Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Camau Cristnogaeth: MARTIN LUTHER A’R DIWYGIAD PROTESTANNAIDD: CAMU O’R TYWYLLWCH (O.C. 1500)

26 Ebrill 2022 | gan Huw Roderick

Camau Cristnogaeth

Huw Roderick

MARTIN LUTHER A’R DIWYGIAD PROTESTANNAIDD: CAMU O’R TYWYLLWCH
(O.C. 1500)

 

Pe byddech chi’n gofyn i’r rhan fwyaf o bobl Cymru, ‘Pwy yw Luther?’, yr ateb mwyaf tebygol a gaech chi yw mai ef yw’r ditectif carismatig sy’n cael ei chwarae ar y BBC gan Idris Elba. Nid llawer fyddai’n gwybod mai’r Luther go iawn oedd y mynach Almaenig o Wittenberg a groesodd sgwâr y dref ar 31 Hydref 1517 er mwyn hoelio ’95 Pwnc’ ar ddrws Eglwys y Castell, gan roi cychwyn i’r Diwygiad Protestannaidd.

Luther a chyfiawnhad trwy ffydd

Pwy, felly, oedd Luther? Ganwyd ef i deulu cyffredin yn 1483, a’i dad yn fwynwr copr uchelgeisiol a anfonodd ei fab i’r brifysgol yn Erfurt. Ond newidiodd cwrs bywyd y mab pan benderfynodd fynd yn fynach (o ganlyniad i addewid a wnaeth ynghanol storm lle bu’n ofni am ei fywyd). Ymunodd ag Urdd Sant Awstin, ac enillodd ddoethuriaeth mewn Diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Wittenberg yn 1512.

Drwy ragluniaeth Duw, fe’i penodwyd yn Athro Diwinyddiaeth yno. Wrth fyfyrio a darlithio ar lythyrau Paul at y Galatiaid a’r Rhufeiniaid, yn enwedig yr adnod ‘Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd’, daeth i ddeall un o athrawiaethau mawr y ffydd Gristnogol, sef bod Duw yn cyfiawnhau’r pechadur, nid oherwydd unrhyw weithredoedd da y mae’n eu cyflawni, ond trwy ffydd yn Iesu Grist a’i aberth ar y groes. Sylweddoli’r gwirionedd hwn a newidiodd fywyd Luther. Cyn hynny gwelai Dduw yn ‘Farnwr Sanctaidd’ nad oedd modd ei blesio, er gwaethaf ei holl ymdrechion i fyw yn dda. Yn awr, ‘teimlais fel un wedi ei aileni, fel dyn newydd, euthum i mewn drwy’r drysau agored i baradwys Duw ei hun.’

Her y maddeudebau
Pan glywodd Luther yn 1517 fod Johann Tetzel, aelod o Urdd y Brodyr Duon, yn gwerthu maddeuebau yn ardal Wittenberg, penderfynodd brotestio. Beth oedd y maddeuebau hyn? Yn ôl yr Eglwys Babyddol, wedi marw roedd yn rhaid i’r enaid dreulio amser ym mhurdan, i’w gosbi a’i buro cyn medru mynd i’r nefoedd. Ond trwy brynu maddeueb gan y Pab, gellid sicrhau fod yr enaid yn cael dianc a mynd i’r nefoedd ynghynt. Gallai rhywun brynu maddeueb iddo’i hun, neu i aelodau ei deulu a oedd eisoes wedi marw. Roedd Tetzel mor eofn â chyhoeddi:
Cyn gynted ag y rhoddir arian, caiff enaid ei ryddhau o burdan.
Yn achos y maddeuebau a werthid gan Tetzel, y bwriad oedd codi arian ar gyfer cynllun Pab Leo X i ailadeiladu Eglwys Sant Pedr yn Rhufain.

Ac yntau wedi dod i ddeall a phrofi cyfiawnhad trwy ffydd, cythruddwyd Luther yn ddirfawr gan y syniad o ‘brynu’ mynediad i’r nefoedd. Iddo ef, nid oedd unrhyw sail feiblaidd i’r maddeuebau hyn. Wrth hoelio’r ’95 Pwnc‘ ar ddrws Eglwys y Castell yn Wittenberg, bwriad Luther oedd cychwyn dadl er mwyn ceisio diwygio’r Eglwys Babyddol. Ond canlyniad ei weithred heriol oedd cychwyn mudiad a dyfodd fel caseg eira ac a ysgwydodd yr Eglwys Babyddol i’w sylfeini.
Sail dadleuon Luther oedd athrawiaeth arall a ddaeth yn ganolog i’r Diwygiad Protestannaidd, sef mai’r Beibl yw unig awdurdod y ffydd Gristnogol. Yn wir, pan gyhuddwyd Luther o fod yn heretic, a’i orfodi i ymddangos o flaen ei well yn Diet Worms yn 1521, dywedodd wrth yr Ymerawdwr Charles V: ‘…mae fy nghydwybod yn gaeth i Air Duw…Ni allaf, ac ni ewyllysiaf wadu un peth…yma y safaf…Duw a’m helpo…’

Y Diwygiad Protestannaidd yn ymledu
Er ei ymdrechion i’w amddiffyn ei hun, doedd dim syndod i Luther gael ei esgymuno o’r Eglwys Babyddol yn 1521. Bu hyn yn hwb aruthrol i dwf y Diwygiad Protestannaidd yn fudiad ar wahân. Hwb arall oedd y ffaith fod syniadau Luther yn cael eu lledaenu trwy ddyfais newydd, sef y wasg argraffu.

Daeth nifer o dywysogaethau’r Almaen dan ddylanwad y Diwygiad, ac ymledai hefyd i rannau eraill o Ewrop. Yn y Swistir daeth Ulrich Zwingli i’r un profiad tua’r un pryd â Luther, ond yn gwbl annibynnol arno. Fel yn achos Luther, darllen y Beibl – yn enwedig cyfieithiad Erasmus o’rTestament Newydd – oedd yn gyfrifol am ei oleuo yntau’n ysbrydol. Daeth yn arweinydd y Diwygiad Protestannaidd yn Zurich a’r Swistir o 1519 ymlaen, ond bu farw ar faes y gad yn 1531 wrth geisio amddiffyn Zurich rhag ymosodiad gan y cantonau Pabyddol.

Ychydig yn ddiweddarach daeth John Calvin (1509–64) i arwain y Diwygiad yn y Swistir, er mai Ffrancwr oedd ef. Bu ei weinidogaeth yng Ngenefa yn hynod ddylanwadol, a thrwy ei lyfrau a’r rhai (fel John Knox) a fu’n gwrando arno yno, ymledai’r dylanwad hwn ymhell tu hwnt i ffiniau’r Swistir. Ei lyfr enwocaf oedd Bannau’r Grefydd Gristnogol, cyflwyniad gwych i ddiwinyddiaeth feiblaidd sydd wedi cael effaith bellgyrhaeddol ar Gristnogion dros y byd hyd heddiw.

Beth am Gymru a Lloegr?
Nid rhesymau crefyddol oedd yn bennaf gyfrifol am ledaeniad y Diwygiad Protestannaidd yng Nghymru a Lloegr, ond ffactorau personol a gwleidyddol. Roedd y Brenin Harri VIII (1491–1547) am ysgaru ei wraig, Catrin o Aragon, a phriodi Anne Boleyn er mwyn sicrhau etifedd gwrywaidd. Nid oedd y Pab yn fodlon caniatáu hyn, ac felly yn 1534 dyma Harri’n ymwrthod ag awdurdod y Pab ac yn creu Eglwys Loegr dan ei awdurdod ei hun.

Nid oedd Harri’n fawr o Brotestant mewn gwirionedd, ond roedd ei fab Edward VI yn Brotestant o argyhoeddiad. Dim ond o 1547 i 1553 y teyrnasodd Edward; yn ei le daeth ei hanner chwaer, Mari ‘Waedlyd’, a ymdrechodd i droi’r wlad yn ôl at Rufain. Fel rhan o’i hymgyrch, llosgwyd nifer fawr o Brotestaniaid wrth y stanc. Digon araf oedd twf Protestaniaeth yng Nghymru i ddechrau, ond llosgwyd Robert Ferrar, Esgob Tyddewi, yng Nghaerfyrddin, Rawlins White, pysgotwr cyffredin yng Nghaerdydd am ddarllen Beibl Saesneg, a William Nichol yn Hwlffordd.

Bu Mari farw yn 1558, a daeth ei hanner chwaer, Elisabeth I, yn frenhines. Roedd hi’n Brotestant ‘gwleidyddol’ a ddaeth â rhywfaint o heddwch crefyddol i’w theyrnas. Un canlyniad hynod werthfawr oedd cyhoeddi cyfieithiad William Morgan o’r Beibl i’r Gymraeg yn 1588. Ond gwrthwynebai Elisabeth y rhai mwy ‘Piwritanaidd’ a heriai drefn Eglwys Loegr, ac oherwydd hynny merthyrwyd John Penry yn 1593.

Crynhoi
Mae hanes y Diwygiad Protestannaidd yn llawn cyffro. Rhaid cydnabod pwysigrwydd ffactorau gwleidyddol, ond hefyd gwelwn Dduw ar waith mewn ffordd rymus wrth ddod â’r hen wirioneddau beiblaidd i’r golau eto. Ni allwn ond diolch i Dduw am ddewrder y Diwygwyr a’u dylanwad ar y cenedlaethau a ddaeth ar eu hôl. Plant y Diwygwyr Protestannaidd yw pobl efengylaidd heddiw, ac mae arnom ddyled enfawr i’r rhai a ailddarganfu Gristnogaeth feiblaidd yn yr unfed ganrif ar bymtheg.
Gallai’r Diwygwyr ddweud gyda Paul:
‘Nid oes arnaf gywilydd o’r Efengyl, oherwydd gallu Duw yw hi ar waith er iachawdwriaeth i bob un sy’n credu … Ynddi hi y datguddir cyfiawnder Duw, a hynny trwy ffydd o’r dechrau i’r diwedd, fel y mae’n ysgrifenedig: “y cyfiawn a gaiff fyw trwy ffydd.”
(Rhufeiniaid 1: 16-17)

Darllen Pellach
Roland Bainton, Here I Stand: A Life of Martin Luther (1950)
R. Tudur Jones, The Great Reformation (1985)
Michael Reeves, The Unquenchable Flame: Introducing the Reformation (2009)