Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Camau Cristnogaeth – Yr Oesoedd Canol Cynnar

22 Ebrill 2022 | gan Rhun Emlyn

Llanw a thrai yr Eglwys yn yr Oesoedd Canol Cynnar (O.C. 500-1000)

Rhun Emlyn

 

‘Yr Oesoedd Tywyll’ yw’r term a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio’r Oesoedd Canol Cynnar (rhwng tua 500-1000), a dyna sut mae nifer yn gweld hanes yr Eglwys yn y cyfnod hwnnw. Cyfnod, tybia rhai, pan blymiwyd yr Eglwys o oleuni’r apostolion i dywyllwch na ddaethpwyd allan ohono tan y Diwygiad Protestannaidd. Oes llygedyn o oleuni o gwbl yn y cyfnod hwn? Oes! Er gwaethaf rhai adegau tywyll, gall y Cristion ryfeddu at y modd roedd goleuni’r efengyl yn parhau i dywynnu a hyd yn oed taflu llewyrch cynyddol dros y byd. Dyma gyfnod o lanw a thrai yn hynt a helynt yr Eglwys.

Y llanw…

Roedd y ffydd Gristnogol, erbyn y flwyddyn 500, wedi lledaenu trwy’r Ymerodraeth Rufeinig o amgylch y Môr Canoldir gan gyrraedd mannau mor anghysbell â Chymru hyd yn oed. Roedd gan y Cristnogion Rhufeinig bellach frodyr a chwiorydd y tu hwnt i hen ffiniau’r ymerodraeth: yn Iwerddon, Ethiopia, Persia (Irac ac Iran heddiw) ac India. Erbyn 500 roedd yr ymerodraeth wedi dymchwel yn y Gorllewin er ei bod yn parhau yn y Dwyrain ar ffurf Ymerodraeth Bysantiwm.

Dyfnhau

Cristnogaeth oedd crefydd gyhoeddus yr hen ymerodraeth ond roedd ffydd yn aml yn arwynebol ac roedd llawer, yn enwedig yng nghefn gwlad, yn ffyddlon i’w hen gredoau. Cwynai Gildas, awdur Am Ddistryw Prydain, am bechodau a diffyg dyfnder ffydd ein cyndeidiau y Brythoniaid. Ond dros y pum can mlynedd nesaf daeth tro ar fyd. Dilynwyd cwynion Gildas gan Oes y Seintiau yng Nghymru. Yn y chweched a’r seithfed ganrif gwreiddiodd Cristnogaeth yn ddwfn wrth i genhadon fel Dewi, Teilo a Beuno deithio’r wlad yn pregethu. Gwelwyd patrwm tebyg ar draws y byd Cristnogol.

Lledaenu

Mewn mannau eraill teithiodd cenhadon i gyflwyno Crist i bobl nad oeddent wedi clywed amdano eto. Erbyn y seithfed ganrif roedd cenhadon Gwyddelig fel Columba yn pregethu yn yr Alban ac anfonwyd cenhadon at yr Eingl a’r Sacsoniaid, cyndeidiau’r Saeson, o Rufain o dan arweiniad Awstin o Gaergaint. Lledaenodd y ffydd i’r Dwyrain Pell wrth i genhadon bregethu a gweld nifer yn dod i gredu yng nghanol Asia, Mongolia ac mor bell â Tsieina. Yn eu tro, dygodd cenhadon yr efengyl o Iwerddon a Lloegr i’r Iseldiroedd a’r Almaen, fel y gwnaeth Willibrord a’i dîm cenhadol ymysg y Ffrisiaid wedi 690. Ar ôl degawdau o efengylu ffyddlon trodd pobl yr ardaloedd hyn at Grist.

Ond roedd nifer i’r gogledd a’r dwyrain o’r Almaen yn dal heb gael eu cyflwyno i Grist. Anfonwyd nifer o genhadon o’r Gorllewin ac o Bysantiwm i’r ardaloedd hyn yn y nawfed a’r ddegfed ganrif. Gweithiodd dau frawd, Cyril a Methodius, yn ddiflino ymysg y Morafiaid (yng Ngweriniaeth Tsiec heddiw) a theithiodd eu holynwyr i Fwlgaria a Serbia. Aeth cenhadon eraill i Hwngari, Gwlad Pwyl a Bohemia, gyda chefnogaeth Wenceslas (‘brenin da’ y garol enwog). Erbyn diwedd y mileniwm roedd Vladimir, tywysog y Rwsiaid, yn Gristion ac fe’i dilynwyd gan nifer o’i bobl. Lledaenodd Cristnogaeth yn raddol yng Ngwledydd Llychlyn. Yna, ym 1000, gwnaeth senedd Gwlad yr Iâ benderfyniad democrataidd y dylai’r wlad fod yn un Gristnogol.
Yn ystod y cyfnod hwn, gwelwn Gristnogaeth yn cyrraedd pellafion Asia a dod yn grefydd mwyafrif gorllewin a dwyrain Ewrop wrth i Gristnogion ymateb i alwad y Comisiwn Mawr: ‘Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd’ (Mathew 28:19). Rhoddodd llaweroedd eu bywydau i Grist pan oedd hynny yn aml yn gwbl groes i werthoedd a thraddodiadau eu cymdeithas. Wrth i ni heddiw edrych ar gymdeithas sy’n meithrin gwerthoedd cwbl groes i Gristnogaeth yn gynyddol, mae’n gysur mawr i ni gofio bod Duw wedi adeiladu ei Eglwys ar draws Ewrop mewn sefyllfa ddigon tebyg o’r blaen.

…a’r trai
Llifodd llanw y ffydd Gristnogol dros Ewrop a rhannau o Asia, ond profwyd trai hefyd. Gwelwyd hyn yng ngogledd Ewrop wrth i’r Llychlynwyr paganaidd goncro Cristnogion, er mai’r efengyl enillodd y dydd arnynt hwy yn y pen draw! Mwy difrifol oedd y bygythiad o du Islam. Yn y seithfed ganrif ysgubodd byddinoedd Islam ar draws y Dwyrain Canol a gogledd Affrica gan goncro’r mannau hynny oedd wedi derbyn yr efengyl gyntaf. Cipiwyd prif ganolfannau’r ffydd: Jerwsalem yn 637, Antiochia yn 638 ac Alecsandria yn 641. Concrwyd Persia lle’r oedd lleiafrif Cristnogol dylanwadol. Yn fuan iawn ymestynnai rheolaeth Fwslemaidd o Bortiwgal fodern yn y gorllewin hyd at India yn y dwyrain.

Cafwyd rhai cyfnodau o erlid llym, ond yn gyffredinol rhoddwyd rhyddid i’r Cristnogion a goncrwyd barhau i arddel eu ffydd yn gyfnewid am dreth drom, ac nid oedd hawl ganddynt efengylu. Mewn rhannau o’r Dwyrain Canol a gogledd Affrica parhaodd y mwyafrif yn Gristnogion am ganrifoedd, ond yn raddol lleihau a wnaeth yr eglwysi yn wyneb y cyfyngiadau ac atynfa’r ffydd newydd, lwyddiannus er bod lleiafrif ffyddlon yn parhau.

Mae’n drawiadol gweld ffyddlondeb y Cristnogion hyn i’w Gwaredwr, a ffyddlondeb Duw iddynt hwy. Cynhaliodd Duw y dystiolaeth iddo’i hyn yn y gwledydd hyn ar draws y canrifoedd. Mae nifer o’r Cristnogion yr ydym yn clywed amdanynt yn cael eu herlid heddiw yn rhan o’r cymunedau hyn a oroesodd mewn sefyllfa anodd am bron i fil a phedwar cant o flynyddoedd. Dim ond yn awr y mae’r cymunedau hyn yn cael eu difetha wrth orfod ffoi oherwydd heriau newydd ein dyddiau ni: eithafiaeth Islamaidd, ymyrraeth filwrol y byd gorllewinol a gweithredoedd llywodraeth Israel.

Pris llwyddiant

Daeth Eglwys lwyddiannus Ewrop yn fwyfwy rhan o’r sefydliad. Yn wir, mewn rhyw ffordd, yr Eglwys bellach oedd y sefydliad. Wrth i’r ymerodraeth wanhau yn y Dwyrain a dymchwel yn y Gorllewin llanwyd y gwagle gan yr Eglwys. Da o beth gallech chi ei ddychmygu, ond mewn gwirionedd achosodd hyn nifer o broblemau a bardduodd dystiolaeth y ffydd:
1. Arweinwyr gwleidyddol. Yn gynyddol daeth arweinwyr yr Eglwys yn wleidyddion yn ogystal â bugeiliaid ysbrydol, gan weithredu fel arweinwyr dinesig, gweision sifil a thirfeddianwyr cefnog. Daeth hyn yn arbennig o amlwg yn achos y pabau, a ddechreuodd ymarfer pŵer sylweddol wrth ddisodli brenhinoedd a phenodi ymerawdwyr.
2. Ymyrraeth frenhinol. Daeth brenhinoedd i weld yr Eglwys yn ffordd i ymestyn eu hawdurdod. Roeddent yn gwneud penderfyniadau diwinyddol (ar sail wleidyddol), yn penodi esgobion ac yn gorfodi Cristnogaeth ar gymdogion paganaidd er mwyn gallu eu rheoli.
3. Diffyg dyfnder mewn ffydd. Gan mai Cristnogaeth oedd y grefydd swyddogol derbyniodd nifer y ffydd yn arwynebol. Bedyddiwyd rhai i ddangos eu teyrngarwch i’r brenin, fel y gwnaeth holl fyddin Clovis brenin y Ffranciaid tua 500. Gorfodwyd eraill i dderbyn Cristnogaeth neu farw, fel Sacsoniaid yr Almaen yn wyneb byddin Siarlymaen. Gwrthwynebai’r Eglwys y ‘tröedigaethau’ hyn yn chwyrn, ond y canlyniad oedd bod nifer yn Gristnogion mewn enw yn unig.
4. Mynachaeth. Mewn ymateb i gymdeithas oedd yn aml yn arwynebol Gristnogol, sefydlwyd cymunedau o fynaich neu leianod ar draws y byd Cristnogol er mwyn i unigolion ymroi i fyw yn llwyr i Dduw.
5. Rhaniadau. Cafwyd tensiynau am awdurdod cymharol y pum patriarch (Rhufain, Caergystennin, Jerwsalem, Alecsandria, Antiochia) wrth i’r pab (patriarch Rhufain), fel olynydd Pedr, honni awdurdod dros y lleill. Dechreuodd rhannau gwahanol o’r Eglwys dynnu’n groes i’w gilydd ar sail arferion a diwinyddiaeth, gan arwain at rai Cristnogion yn erlid ei gilydd neu gystadlu am feysydd cenhadol.
6. Problemau diwinyddol. Datblygwyd syniadau anghywir a fuasai’n boblogaidd yn nes ymlaen, e.e. yn y Gorllewin ymddangosodd y syniad o burdan.

Dyma rybudd i ni heddiw. Nid rôl yr Eglwys yw ceisio bod yn rhan o’r sefydliad. Yn wir, mae’n gysur gweld mai sefyllfa iachaf yr Eglwys yw pan nad yw hi’n ceisio efelychu patrymau llwyddiant y byd. Law yn llaw â’r rhybudd, derbyniwn dystiolaeth y Cristnogion didwyll a fu’n ffyddlon ar hyd y canrifoedd; yr un Duw a welwn ar waith yma. Dyma Dduw yr Eglwys Fore, a’r Duw oedd am barhau i weithio wrth i’r Eglwys gamu i’w hail fileniwm.