Cenhadaeth a’r Ymgnawdoliad
Carwyn Graves
Oes cysylltiad rhwng yr ymgnawdoliad a chenhadaeth? Ydy’r ffaith i’r Gair ddod yn gnawd olygu y dylem fynd ynghylch ein gorchwyl o dystio i’r byd mewn ffordd arbennig? Neu ydy ein cymhelliant i rannu’r newyddion da yn deillio’n llwyr o rannau eraill o’n ffydd? Bu trafod a dadlau brwd ymhlith diwinyddion drwy gydol yr ugeinfed ganrif a thu hwnt ynglŷn â natur cenhadaeth, a daeth y cwestiynau hyn yn rhan amlwg o’r drafodaeth honno dros y pymtheg mlynedd ddiwethaf. Daeth y term Saesneg ‘incarnational mission’ yn boblogaidd mewn ysgolion beiblaidd a mentrau plannu eglwys ar draws y byd angloffon, gyda rhai yn dadlau mai dyma yw calon y patrwm beiblaidd o genhadu. Mae eraill yn dadlau mai dim ond mympwy dros dro yw hyn yn y byd efengylaidd, a’i bod hefyd yn un sy’n tanseilio natur unigryw yr ymgnawdoliad. Oes cysylltiad felly rhwng yr ymgnawdoliad a’r ffordd y dylem ni fynd o gylch cenhadu?
Yr Ymgnawdoliad: Unwaith ac am byth
Mae’r ymgnawdoliad yn gwbl unigryw. Dyna’r ffaith sylfaenol a chychwynnol mewn unrhyw ymdriniaeth â’r mater. Cymerodd Gair Duw, Duw y Mab, gorff dynol a chael ei eni i’r forwyn Fair yn Jwdea ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Gwnaeth hyn er mwyn marw ar groes yn y pendraw, cymryd pechodau’r byd arno ef ei hun a thrwy hynny agor y ffordd i bobl fel ni gael ein hachub. Haleliwia! Ni all yr un ohonom ni efelychu hynny, ac yn fwy na hynny, mae’r angen wedi mynd yn llwyr, am fod gwaith achubol Iesu ar y groes wedi’i gyflawni unwaith ac am byth.
Cenhadaeth: Y Cyfarwyddyd Beiblaidd
Mae cenhadaeth, ar y llaw arall, yn waith parhaus, y’n gelwir ni i gyd fel Cristnogion i gymryd rhan ynddo. Gwreiddyn y gair cenhadaeth yw ‘cennad’, sef yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, ‘cynrychiolydd, negesydd, dirprwywr’. Yn aml byddwn ni’n meddwl am Mathew 28:19-20 wrth feddwl am ein galwad i fod yn genhadon i Grist: ‘Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân, a dysgu iddynt gadw’r holl orchmynion a roddais i chwi.’ Mater o ufuddhau i orchymyn Crist, yn syml iawn, yw cenhadaeth yma.
Ond nid dyma’r unig adeg lle mae Iesu’n anfon ei ddisgyblion i’r byd yn genhadon iddo. Mae Ioan 20:21 yn cofnodi gorchymyn ychydig yn wahanol gan Iesu ar i’w ddisgyblion fynd allan i’w gynrychioli: ‘Fel y mae’r Tad wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi.’ Mae yna fwy o gysylltiad yma, ar un olwg, rhwng y cysyniad o genhadaeth a ffaith yr ymgnawdoliad: danfonodd Duw y Tad ei Fab i’r byd i agor ffordd iachawdwriaeth a bellach, yn yr un modd, mae’r Mab yn danfon ei ddisgyblion allan i’r byd i ddangos ffordd iachawdwriaeth. Gan fod yr ymgnawdoliad yn rhan o’r ffordd y danfonwyd Iesu, dylem hefyd ddeall ei fod ar ryw olwg yn rhan o’r ffordd y’n danfonir ni.
Mae yna rannau eraill o’r Testament Newydd sydd i’w gweld yn cefnogi’r ffordd yma o ddarllen Ioan 20. Yr amlycaf ohonynt yw Philipiaid 2:5-8, lle darllenwn:
Amlygwch yn eich plith eich hunain yr agwedd meddwl oedd hefyd yng Nghrist Iesu. Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i ddal gafael ynddo, ond fe’i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol. O’i gael ar ddull dyn, fe’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau ar groes.
Mae Paul yn galw ar Gristnogion Philipi i fyfyrio ar yr ymgnawdoliad, a chymryd patrwm yr hyn wnaeth Iesu wrth ddod yn ddyn a mynd i’r groes fel patrwm i’w meddwl a’u bywydau nhw hefyd. Ac mae’n wir bod gweinidogaeth y saint i fod i ddilyn y patrwm a osododd Iesu i ni. Fe yw’r dyn perffaith, yr unig enghraifft o berson dibechod, yn byw mewn perthynas iawn â Duw y Tad. Mewn mannau eraill (e.e. Phil. 3:10) mae hi’n glir y dylem efelychu ffordd Crist. Mae selogion ‘incarnational mission’ – ‘cenhadaeth ymgnawdol’ – wedi dadlau ar sail hyn bod ymgnawdoliad Crist yn rhoi model i ni y dylem ei ddilyn yn ein holl genhadaeth – tystiolaeth, gweinidogaeth – ni.
Ond mae ffordd wahanol i ddarllen y comisiwn yn Ioan 20, ‘Fel y mae’r Tad wedi fy anfon i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi.’ A hynny yw trwy ddarllen yr adnod fel petai ei bwyslais ar y ffaith yr anfonwyd Iesu, ac nid ar y modd yr anfonwyd Iesu. Y neges i’r disgyblion yn sgil hynny fyddai eu bod nhw wedi eu hanfon, ac nid yn benodol eu bod wedi eu hanfon yn yr un ffordd ag yr anfonwyd Iesu. Mae’r darlleniad hwn yn fwy boddhaol o ran cadw natur unigryw yr ymgnawdoliad yn hollol glir. Ac mae modd darllen y testun yn Philipiaid yn wahanol hefyd – sef trwy weld mai’r hyn y mae Paul yn galw ar y Philipiaid i gael ynddyn nhw eu hunain yw agwedd Crist yn yr ymgnawdoliad, sef gostyngeiddrwydd.
Dull neu Agwedd
A ddylem felly anghofio am yr ymgnawdoliad fel model wrth fynd o gylch ein cenhadaeth, fel mae Tim Chester1 ac eraill yn argymell? Dadleuant mai gwell fyddai canolbwyntio ar y cysyniad o gyd-destunoli (contextualization) yn ei le, fel egwyddor ganolog sy’n ein cymell i genhadu mewn ffordd sensitif, ond heb fynd i ddyfroedd dyfnion yn ddiwinyddol. Cyfeiriant at yr esboniad o’r egwyddor yn 1 Corinthiaid 9, lle mae Paul yn esbonio:
’I’r Iddewon, euthum fel Iddew, er mwyn ennill Iddewon. I’r rhai sydd dan y Gyfraith, fel un ohonynt hwy—er nad wyf fy hunan dan y Gyfraith—er mwyn ennill y rhai sydd dan y Gyfraith…. Yr wyf wedi mynd yn bob peth i bawb, er mwyn imi, mewn rhyw fodd neu’i gilydd, achub rhai.’
Mae’n amlwg bod addasu allanolion – gwisg, arferion cymdeithasol, iaith ac ati – wrth gadw neges yr efengyl ei hun yn gwbl ganolog a digyfnewid, yn egwyddor bwysig mewn cenhadaeth i Paul. Wrth drafod y testun hwn, mynna Chester mai’r cwestiwn pwysig i Paul yw nid ‘sut gallwn ni ddynwared yr hyn a wnaeth Iesu yn yr ymgnawdoliad yn ein cenhadaeth?’ ond yn hytrach, ‘sut gallwn ni wasanaethu’r rhai sydd ddim yn adnabod Crist, ac ym mha fodd y mae’n rhaid i ni newid er mwyn gwneud hynny?’
Byddwn i’n cytuno gyda Chester fod y dystiolaeth feiblaidd yn ein harwain yn ddiogelach o lawer at y cwestiynau hyn nag at geisio cymryd yr ymgnawdoliad yn fodel y dylem geisio ei efelychu. Ond yr hyn sy’n fy nharo i yw mai rhan allweddol o’r ateb i gwestiynau Chester yn y pendraw fydd gostyngeiddrwydd. Trwy ddysgu bod yn ostyngedig yn wyneb pobl sy’n wahanol i ni y byddwn yn gallu dechrau newid er mwyn cyflwyno’r newyddion da iddyn nhw, mewn ffordd na fydd yn codi maen tramgwydd diangen. Ac wrth i ni ofyn i’r Arglwydd am help i ddysgu gostyngeiddrwydd, ac am fodel i’w ddilyn, cawn mai ymgnawdoliad Crist yw ein hesiampl fawr o ostyngeiddrwydd, ac yn hynny o beth, ein model! Ymddengys fod yr holl drafodaeth mewn perygl o fynd ychydig yn gylchol….
Ond hwyrach fod yna ffordd allan o’r drafodaeth gylchol, trwy nodi lle mae cytundeb rhwng y gwahanol safbwyntiau a dehongliadau – a nodi bod y cytundeb hwnnw yn eang ei gwmpawd:
- Fel Cristnogion, dylem geisio efelychu Crist yn ein buchedd a’n gweinidogaeth.
- Roedd patrwm Crist yn ei gyfnod ar y ddaear yn aberthol, hunan-nacaol, a gostyngedig – a dylai hynny fod yn wir amdanom ni – a ni Gristnogion efengylaidd yn anad neb.
- Yn ei ymgnawdoliad, cawn esiampl anhygoel o ufudd-dod i’r Tad, hyd yn oed lle golygai hynny aberth a phoen – esiampl y dylem ni fod yn barod i’w dilyn.
- Wrth genhadu, dylem fod yn barod i ‘fynd yn bob peth i bawb – er mwyn….achub rhai’; a gallwn gael ein hysbrydoli a’n sbarduno gan y ffaith i Iesu yn ei ymgnawdoliad wneud hynny mewn ffordd gymaint mwy nag y gall yr un ohonom ni!