Gobaith dreiddiodd trwy’r cysgodion,
Llaciwyd gafael drom y nos,
Uwch y griddfan a’r galaru
Sïa murmur alaw dlos,
Heno bloeddiwch, canwch, molwch,
Dathlwch eisoes fore Duw.
Gwelwch fawredd mewn bychander,
Gwelwch Dduwdod, gwelwch ddyn,
Gwelwch eich holl waredigaeth,
Yma ynddo Ef ei Hun,
Unig Brynwr, ein Buddugwr,
Plyga galar ger ei fron.
Golwg ddaw i fro dallineb,
Yn ei daith o’r groth i’r bedd,
Yn nisgleirdeb ei ddyrchafiad,
Lle bu dagrau, llifa hedd,
Glynwch wrtho, pwyswch arno,
Nes i’r caddug ffoi o’ch blaen.
Er na welir eto’n eglur,
Llewyrch sydd i lygaid ffydd,
Yn y Mab a wnaed yn isel,
Ddaeth yn haul hir, hafaidd ddydd,
Daear newydd, hardd, ysblennydd
Sy’n egino ‘nghwys ei draed.
Geraint Lloyd