Crocodeil Afon yr Aifft
John Aaron
Yn 1767, cyhoeddodd Williams Pantycelyn lyfr yn dwyn y teitl:
‘Crocodil Afon yr Aifft, wedi ei weled ar Fynydd Seion: sef Cenfigen, wedi ei holrhain trwy’r Byd a’r Eglwys, tan gyffelybiaeth Bwystfil gormesol yr Anialwch, mor afluniaidd a gwenwynig ei natur ag un o Fwystfilod y pwll.’
Fel cymaint o’i weithiau, mae ar ffurf ymddiddan, y tro hwn rhwng Percontator (Ymofynnydd) a Peregrinus (un sydd wedi bod yn teithio ac sy’n gyfarwydd â’r byd a’r eglwys).
Yr adnod ar yr wynebddalen yw, Pregethwr 4:4, ‘A mi a welais fod pob llafur, a phob uniondeb gwaith dyn, yn peri iddo genfigen gan ei gymydog.’ Cenfigen yw’r testun, felly, ac mae Williams yn ysgrifennu at Gristnogion, ac am Gristnogion. Cenfigen ‘ar Fynydd Seion’. Mae’n dweud ei fod yn dewis crocodeil yn symbol, yn ddarlun, o genfigen:
Am ei fod yn disgwyl mewn dirgel-leoedd am ei sglyfaeth, a phan y dalio ef hi, ei fod yn ei boddi yn gyntaf, ac yna yn ei rhwygo yn ddarnau, a’i llyncu mewn ychydig amser. (t. 78)
Cenfigen yn neidio’n sydyn ar ei ysglyfaeth, yn codi mor ddisymwth yn y galon, a’r canlyniadau mwyaf diflas yn dilyn. Weithiau wedyn, defnyddia’r ffigwr o sarff yn lle crocodeil, er mwyn pwysleisio natur wenwynig brathiad cenfigen. O’i hesgeuluso, mi all, yn gyflym iawn, gael gafael llwyr ar y person.
Nid yw’r ellyll yn weledig ond yn ei ffrwythau a’i weithredoedd, canys ysbryd yw ag sydd yn ymlusgo i mewn i ddynolryw yn fynych heb wybod iddynt, nes bo wedi gwneud anrhaith fawr; ac ni chais ef ar y cyntaf ond cwr bychan o galon dyn, twll dirgel yn un o’r nwydau gwanna, lle gallo ef ond ymdroi ac ymchwyddo gronyn, ac yna fe lusg i mewn dorfeydd o’i gyfeillion, y rhai gydag ef a ymwthia yma a thraw a thrwy furiau’r galon bob ochr, gan yrru allan yr hen gyfanheddwyr, megis Cariad, Amynedd, Ffydd a Symlrwydd, a gwneud lle helaeth i dorf o ellyllon i gyfanheddu yn y cof, y deall, yr ewyllys, y gydwybod a’r serchiadau, ac o’r diwedd rhoi teml Dduw yn ogof lladron. (tt. 41-2)
Cynnwys
-
Mae hanner cynta’r llyfr (tt. 38-77) yn trafod effeithiau cenfigen ym mywydau amryw o gymeriadau’r Beibl: gan ddechrau gyda Lusiffer (y Diafol) yn y nefoedd, ac yna Adda ac Efa, Cain, brodyr Joseff, Cora, Dathan ac Abiram, Saul, Haman, y genfigen rhwng y Samariaid a’r Iddewon, ac enghreifftiau eraill. Mae yna drafodaeth hir ar ddameg y Mab Afradlon ac, yn arbennig, ar genfigen y mab hynaf.
Beth sy’n taro dyn wrth ddarllen yr enghreifftiau hyn yw’r sylweddoliad cymaint o sôn sydd yn y Beibl am genfigen – mewn credinwyr ac anghredinwyr – a’r sylweddoliad cymaint ei chryfder o ran cymhelliad yng nghalonnau pobl ac ym mherthynas dynion â’i gilydd.
- Y mae ail hanner y llyfr (tt. 83-116) ar ffurf alegori ac yn debyg iawn i Taith y Pererin Bunyan. Mae’n disgrifio amryw o ddynion: Llygad Syml, Ofn Duwiol, Cariad Brawdol, Clust Enwaededig, Sêl i’r Gwirionedd ac eraill, yn hela’r Crocodeil o bob twll ac ymguddfan. Roedd pedwar gŵr duwiol wedi eu gosod i warchod y ddinas rhag dyfodiad y crocodeil, sef Gweinidogaeth Fywiol, Disgyblaeth Fanwl, Ceryddon Llymion a Gwyliadwriaeth Ysbrydol. Dyma geidwaid y ddinas – ceidwaid unrhyw achos neu eglwys felly, yn ôl Williams. Ond yn anffodus,
bu i Weinidogaeth Fywiol i gysgu hun, ac iddo yn ei drwmgwsg syrthio ar draws Gwyliadwriaeth Ysbrydol nes ydoedd yn hanner marw… Disgyblaeth Fanwl a Cheryddion Llymion wrth weled digwyddiad mor ddisymwth, a ofnasant cymaint nes daeth llen tros eu llygaid hwy; ac yn y cyfamser y bwystfil a ddaeth i ganol y ddinas, er nad oedd nemor o’r dref yn ei weled ef, a’r gwylwyr oll trwy ddamwain yn hanner marw. Ac y mae ef o lety i lety, hyd y dydd heddiw, ar hyd Fynydd Seion. (t.95)
Mae’n sôn wedyn, yn hwyrach yn yr alegori, bod cymaint o genfigen wedi ei ddarganfod mewn un ardal yn Seion, o’r enw Corintheus, fel y bu raid i un, Pauleus, ysgrifennu ddwywaith atynt i’w siarsio i wynebu’r broblem (mae’n cyfeirio at 1 a 2 Corinthiaid, wrth gwrs):
A wnaeth hyn ddaioni iddynt? [mae Percontator yn gofyn]
Cymaint fel y purodd efe hwynt oddi wrth dorfeydd o bryfed gwenwynig ag oedd Cenfigen wedi eu dwyn yno gyda hi.
Henwch hwynt.
Maent yn gang bygddu o ellyllon, eu gyd yn dilyn Cenfigen, fel y dilyn mwg y tân, sef Tor Priodas, Aflendid, Godineb, Casineb, Cynhennau, Llid, Gwynfydau, Ymbleidio, Ymrysonau, Heresiau, Cenfigennau, Meddwdod, Cyfeddach, Ymgyfreithio o Flaen y Rhai Digred, ac amryw o’r fath. (t. 98)
 Williams ymlaen i ddangos mai cariad brawdol yn unig a all wrthweithio effeithiau cenfigen. Ac ar dudalennau olaf y llyfr mae ganddo araith Brenin mawr y ddinas yn esbonio pam y mae’n caniatáu i’r fath elynion barhau yn ei deyrnas: am eu bod nhw’n profi ei bobl, yn eu cadw nhw’n ostyngedig ac yn rhoi pris arbennig ar y nefoedd; am eu bod yn datguddio helaethrwydd gras a gallu Tad y Brenin drwy eu bod yn gyrru ei bobl ato yn aml, i weddïo am faddeuant ac am help yn y frwydr. Dyna felly’n gyflym fraslun o’r llyfr.
Pwrpas y llyfr
Pam oedd Williams yn 1767, yn hanner can mlwydd oed, yn ysgrifennu llyfr sy’n gyfan gwbl ar genfigen? Dim ond pum mlynedd oedd ers ffrwydriad Diwygiad Llangeitho a’i effeithiau dros Gymru gyfan. Dyma gyfnod mwyaf llewyrchus yr efengyl yng Nghymru yn ystod bywyd Williams ac mae’n ysgrifennu llyfr ar genfigen! Mae’n wir ei fod wedi trafod diwygiadau yn Llythyr Martha Philopur yn 1763, ond yn awr, o fewn ychydig flynyddoedd, yn hytrach na’i fod e’n troi at gyfarwyddiadau caru a phriodi i’r bobl ifainc, dyweder, neu at ailddyfodiad Crist, neu at y ffordd orau o gadw seiat, mae’n rhoi blaenoriaeth i rybuddio am genfigen. Pam felly?
Ym marwnad Williams i Howel Harris, darllenwn:
Wedi agor drws yng Nghymru
O’r lledaena fu erioed,
Fel daeth cant o weinidogion
Rhyd y llwybr wnaeth dy droed;
On’d trueni oedd i’r neidr
Grocodilaidd roi iti glwy’
A dy gloffi nes rhoi fyny
Y cryman gloyw iddynt hwy.
Tybed a ydym yn rhoi digon o sylw ac ystyriaeth i’r holl dristwch ac ing, y poen enaid, a fu’n brofiad i Williams a’i gyfoedion yn sgil yr Ymraniad rhwng Harris a Rowland, a rhwng pobl Harris a phobl Rowland? Yn y tair blynedd ar ddeg rhwng 1750 a 1762, pryd parhaodd y cweryl, collwyd nifer fawr iawn o’r seiadau yn Siroedd Penfro, Morgannwg a Brycheiniog, a chollwyd, fwy neu lai, holl seiadau Mynwy a Maesyfed. Mae’n amlwg, o farwnad Williams, ei fod ef o leiaf, yn rhoi’r bai am hyn yn llwyr ar frathiad Harris gan y crocodeil – y genfigen a gododd rhwng Harris a Rowland. Cenfigen na allai’r ddau ohonynt ddelio â hi, na chwaith Williams, na’r holl gynghorwyr eraill. Er iddynt geisio llawer gwaith, ond heb lwyddo i’w cymodi; gyda’r canlyniad bod tua hanner y seiadau Methodistaidd yn cael eu colli, a nychdod a dihoeni’r efengyl yn ymledu dros y wlad. Ac yna, diolch byth, yn 1762, daeth Diwygiad Llangeitho. Ond yn awr, yn 1767, mae Williamsyn gweld arwyddion o’r hen genfigen a’i heffeithiau yn codi eto. Roedd yn hollol siŵr bod angen y rhybuddion hyn ar Eglwys Crist bob amser.