mewn coleg diwinyddol cyn dod yn weinidog ar eglwys. Yn y pen draw, dewisais astudio yng Ngholeg Wycliffe ym Mhrifysgol Rhydychen – un o golegau Efengylaidd Eglwys Loegr. Heb os, bu’r cwrs o fudd mawr i mi.
Mae treulio pedair blynedd yn astudio’r Hen Destament a’r Newydd, Groeg a Hebraeg, athrawiaeth Gristnogol a hanes yr eglwys yn rhywbeth arbennig o ddefnyddiol i unrhyw weinidog. Yn ogystal â chael fy hyfforddi yn Wycliffe, cefais hefyd hyfforddiant gan fy eglwys leol yn Rhydychen, Eglwys St. Ebbe’s. Yno, cefais gyfle i arwain astudiaethau Beiblaidd i fyfyrwyr a chefais hyfforddiant pregethu gan reithor yr eglwys, Vaughan Roberts. Rwy’n falch iawn fy mod wedi mynd i Rydychen gan mai yno y gwnes i gyfarfod ag Alex – fy ngwraig!
A thithau wedi treulio cyfnod yn astudio yn Lloegr, sut mae’r sefyllfa ysbrydol yng Nghymru yn cymharu? Oes rhywbeth i’w ddysgu ac i’w werthfawrogi?
Un peth wnaeth fy nharo pan symudais i Rydychen oedd bod eglwysi’r ddinas yn llawn o bobl ifanc. Gan fod cyfartaledd oedran ein heglwysi Cymraeg dipyn yn uwch, cefais syndod o weld cymaint o bobl yn eu hugeiniau a’u tridegau yn oedfaon St. Ebbe’s!
Un peth y gallwn ni fel Cristnogion Cymraeg ei ddysgu gan Gristnogion Lloegr yw’r diwylliant cryf o hyfforddi eraill i ddarllen a dysgu’r Beibl sydd i’w gael yn eu heglwysi. Yn St. Ebbe’s, cefais nifer o gyfleodd i ddysgu sut i astudio’r Beibl, sut i arwain astudiaethau Beiblaidd, sut i ofalu’n fugeiliol am Gristnogion eraill, sut i rannu am Iesu gydag eraill, a sut i baratoi pregeth. Byddai’n wych petai’r diwylliant hwn yr un mor amlwg yn eglwysi Cymru.
Sut wyt ti’n teimlo ar ddechrau dy weinidogaeth? Beth yw dy obeithion a dy ofnau? Beth am y pandemig?
Heb os, rwyf fi ac Alex yn arbennig o gyffrous o gael cychwyn ar ein gweinidogaeth yn Aberystwyth a Thal-y-bont. Rydym yn gobeithio a gweddïo y bydd Cristnogion yn tyfu ac aeddfedu yn eu ffydd ac y bydd nifer o bobl Ceredigion yn troi o’r newydd at Iesu Grist.
Un o’n pryderon mwyaf ydy effaith y pandemig ar yr eglwysi a’u haelodau. Mae wedi bod yn gyfnod unig a phryderus i lawer o Gristnogion – yn enwedig y rhai hynny sy’n byw ar eu pennau eu hunan. Er hynny, rydym yn ddiolchgar i’r Arglwydd ein bod ni yn gallu cyfarfod ar Zoom bob Sul i atgoffa ein gilydd o addewidion Duw.
Sut y gallwn ni weddïo drosot ti?
Gweddïwch y bydd Duw yn ein helpu ni i setlo yn Aberystwyth ac yn rhoi cyfleoedd i ni ddod i adnabod aelodau’r eglwysi (boed hynny trwy alwad ffôn neu drwy FaceTime ar hyn o bryd!). Gweddïwch yn benodol dros Alex wrth iddi gael gwersi Cymraeg ar Zoom bob dydd Mawrth.