Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Camau Cristnogaeth – Y Camau Cyntaf

21 Ebrill 2022 | gan Gwyn Davies

Camau Cristnogaeth

Gwyn Davies

Bwriad y gyfres hon yw bwrw golwg cyffredinol ar hanes yr Eglwys Gristnogol. Pwy oedd pwy? Beth ddigwyddodd? Beth yw’r gwersi i ni heddiw? Yng ngeiriau Eseia 51:1: ‘Edrychwch ar y graig y’ch naddwyd ohoni.’

Y CAMAU CYNTAF
(O.C. 100–500)

I lawer ohonom, mae’n siŵr fod hanes yr Eglwys Fore yn dipyn o ddirgelwch. Hawdd tybio na ddigwyddodd fawr o bwys mor bell yn ôl. Ond camgymeriad fyddai hynny. Mae Iesu Grist yn ein sicrhau ei fod wrthi’n adeiladu ei Eglwys, ac na chaiff pyrth uffern ei gorchfygu (Mathew 16:18). A rhaid dweud fod rhywbeth cyffrous am ddechreuadau’r Eglwys Gristnogol – ei thwf rhyfeddol, yr ymosodiadau creulon arni, ei hymateb i broblemau, ac ati.

Does dim lle yma i fanylu ar hanes yr Eglwys Fore; ceir crynodeb gan Peter Davies o’r elfennau allweddol yn y blwch arbennig ar y dudalen flaenorol. Ein nod yn syml yw rhoi ychydig o gig ar y braslun hwn.

Yr ehangu mawr
‘A byddwch yn dystion i mi yn Jerwsalem, ac yn holl Jwdea a Samaria, a hyd eithaf y ddaear,’ meddai Crist wrth ei apostolion cyn esgyn i’r nefoedd (Actau 1:8). Ac yng ngweddill Actau dechreuir cyflawni’r geiriau hyn, gyda’r efengyl yn cyrraedd Ewrop ymhell cyn diwedd y llyfr. Erbyn O.C. 100 roedd eglwysi ym Mhalestina. Syria, Asia Leiaf (Twrci heddiw), Groeg, yr Eidal, a Sbaen.

Yn y ganrif nesaf ymledodd yr efengyl i Gâl (yn fras, Ffrainc heddiw), gogledd Affrica, yr Aifft, Persia – a Phrydain. Yn 312 honnodd Cystennin, yr ymerawdwr Rhufeinig, iddo ddod yn Gristion. Ac er bod dadlau o hyd a oedd ei ‘dröedigaeth’ yn ddilys, roedd cael cefnogaeth yr ymerawdwr yn hwb aruthrol – yn allanol, o leiaf – i dwf yr Eglwys. Erbyn O.C. 500, er ei dechreuadau di-nod ac er pob erlid, roedd Cristnogaeth yn ymestyn o Iwerddon yn y gorllewin i’r India yn y dwyrain.
Sut digwyddodd yr ehangu syfrdanol hwn? Gallwn enwi rhai ffactorau o blaid yr Eglwys: y ‘Pax Romana’ oedd yn sicrhau heddwch o fewn yr ymerodraeth; yr heolydd Rhufeinig oedd yn hwyluso teithio i efengylu; yr iaith Roeg oedd yn cael ei deall gan bawb; a dirywiad rhai o’r hen grefyddau ac athroniaethau clasurol. Ond roedd ffactorau eraill yn bwysicach. Un oedd efengylu brwd a dyfal gan y Cristnogion. Un arall oedd eu parodrwydd i ddioddef dros Grist. Yng ngeiriau trawiadol Tertulianus, ‘gwaed y merthyron yw had yr Eglwys.’ Ond pwysicach na dim oedd realiti Actau 2:47: ‘A’r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr eglwys y rhai fyddent gadwedig.’

Y problemau mawr
Ond lle mae Duw ar waith, mae Satan hefyd wrthi’n ceisio rhwystro’r gwaith hwnnw. Nodwn rai o’r problemau a wynebai’r Eglwys Fore:

Problemau o’r tu allan
Bu’n rhaid wynebu her crefydd Manicheaeth, a fynnai fod bywyd yn frwydr ddiddiwedd rhwng goleuni a thywyllwch. (Ceir adlais o hyn yn ffilmiau Star Wars.) Roedd hefyd bwysau difrifol ar Gristnogion i addoli Cesar. A bu erledigaeth gan yr ymerodraeth o ddyddiau Nero ymlaen. Ni cheid erlid ym mhob man, na thrwy’r amser, ond roedd rhai cyfnodau o erlid creulon iawn. Da cofio tystiolaeth Polycarp cyn cael ei losgi yn O. C. 155: ‘Rwyf wedi gwasanaethu Iesu Grist ers 86 mlynedd . . . Pam y dylwn ei wadu nawr?’

Problemau o’r tu mewn
Ond roedd problem gau athrawiaethau o fewn yr Eglwys yn fwy peryglus o lawer. Dyma rai ohonynt:
1. Gnosticiaeth. Ceir enghreifftiau o’r heresi hon yn y Testament Newydd. Yn y bôn dysgai’r athrawon Gnosticaidd fod iachawdwriaeth i’w chael trwy gnosis – gwybodaeth gyfrin a oedd yn gymysgedd o deimladau, athroniaeth, astroleg, a Christnogaeth. (Mae syniadau diweddar yr ‘Oes Newydd’ yn ddigon tebyg.)
2. Marcionaeth. Yn ôl y gred hon, roedd Duw’r Hen Destament yn deyrn creulon, ond Duw’r Testament Newydd yn llawn cariad. (Mae’r syniad hwn yn dal i gerdded y tir.)
3. Montanaeth. Roedd y Montaniaid o ddifrif yn eu crefydd, ond honnent fod Duw yn rhoi datguddiadau a phroffwydoliaethau newydd iddynt yn ychwanegol at yr Ysgrythur. (Mae ganddynt ddilynwyr heddiw ymhlith y grwpiau Pentecostaidd a Charismataidd mwy eithafol.)
4. Heresïau am berson Iesu Grist. Roedd nifer o’r rhain, ond nodwn ddwy ohonynt:
(a) Sabeliaeth. Daliai’r Sabeliaid mai un Duw sydd, ond ei fod yn gweithio mewn tri modd gwahanol – weithiau fel Tad, weithiau fel Mab, ac weithiau fel Ysbryd Glân. H.y., ni dderbynient fod tri Pherson penodol yn y Duwdod. (Diarddelwyd Peter Williams gan y Methodistiaid am ddal syniadau tebyg.)
(b) Ariaeth. Roedd hon yn fwy cyffredin o lawer, ac yn fwy peryglus am iddi wadu fod Iesu Grist yn wir Dduw (fel y Tystion Jehofa heddiw).
5. Pelagiaeth. Gwadai Pelagius (brodor o Brydain) y syniad o bechod gwreiddiol, gan ddadlau fod modd i berson ddewis troi at Dduw ohono’i hun ac ennill iachawdwriaeth trwy ei ymdrechion ei hun. (Mae’r syniadau hyn yn boblogaidd o hyd; ac mae ceisio dwyn perswâd ar bobl trwy greu awyrgylch i ddylanwadu ar eu hemosiynau yn deillio o syniadau Pelagaidd.)
6. Ond roedd hefyd broblem o fath arall – y broblem fwyaf peryglus, efallai. Wedi ‘tröedigaeth’ Cystennin, daeth yr Eglwys yn fwyfwy rhan o’r sefydliad. Roedd pwyslais cynyddol ar bethau allanol – adeiladau, swyddi eglwysig (gan gynnwys twf awdurdod Esgob Rhufain, y Pab), strwythur gweinyddol, parchusrwydd – ar draul pethau ysbrydol, gan arwain at agweddau bydol a llacrwydd moesol. Un adwaith i’r dirywiad hwn oedd twf mynachaeth; ond er y cymhellion clodwiw, roedd troi cefn ar y byd yn anysgrythurol ac yn creu rhagor o broblemau.

Y camau mawr
Does dim dwywaith nad oedd yr Eglwys wedi profi cryn ddirywiad erbyn O.C. 500 (er bod arwyddion mwy calonogol yng Nghymru erbyn hynny). Ond ni ddylem gau ein llygaid i’r hyn a gyflawnwyd yn y canrifoedd blaenorol:
Bu’r cyfnodau o erlid yn gyfrwng i buro’r Eglwys.
Wrth ymateb i’r Gnosticiaid, aethpwyd ati i egluro ac amddiffyn y ffydd.
Bu agwedd y Marcioniaid a’r Montaniaid at yr Ysgrythur yn hwb i’r Eglwys gydnabod canon y Beibl.
Ymateb yr Eglwys i’r heresïau am berson Crist oedd cynnal cynghorau a llunio credoau pwysig – yn enwedig Nicea (325) a Chalcedon (451), y naill yn datgan fod Crist yn wir Dduw a’r llall yn cyhoeddi ei natur ddwyfol a’i natur ddynol mewn un person.
Nid ydym wedi rhoi sylw i arweinwyr amlwg yr Eglwys Fore, ond rhaid enwi Athanasius am ei frwydro dewr dros yr athrawiaeth feiblaidd fod Crist yn Dduw ac yn ddyn. Ac ni ellir peidio â sôn am Awstin, diwinydd mwyaf y canrifoedd cynnar. Roedd ei syniadau am natur yr Eglwys yn gryn rwystr i grefydd iach; ond roedd ei bwyslais cadarn ar lygredigaeth y galon ddynol a rheidrwydd gras Duw i fod yn gadwedig – yn groes i Pelagius – yn gwbl feiblaidd ac yn hwb pwysig ymhen amser i’r Diwygwyr Protestannaidd. Ac mae cenhadu arwrol Padrig (o Gymru, o bosibl) yn Iwerddon yn y bumed ganrif yn rhagflas o’r hyn fyddai’n digwydd yng Nghymru yn y ganrif ddilynol.
Er pob problem a rhwystr, yr hyn a welwn yn hanes yr Eglwys Fore yw Duw ar waith. Does dim esboniad arall am oroesiad a thwf yr efengyl mewn byd paganaidd a gwrthwynebus. A dyfynnu 1 Corinthiaid 3:6, ‘Duw a roddes y cynnydd.’ Ac yn ein byd paganaidd a gwrthwynebus ninnau, calondid aruthrol yw cofio fod yr un efengyl – a’r un Duw – gennym ni.