Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Cyfnod Clo Ysgrythurol – Gosen

20 Ebrill 2022 | gan Nathan Munday

Cyfnod Clo Ysgrythurol – Gosen

Nathan Munday

Rydym wedi clywed cymaint am y ‘cyfnod clo’, neu’r ‘lockdown’, yn ddiweddar, ac mae’n siŵr eich bod chi, fel fi, wedi cael llond bol ar y term hwnnw erbyn hyn. Roedd hi’n galonogol clywed sylwadau diweddar y prif weinidog wrth iddo ddatgan ein bod ni wedi cyrraedd pen draw’r cyfnod tywyllaf – mae’r copa, yn ôl Boris Johnson, wedi pasio. Gallwn ni ddiolch i’r Arglwydd am y newyddion da hyn.

Oes yna gyfnodau clo tebyg yn y Beibl? Oes. Hoffwn rannu rhai pwyntiau gyda chi ynglŷn ag un o’r cyfnodau mwyaf dramatig mewn hanes. Trowch gyda fi at lyfr Exodus.

Y PASG
Rydym yn dechrau gyda’r noson fwyaf cofiadwy yn hanes yr hen Israel. Noson oruwchnaturiol. I rai, roedd hon yn noson frawychus, tra byddai eraill wedi bod yn hyderus iawn gan orffwyso’n ddiogel ar addewidion Duw. Yn anffodus, i’r rheini oedd yn anufudd, roedd hi’n noson arswydus.
Yn Exodus 12 cawn hanes y ‘cyfnod clo’ cynnar yma. Mae’r Arglwydd yn gorchymyn i’r Israeliaid
‘ar y degfed dydd o’r mis hwn, i gymryd oen ar gyfer ei deulu, un i bob teulu […] rhaid i bob oen fod yn wryw blwydd heb nam’.
Byddai’r oen hwnnw wedi bod yn y tŷ am gryn amser (ad.6). Gwyddai pawb beth fyddai tynged yr anifail. Wrth i mi ysgrifennu’r darn hwn, gallaf weld pymtheg o ŵyn bach yn y cae gyferbyn â Tŷ Mawr. Gall rhywun ddod yn hoff iawn o’r creaduriaid hyn. Pan ddaeth y diwrnod, a’r haul yn dechrau machlud dros dir Gosen, lladdodd y bobl yr anifeiliaid cyn taenu rhywfaint o’r gwaed ar ddau bost a chapan drws y tai (ad.7). Yna gorchmynnodd yr Arglwydd iddyn nhw fwyta’n dda; byddai’n rhaid llosgi unrhyw weddillion yn y bore. Dywed yr Ysgrythur:
‘Dyma sut yr ydych i’w fwyta: yr ydych i’w fwyta ar frys â’ch gwisg wedi ei thorchi, eich esgidiau am eich traed, a’ch ffon yn eich llaw. Pasg yr ARGLWYDD ydyw’ (ad.11)
Allwch chi ddychmygu sŵn ac arswyd yr achlysur hwnnw? Yn dilyn y lladdfa fawr, byddai teuluoedd wedi aros yn eu cartrefi.
‘byddaf yn tramwyo trwy wlad yr Aifft ac yn lladd pob cyntafanedig sydd ynddi, yn ddyn ac anifail, a byddaf yn dod â barn ar dduwiau’r Aifft; myfi yw’r ARGLWYDD. Bydd y gwaed yn arwydd ar y tai y byddwch chi ynddynt; pan welaf y gwaed byddaf yn mynd heibio i chwi, ac ni fydd y pla yn eich difetha pan drawaf wlad yr Aifft.’
Roedden nhw dan glo tan y bore. Ac eto, doedd dim i’w ofni. Beth oedd sail eu sicrwydd?

GWAED YR OEN
Efallai bod rhai ohonoch chi’n gyfarwydd â phregeth Don Carson, ‘The Ground of All Human Assurance Before God’. Mae’n trafod y Pasg mewn clip sydd wedi dod yn boblogaidd iawn ar YouTube. Rwyf wedi gwylio’r clip sawl gwaith. Rhybudd: mae ei ddarluniau yn ‘Americanaidd’ iawn. Ond wrth iddo fynd yn ei flaen, mae’r gwirioneddau’n cael eu cyfleu mor galonogol nes y byddwch chi am wylio’r clip drosodd a throsodd. Rwyf wedi cynnwys y darlun:
Dychmygwch ddau Iddew o’r enw Smith a Brown.
Y diwrnod cyn y Pasg cyntaf maen nhw’n cael trafodaeth yn nhir Gosen, ac meddai Smith wrth Brown, ‘Wyt ti’n poeni o gwbl am yr hyn fydd yn digwydd heno?’
Atebodd Brown, ‘Wel, mae Duw wedi rhoi cyfarwyddiadau i ni trwy ei was Moses. Does dim angen i ti boeni. Onid wyt ti wedi lladd yr oen a thaenu’r gwaed uwchben y drws? Onid wyt ti wedi gwneud hynny? Wyt ti wedi pacio yn barod i fynd? Wyt ti’n mynd i fwyta’r holl bryd bwyd Pasg gyda dy deulu?’
‘Wrth gwrs fy mod i wedi gwneud hynny. Dydw i ddim yn dwp. Ond mae’n dal i fod braidd yn frawychus ac ystyried yr holl bethau sydd wedi bod yn digwydd yma’n ddiweddar. Y pryfed, a’r afon yn troi’n waed. Mae braidd yn erchyll. A nawr mae bygythiad y caiff pob cyntafanedig ei ladd. Mae’n iawn i ti. Mae gennyt ti dri mab. Dim ond un sydd gen i. Dwi’n caru Charlie, ac mae Angel Angau yn pasio trwy’r fan hon heno. Rwy’n gwybod beth ddywedodd Duw; rwyf wedi taenu’r gwaed. Ond mae’n codi ofn arna i, a bydda i’n falch pan fydd hyn drosodd.’
‘Alla i ddim aros,’ oedd ymateb y llall. ‘Rwy’n ymddiried yn addewidion Duw.’
Y noson honno, aeth Angel Angau trwy’r tir. Pa un o’r ddau a gollodd ei fab?
Dim un, wrth gwrs.
Nid yw marwolaeth yn pasio heibio iddynt ar sail dwyster eu ffydd, ond ar sail gwaed yr oen. Dyna sy’n tawelu’r cyhuddwr.
Mae’r gwaed yn tawelu cyhuddwr y brodyr hyn yn yr un modd ag y mae’n ei dawelu wrth iddo ein cyhuddo ni gerbron Duw. Mae’n tawelu ein cydwybod pan fydd yn ein cyhuddo ni’n uniongyrchol. Sawl gwaith fyddwn ni’n gwingo mewn poen gan ofyn a all Duw ein caru ni ddigon, a all Duw fod â digon o ofal trosom ni ar ôl i ni wneud rhywbeth twp, pechadurus, gwrthryfelgar, a ninnau’n Gristnogion ers 40 o flynyddoedd?
Beth fyddi di’n ei ddweud? ‘O Dduw, ymdrechais ymdrech deg. Gwnes fy ngorau. Roedd hi’n foment wan’?
Na, na, na.
Does gen i ddim dadl arall! Nid oes angen ple arall arna i! Mae’n ddigon fod Iesu wedi marw, ac iddo farw drosta i!
Rydym yn ei orchfygu trwy waed yr oen. Dyna sail holl sicrwydd pobl gerbron Duw. Dyna lle mae sail ein ffydd. Nid trwy ddwyster ffydd – rydym mor gyfnewidiol.
Nid dwyster ein ffydd ond gwrthrych ein ffydd sy’n achub. Maen nhw’n ei orchfygu ar sail gwaed yr oen. ≥≥≥
Rwyf wedi pwysleisio’r adran olaf honno gan ei bod yn hollbwysig. Rydym yn parhau i gael ein cadw trwy waed Oen Duw: Iesu Grist y Cyfiawn (1 Ioan 2:1). Ym mhregeth Carson, roedd Smith a Brown mor wahanol i’w gilydd o ran eu cymeriad, eu natur, a hyd yn oed eu ffydd. Ond oherwydd y gwaed, cafodd eu teuluoedd eu cadw. Efallai bod eich ffydd chi’n wan iawn ar hyn o bryd, neu efallai fod eich ffydd yn fawr. Ond, fel y dywed Carson, nid eich ffydd sy’n eich achub nac yn eich cadw, ond gwrthrych eich ffydd. Yn fy marn i, does neb yn cyfleu’r darlun hwn o Grist fel gwrthrych ein ffydd yn well nag Ann Griffiths. Dyma un o’i hemynau:

O! f’enaid, gwêl addasrwydd
Y Person dwyfol hwn,
Mentra arno’th fywyd
A bwrw arno’th bwn;
Mae’n ddyn i gydymdeimlo
Â’th holl wendidau i gyd,
Mae’n Dduw i gario’r orsedd
Ar ddiafol, cnawd, a byd.

Mae hi’n ysgrifennu yn ysbryd Hebreaid 12:2 – cadw ein golwg ar yr Iesu, ei weld fel dyn a Duw. Efe yw gwrthrych ei dyhead a’i ffydd. Gallwn fwrw popeth arno ef, fel y dywed Salm 55:22:

Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD,
ac fe’th gynnal di;
ni ad i’r cyfiawn gael ei ysgwyd byth.
Ac yna y gofidiwr mawr, Simon Pedr, a ddaeth yn gymaint o gysurwr i’r eglwys fore, yn ysgrifennu yn 1 Pedr 5:6-7:
Ymddarostyngwch, gan hynny, dan law gadarn Duw, fel y bydd iddo ef eich dyrchafu pan ddaw’r amser. Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch.
Frodyr a chwiorydd, mae gennym Dduw gofalgar. Gallai Pedr ac Ann Griffiths ill dau floeddio ‘Amen’ i’r frawddeg ddiwethaf. Yn ei hemynau, mae Ann yn cael ei llethu wrth feddwl am yr Arglwydd yn oen aberthol (Ioan 1:29) ac yn archoffeiriad (Hebreaid 4:14) sydd â gofal amdanom. Mae ef, fel y disgrifia’r emyn uchod, yn ‘hollddigonol’. Ysgrifennodd Pantycelyn eiriau tebyg: ‘Iesu, Iesu, rwyt ti’n ddigon, rwyt ti’n llawer mwy na’r byd.’ Efallai, yn olaf, y gwelir hanfod hollddigonolrwydd ein Harglwydd yn un o fy hoff enwau ar ei gyfer, Jehovah Jireh. Bydd yr Arglwydd yn darparu’r aberth. Nid yn unig bydd yr Arglwydd yn darparu ei unig-anedig fab allan o’i gariad (Ioan 3:16); ond mae’r mab yn barod i roi ei fywyd ei hun (Ioan 10:18).

Teilwng yw’r Oen a laddwyd i dderbyn
gallu, cyfoeth, doethineb a nerth,
anrhydedd, gogoniant a mawl.

Boed i chi gael eich bendithio wrth i chi fyfyrio ar yr Arglwydd Iesu – yr Oen hollddigonol.