Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Cymdeithas Go Iawn

14 Ebrill 2022 | gan Sarah Graves

Cymdeithas Go Iawn

Sarah Graves

 

Beth mae’r gair ‘cymdeithas’ yn ei awgrymu i chi? Sgwrs fach dros baned gydag aelodau eraill yr eglwys? Teimlad o berthyn i rywbeth, mewn byd sy’n ein hannog yn fwyfwy i feithrin agwedd pawb drosto’i hun, heb ddymuno nac yn gallu rhannu unrhyw beth yn iawn â neb? Teimlad teuluol ymhlith ffrindiau? Neu lo mân cyfeillgarwch dwfn, real â chredinwyr eraill yn Iesu Grist? Ar adegau, mae’n rhaid bod yn wan ac agored o flaen eraill wrth ddatgelu’r gwir amdanoch chi eich hunan wrth bobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw, am fod gennych brofiad personol o Rufeiniaid 8:1 – ‘nid oes collfarn i’r rhai sydd yng Nghrist Iesu’. Hynny yw, nid yn unig ddim collfarn gan Dduw ei hun sy’n tywallt gras ar ben gras, ond hefyd gan ei bobl.

Nid ydym i fod i fyw’r bywyd Cristnogol ar ein pennau ein hunain. Mae Crist wedi ein hachub i deulu, teulu y mae e’n ben arno. Drwy gydol y Testament Newydd, fe welwn mor hollbwysig yw gweithredu mewn partneriaeth â’n gilydd yn yr efengyl. Mae hyn yn golygu rhywbeth mwy nag ymweld â chartrefi ein gilydd yn rheolaidd, neu baratoi pryd i rywun sy’n dost – er bod y pethau hynny, wrth gwrs, yn rhan o beth mae’n ei olygu i berthyn i deulu Duw, ac mae’r gweithredoedd hyn o wasanaeth a wnawn i’n gilydd yn ei ogoneddu ac yn hyfryd yn ei olwg. Byddai’n amhosib i mi fynegi mewn geiriau cymaint o fendith rydw i’n bersonol wedi ei dderbyn trwy ofal ymarferol a lletygar Cristnogion eraill yn ystod yr wyth mlynedd rydw i wedi bod yn dilyn Iesu – yn yr Almaen, yn Ffrainc, yn Lloegr ac yng Nghymru.

Ond rydyn ni’n gorff ac ysbryd, ac felly mae gennym ni anghenion ysbrydol, yn ogystal â rhai ymarferol. Mae’r Testament Newydd yn tynnu sylw at ein dibyniaeth ysbrydol ar Gristnogion eraill – gan gynnwys y rhai sydd wedi mynd o’n blaen ni – gan bwysleisio bod hyn yn angenrheidiol i’n dyfalbarhad yn y ffydd. Yn ôl Hebreaid 12, er mwyn byw’r bywyd a gallu dal ati hyd y diwedd, rhaid i ni nid yn unig ‘[g]adw ein golwg ar Iesu’, ond hefyd rhaid cofio anogaeth ‘torf mor fawr o dystion’. Llyfr gwych ar gyfer archwilio ystyr partneriaeth yn yr efengyl yw Philipiaid. Mae gweddïau eglwys Philipi yn hwb i Paul – y rhain yw un o’r pethau sy’n ei helpu i ddyfalbarhau yn y carchar (Philipiaid1:19). Yn yr un modd, mae’r Philipiaid hefyd yn elwa o’i gyfeillgarwch parhaus – mae Paul yn credu bod ei fywyd yn cael ei gynnal yn rhannol er mwyn eu hannog (Philipiaid 1:25-6)
Gwelwn enghraifft arall o sut mae angen credinwyr eraill arnom ni i ddal ati a thyfu yn y ffydd yn Iago 5:16: ‘Felly, cyffeswch eich pechodau i’ch gilydd, a gweddïwch dros eich gilydd, er mwyn i chwi gael iachâd.’ Yn ymhlyg yn yr adnod hon mae’r awgrym nad yw’n bosib ymladd yn erbyn pechod na thyfu mewn sancteiddrwydd ar ein pen ein hunain. Yn wir, yn aml, welwn ni ddim gweddïau yn cael eu hateb nes i ni fod yn ddigon dewr i roi ein hunain mewn sefyllfa o wendid ac agor ein calonnau i gredinwyr eraill, ac wedyn derbyn eu gweddïau, eu cymorth a’u hanogaeth. Yn fy marn i, rhan o’r rheswm am hyn yw bod Duw am ein hatgoffa ni nad ydyn ni’n hollalluog. Allwn ni ddim gwneud popeth ar ein pen ein hunain. Calonnau gostyngedig sydd yn plesio Duw, a phrofiad i’n gwyleiddio yw sylweddoli bod angen pobl eraill arnom ni, a sylweddoli hynny dro ar ôI tro. Ond nid peth hawdd o gwbl yw rhannu mewn ffordd mor onest. Felly sut mae mynd ati?

Yn gyntaf, rhaid i ni ystyried esiampl Iesu. Wylodd ym mhresenoldeb eraill. Galwodd grŵp o ddynion i fod gydag e o ddydd i ddydd. Gofynnodd iddyn nhw aros a gwylio wrth iddo weddïo’n ddwys, a’i chwys yn troi’n ddafnau gwaed gan yr ymdrech ingol yng Ngardd Gethsemane. Derbyniodd help Simon o Gyrene i gario ei groes. Gofynnodd i Ioan fod yn fab i’w fam. Yn ôl yn nhragwyddoldeb pell, penderfynodd e a’r Tad a’r Ysbryd Glân greu pobl, nid am fod ein heisiau ni na’n haddoliad na’n cwmni arno, ond am ei fod am ein cael ni. Dangosodd Iesu dro ar ôl tro mai bendith yw bod mewn cymdeithas ag eraill. Daeth Iesu i roi bywyd, ‘a’i gael yn ei holl gyflawnder’ (Ioan 10:10), ac mae hynny’n cynnwys rhannu bywyd – y gwych a’r gwachul – gydag eraill. Boed ei esiampl yn gymhelliant i ni fuddsoddi mewn eraill, a gadael i eraill, yn eu tro, fuddsoddi ynom ninnau a bod yn fendith i ni, yn yr un modd ag y gwnaeth e.

Yn ail, daw parodrwydd i rannu’n onest ag eraill pan sylweddolwn o brofiad mai dyma’r unig ffordd o brofi’r bywyd Cristnogol y mae Iesu yn ei addo yn ei lawnder. Bywyd rhydd. Bywyd lle gwelwn fuddugoliaethau go iawn – yn fawr neu’n fach – dros bechod, a chyda hyn, dwf hyfryd yng Nghrist wrth i chi gael eich gwneud yn debyg i’w ddelw e trwy waith yr Ysbryd Glân ynoch chi. Pan fyddwch chi’n barod i roi heibio eich balchder a chyfaddef bod eisiau help eraill a gweinidogaeth arnoch chi – yn ymarferol, yn ysbrydol, yn emosiynol, ac ati, fe gewch chi’r llawenydd sy’n deillio o gymdeithas go iawn.
Po fwyaf y byddwch chi’n barod i roi eich hunan mewn lle o wendid, mwyaf oll y bydd eraill yn barod i ymateb gyda’r un gonestrwydd – hyd yn oed os bydd angen peth amser i’ch esiampl eu rhyddhau oddi wrth ofn rhannu o ddifri. Po fwyaf y cadwn ni’n dawel, y mwyaf y rhoddwn ni’r argraff i eraill – yn gredinwyr neu’n anghredinwyr – nad yw Cristnogion ‘byth yn pechu’ neu ‘byth yn pechu fel yna’ ‘byth yn cael y rhan hon o fywyd yn anodd’. Y mae hyn wir yn gwrthddweud yr efengyl a’i neges ganolog ein bod ni’n fwy pechadurus nac yr ydyn ni wedi ei ddychmygu erioed, ac wedi ein caru a’n derbyn yn fwy na phob gobaithi.Y perygl yw y byddwn ni’n creu rhwystr i anghredinwyr sy’n credu bod yn rhaid iddyn nhw fod yn berffaith, neu o leiaf yn ‘dda’ cyn iddyn nhw gael eu derbyn gan Grist. Rydyn ni mewn perygl o atal Cristnogion rhag tyfu yng Nghrist wrth iddyn nhw frwydro yn erbyn pechod ar eu pen eu hunain.

Yn bersonol, dwi’n cofio’r tro cyntaf i mi fagu’r hyder i rannu un frwydr â phechod oedd gen i ar y pryd â’m mentor ysbrydol yn fy eglwys, pan oeddwn i yn y brifysgol. Anfonodd hi neges destun nôl yn syth gyda’r geiriau, ‘nid yw’r rhai sydd yng Nghrist Iesu dan farn o unrhyw fath’. Dyna ryddhad oedd derbyn y neges honno! Cyn hynny, roeddwn i’n gwybod bod gen i faddeuant llawn yn Iesu Grist. Ond dyna brofiad unig yw rhygnu ymlaen ar eich pen eich hunan, ac mor ddiangen! Dim ond trwy’r gras a’r cariad roedd Cristnogion eraill yn ei gynnig i mi y des i ddeall a phrofi‘r rhyddid llawn oedd gen i yng Nghrist. Mae’n tawelu’r amheuon a allai fod gennym fod rhaid bod fwy neu lai’n berffaith er mwyn bod yn Gristion. Hefyd, mae’n rhoi hyder i ni barhau i ddal ati; troi oddi wrth bechod a thuag at gyfiawnder wrth i ni gael ein hannog gan Gristnogion eraill sy’n gwybod am ein brwydrau presennol – boed y rhain yn frwydrau â phechod neu’n flinderau bywyd – gan ein sbarduno ni i redeg y ras.