Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Cyfarfod Heledd Job

14 Ebrill 2022 | gan Heledd Job

Cyfarfod Heledd Job

 

Allet ti roi rhywfaint o dy gefndir?

Fe ges i fy ngeni yn Wrecsam, ond fe symudon ni i Fangor pan o’n i’n dair oed. Es i astudio Mathemateg a Chymraeg yn Aberystwyth. Ers hynny, heblaw am flwyddyn yn astudio cyfieithu, dwi wedi bod yn gweithio efo IFES (International Fellowship of Evangelical Students) yn helpu myfyrwyr i ddod i adnabod Iesu.

Sut y dest ti’n Gristion?

Dwi’n ddiolchgar mod i wedi tyfu mewn cartref lle roeddwn i’n cael clywed a gweld yr efengyl bob dydd. Dwi’n cofio un noson mewn gwersyll pan o’n i tua 12 lle y gwnes i ddeall mod i’n bechadur, a bod Iesu wedi marw drosof fi yn bersonol. Dwi ddim yn siŵr a faswn i’n dweud mai dyna pryd y dois i’n Gristion, roedd yn broses fwy graddol na hynny, ond roedd o’n sicr yn gam pwysig.

Beth oedd y pethau a wnaeth dy helpu di i dyfu’n Gristion?

Roedd y capel yn sicr yn help mawr. Dwi’n credu mod i wedi cael fy nysgu yn dda sut i ddarllen y Beibl ac mae hynny wedi rhoi sylfaen gadarn i mi. Dwi wastad wedi bod yn rhywun sy’n mwynhau darllen ac mae nifer o lyfrau wedi bod yn arwyddocaol i mi. Roedd yr Undeb Cristnogol yn help mawr i mi yn y coleg. Roedd gen i un ffrind oedd ddim yn Gristion oedd yn cadw gofyn cwestiynau nad oeddwn i’n gwybod sut i’w hateb. Roedd yr Undeb Cristnogol yn lle da i allu meddwl trwy’r cwestiynau hyn a dysgu sut i ddod o hyd i atebion cadarn yn y Gair, ac yn y pen draw i weld sut roedd y cwestiynau yn arwain at Iesu.

O ble daeth yr awydd i wasanaethu’r Arglwydd dramor?

Daeth Helen Rosevere, cenhades o’r Congo oedd yn dipyn o arwres i mi, i ymweld â’r capel pan o’n i’n 13. Wrth siarad ar fore Sul fe heriodd ni i weddïo: ‘Stir me to give, stir me to go,
stir me to pray’. Fe weddïais i hynny, ac mae Duw wedi ateb! Yn y coleg fe ddefnyddiodd Duw wahanol bethau i’m helpu i ddeall fod y Beibl o’r dechrau yn hanes – Duw yn ei gariad yn galw pobl o bob cenedl yn ôl ato fo’i hun. Fe ges i’n argyhoeddi mai dyna galon Duw, ac felly dyna ddyle nghalon i fod yn frwd drosto hefyd.

Ble rwyt ti wedi gweithio?

Dwi wedi gweithio chwe blynedd gyda myfyrwyr yng Nghymru, gyda chyfnod byr ym Mhortiwgal yn y canol yn gweithio efo myfyrwyr tramor. Yna pum mlynedd yn Slofacia. A rŵan dwi’n byw yn yr Eidal yn estyn allan i fyfyrwyr tramor drwy’r eglwys ryngwladol yma, tra ar yr un pryd yn cefnogi a datblygu gweithwyr efo myryrwyr ar draws Ewrop.

Pa mor anodd oedd ymgartrefu yn y gwledydd hyn?

Amser byr iawn oeddwn i ym Mhortiwgal, ac fe dreuliais i’r rhan fwyaf o’m hamser efo myfyrwyr o Tsieina, felly faswn i ddim yn dweud mod i wedi ymgartrefu yno. Roedd ymgartrefu yn Slofacia yn her, ond fe ddarparodd Duw deulu oedd yn help mawr i mi ddeall sut oedd pethau’n gweithio, ac oedd yn gwmni i mi yn y misoedd cyntaf. Mae symud i’r Eidal wedi bod yn brofiad eitha gwahanol gan fy mod i’n rhan o gymuned ryngwladol, ac roeddwn gen i ffrindiau yno’n barod. Roedd hynny’n help mawr a dwi wir yn mwynhau bod yn rhan o gymuned mor amrywiol, lle mae pawb yn deall beth mae’n ei olygu i fod yn ‘ddieithriaid’. Ar yr un pryd, mae’ngymuned sy’n newid trwy’r amser gyda phobl yn mynd a dod ac mae hynny’n gallu bod yn her.

Beth am ddysgu’r ieithoedd?

Fe wnes i fethu’n llwyr â dysgu Portiwgeeg gan mod i’n poeni lot gormod am beth oedd pobl eraill yn ei feddwl ohono fi. Ond o leia dwi’n credu y gwnes i ddeall sut i beidio dysgu iaith! Roedd hynny’n help wrth i mi fynd i ddysgu Slofaceg. Doeddwn i prin yn adnabod unrhyw un yn y flwyddyn gyntaf oedd yn siarad Saesneg. Roedd cael fy nhaflu i’r pen dwfn, ynghyd â lot o weddi gan ffrindiau yn awyrgylch gwych i mi ddysgu. Dwi’n credu fod fy mhrofiad o ddysgu Eidaleg rywle yn y canol. Mae’n sicr yn ffordd mae Duw wedi ei defnyddio i’m dysgu i ddibynnu’n fwy arno fo, ac mae’n sicr yn help wrth geisio uniaethu ac adeiladu perthnasau efo rhai eraill o dramor.

Pa fath o ymateb rwyt ti wedi ei weld?

Amrywiol. Roedd Jiachen o Tsieina yn byw yn yr un fflat â mi ym Mhortiwgal. Fe fuon ni’n astudio’r Beibl efo’n gilydd trwy’r flwyddyn. Wrth ffarwelio fe ddwedodd ei bod hi’n ddiolchgar am yr hyn roedd hi wedi ei ddysgu, ond doedd hi ddim yn barod i gredu eto. Ddwy flynedd yn ddiweddarach ces i e-bost ganddi yn dweud ei bod wedi dod i’r bywyd. Roedd Marek fel llawer o Slovaks, o gefndir Catholig oedd ddim yn golygu llawer iddo fo. Fe ddaeth o hyd i’r grŵp myfyrwyr ar y we a throi fyny un noson. Roedd yn dod bob wythnos gyda mwy o gwestiynau o’r hyn roedd wedi ei ddarllen yn y Beibl. Rhyw flwyddyn a hanner yn ddiweddarach roeddwn i’n gwrando ar Marek yn siarad ac fe sylweddolais i fod Marek wedi dod yn Gristion! Mae S. un myfyriwr o India wedi bod yn dod i’r cyfarfodydd yma ers dros flwyddyn. Fel llawer o’n myfyrwyr, mae o gefndir Mwslimaidd. Mae’n agored iawn i ddod, i wrando, mae wedi dod yn ffrind da. Ond bob tro y byddwn ni’n ceisio cael sgwrs ddyfnach am unrhyw beth i wneud efo ffydd mae fel petai wal yn codi. Ac eto mae’n dal i ddod. Felly rydan ni’n parhau i’w garu ac i weddïo y bydd Duw yn defnyddio’r hyn mae’n ei glywed i’w dynnu ato fo’i hun.

Beth sydd wedi bod o gymorth i ti yn dy waith? Beth sy’n dy helpu i ddal ati?

Mae Duw wastad wedi rhoi cyd-weithwyr arbennig i mi. Mae bod yn y frwydr efo’n gilydd yn help mawr i ddal ati. Dwi’n credu hefyd fod gwybod beth yw’r pen draw yn help. Neithiwr, roeddwn i’n siarad efo ffrind a chyd-weithwraig, ac fe ddywedodd hi – yr unig ddyfodol sy’n sicr ydy fod Crist yn dod nôl ac fe fyddwn ni i gyd yn ei addoli fo efo pobl o bob llwyth, iaith a chenedl. Dyna’r realiti rydan ni gyd yn ymgyrchu tuag ato fo. Dyna sy’n fy nghadw i fynd.

Sut y gallwn ni weddïo drosot ti?

Mae gwybod fod cymaint yn gweddïo drosof fi yn gymorth mawr. Ddoe fe ddarllenais i hyn gan Paul Mallard: ‘Perhaps the gravest error that any leader can make is to fall in love with their ministry and allow it to become a substitute for God. Instead of loving Christ we begin to love what we do for him. We begin to define ourselves by what we do rather than what we are.’ Fe hoffwn i chi weddïo y byddaf i’n parhau i garu Iesu ac yn gweld fy hun yn bennaf fel rhywun sydd wedi fy ngharu a’m cadw ganddo fo.