Camau Cristnogaeth:
GOLEUNI A DRYSWCH YN EGLWYS YR OESOEDD CANOL (O.C. 1000-1500)
Rhun Emlyn
Mewn sawl ffordd yn y cyfnod rhwng 1000 a 1500 O.C., gwelwn yr Eglwys ar ei mwyaf dylanwadol a nerthol; dyma ‘oes o ffydd’ yn Ewrop o leiaf. Ac eto, mae yna dueddiad i feddwl am y canrifoedd hyn yng ngoleuni’r hyn a ddaeth nesaf, y Diwygiad Protestannaidd, a’u gweld yn gyfnod o ddryswch ysbrydol ac ofergoeliaeth yr oedd Martin Luther ac eraill yn ymateb yn ei erbyn. Sut ddylwn ni ddeall y cyfnod hwn mewn gwirionedd?
Cymdeithas orfodol
Erbyn dechrau ei hail fileniwm, roedd yr Eglwys yn hynod lwyddiannus; hi oedd sefydliad mwyaf pwerus Ewrop. Bellach, roedd yr Eglwys yn ‘gymdeithas orfodol’, a olygai fod unrhyw un a anwyd o fewn teyrnasoedd Cristnogol (oni bai am Iddewon) yn cael eu bedyddio a’u hystyried yn ‘Gristnogion’ Catholig (yn y Gorllewin) neu Uniongred (yn y Dwyrain). Er mwyn bod yn aelod llawn o gymdeithas Ewrop roedd rhaid bod yn aelod o’r Eglwys. Yn anorfod arweiniodd hyn at nifer o broblemau.
Roedd llawer o arweinwyr yr Eglwys yn ddynion didwyll oedd yn llawn cariad at Dduw a’u cyd-ddyn, ond roedd eraill yn ceisio swyddi uchel er mwyn cael awdurdod, dylanwad gwleidyddol a chyfoeth. Dyma gyfnod ‘y Frenhiniaeth Babol’ pan hawliai’r pabau awdurdod eang dros yr Eglwys a’r gallu i ymyrryd yng ngwaith brenhinoedd Ewrop. Gwleidyddion oedd esgobion yn aml hefyd; fe’u penodid gan frenhinoedd am eu rhinweddau llywodraethol yn hytrach nac ysbrydol. Beirniadwyd arweinwyr yr Eglwys yn aml am eu llygredd a gwaethygu a wnaeth y sefyllfa erbyn diwedd y cyfnod. Y Pab ym 1500 oedd Alecsander VI (neu Rodrigo Borgia) sy’n ddrwg-enwog am ddefnyddio ei awdurdod er mwyn adeiladu ei gyfoeth, gosod ei blant mewn safleoedd pwerus a chwarae gemau gwleidyddol gyda theyrnasoedd y cyfandir.
Arweiniodd y ‘gymdeithas orfodol’ hon hefyd at weithredoedd tywyllaf yr Eglwys ganoloesol wrth i rai nad oeddent yn rhan o’r Eglwys gael eu cam-drin yn enw Crist. O’r 1090au cafwyd sawl croesgad waedlyd yn erbyn rhai a welwyd yn elynion Cristnogaeth: Moslemiaid yn y Dwyrain Canol a Sbaen, paganiaid yn y Baltig a hereticiaid yn Ffrainc. Llai adnabyddus yw’r erledigaeth gyson a brofodd Iddewon. Ar ei waethaf, arweiniodd hyn at lofruddio cymunedau cyfan o Iddewon gan eu cymdogion ‘Cristnogol’, fel y digwyddodd yn Efrog ym 1190, a brenhinoedd yn eu halltudio o’u teyrnasoedd fel y gwnaeth Edward I ym 1290, er i nifer o arweinwyr yr Eglwys geisio eu hamddiffyn.
Bywiogrwydd
Dyma ddarlun digalon iawn o’r Eglwys cyn y Diwygiad Protestannaidd. A ddylem ymwrthod â’r Eglwys ganoloesol a throi yn syth at sefyllfa fwy cyfforddus Protestaniaeth? Ddim o gwbl! Er bod camddefnydd awdurdod a chrefydd arwynebol i’w gweld yn yr Oesoedd Canol, roedd yna hefyd fywyd ysbrydol gwirioneddol a brwdfrydedd am wirioneddau’r ffydd.
Mae’r cyfnod hwn yn llawn ymdrechion i geisio diwygio a gwella’r Eglwys. Gwelir hyn gliriaf yn yr urddau crefyddol newydd a sefydlwyd, fel y Sistersiaid a’r canoniaid Awstinaidd. Er na fuasem yn cytuno â’u tuedd i encilio o’r byd, ac er eu bod yn aml yn syrthio’n brin o ddelfryd eu sylfaenwyr, eu hawydd gwreiddiol oedd adfer bywyd ysbrydol yr apostolion. Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol daeth cydfrawdoliaethau yn boblogaidd; Cristnogion duwiol oedd yn ymrwymo i gynorthwyo ei gilydd i fyw yn y byd ond nid o’r byd.
Sefydlwyd rhai o’r urddau crefydd newydd hyn yn benodol er mwyn pregethu a dysgu hanfodion y ffydd. Dilynai’r Ffransisiaid ddysgeidiaeth Ffransis o Assisi (m. 1226) a’i bwyslais ar gariad Duw at y tlawd a’r gwrthodedig, tra’r oedd y Dominiciaid yn arddel pwyslais Dominic Guzmán (m. 1221) ar sicrhau bod pobl gyffredin yn deall dysgeidiaeth yr Eglwys. Dyma gyfnod pan oedd arweinwyr yr Eglwys yn poeni am ddiffyg deall Cristnogion cyffredin, ac yn hyrwyddo pregethu yn un ffordd o fagu ffydd wirioneddol.
Arweiniodd hyn at addoliad brwdfrydig a chreadigol. Ym maes cerddoriaeth, ymddangosodd cyfansoddwyr fel yr abades Hildegard o Bingen (m. 1179), a ffynnodd emynau a cherddi ysbrydol, yn enwedig yng Nghymru. Cafwyd toreth o lenyddiaeth ysbrydol, fel gwaith poblogaidd Thomas à Kempis (m. 1471) gyda’i bwyslais ar yr angen am berthynas bersonol a chymdeithas gyson â Duw.
Ni chyfyngwyd ymdrechion efengylu i’r ‘byd Cristnogol’. Cyfieithwyd y Corân i’r Lladin a sefydlwyd ysgolion Arabeg er mwyn hybu cenhadu yn y byd Mwslimaidd. Treuliodd nifer o genhadon, fel Ramon de Penyafort (m. 1275) a Ramon Llull (m. 1315/6), amser yng ngogledd Affrica a’r Dwyrain Canol yn tystiolaethu ymysg Mwslimiaid. Pregethodd Ffransis o Assisi gerbron Swltan yr Aifft. Agorwyd Asia eto’n faes cenhadol hefyd, a bedyddiwyd miloedd o ganlyniad i waith diflino cenhadon fel John o Monte Corvino (m.1328) yn Beijing ac Odoric o Pordenone (m.1331) yn yr India, Sumatra, Jafa, Borneo a Tsieina.
Y frwydr am yr Eglwys
Mae llawer am yr Eglwys yn yr Oesoedd Canol yn anghyfarwydd i ni, ac efallai hyd yn oed yn ein gwneud yn anghyfforddus. Nid yw hynny’n syndod – roedd nifer o Gristnogion ar y pryd yn teimlo’r un mor anghyfforddus am yr hyn yr oeddent yn dyst iddo! Roedd beirniadu cyson ar agweddau ar yr Eglwys: diwinyddiaeth anfeiblaidd, camddefnydd o awdurdod, chwant am arian, pŵer y pab, anfoesoldeb rhai clerigwyr, erledigaeth lleiafrifoedd. Cododd nifer o fudiadau oedd am herio’r drefn; fe’u condemniwyd yn hereticiaid. Yn eu plith roedd y Waldensiaid (yn Ffrainc, gogledd yr Eidal a’r Almaen) a John Wyclif (m. 1384) a’i ddilynwyr yn Lloegr, a wrthododd yr agweddau mwyaf amheus ar ddiwinyddiaeth eu hoes ac a bwysleisiai awdurdod y Beibl a phwysigrwydd ei gyfieithu i iaith y bobl. Ond deuai mwyafrif y feirniadaeth o blith aelodau ffyddlon yr Eglwys, rhai oedd yn gweld y gwendidau ac yn ceisio eu cywiro o’r tu mewn, fel Marsilius o Padua (m. 1343) a ysgrifennodd yn erbyn pŵer a llygredd y babaeth.
Buasem ni’n sicr yn ymwrthod ag agweddau ar ddiwinyddiaeth ganoloesol, fel y ddysgeidiaeth am y purdan a’r pwyslais ar sagrafennau’r Eglwys er mwyn iachawdwriaeth. Gyda datblygiad y prifysgolion, roedd diwinyddion academaidd, fel Tomos Acwin (m. 1274), yn ceisio cyfuno dysgeidiaeth y Beibl ag athroniaeth baganaidd Aristotles. Erbyn diwedd y cyfnod, roedd rhai fel William o Ockham (m.1349) yn pwysleisio gallu dynoliaeth i ymdrechu i haeddu gras Duw. Roedd y syniadau hyn yn boblogaidd yn y prifysgolion, ond (fel sy’n wir am unrhyw gyfnod) mae gwahaniaeth mawr rhwng beth sy’n ffasiynol o fewn diwinyddiaeth ddeallusol a’r hyn a gredir gan Gristnogion cyffredin. Nid oedd Cristnogion canoloesol yn gytûn ar eu diwinyddiaeth, a gwelwyd dadlau chwyrn ynglŷn â’r pynciau hyn ymysg diwinyddion. Rhaid cofio hefyd nad oedd y syniadau gwaethaf yn dderbyniol o gwbl yn Eglwys Uniongred y Dwyrain.
Roedd yr Eglwys yn yr Oesoedd Canol, felly, yn gymysgedd o lygredd a bywyd. Mae’n ein rhybuddio am beth all ddigwydd pan ddaw’r Eglwys yn rhy ddylanwadol a rhy gyfforddus â phŵer. Yn sicr, dylem ochel hefyd rhag efelychu agwedd a thriniaeth ein cyndeidiau o’r rhai nad ydynt yn arddel y ffydd, neu ein dehongliad ni ohoni. Ond y gwir yw bod gan bob oes yn hanes yr Eglwys – gan gynnwys ein hoes ni – ei goleuni a’i dryswch, ei llawenydd a’i thristwch, ei chyfraniad a’i rhybuddion. Mae yma arwyr a all ein hysbrydoli ymhlith ein brodyr a chwiorydd canoloesol. Efallai na fuasem yn cytuno â phopeth yr oeddent yn ei gredu, ond roedd eu cariad at Grist yn real a’u hawydd i’w ddilyn yn ddidwyll; gallwn edmygu eu haddoliad a’u hymroddiad i waith Duw. Yng nghanol dryswch a phroblemau, roedd gan Dduw ei dystion ffyddlon.