Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bywyd Newydd ar Ben Clogwyn: Dod i Adnabod Tony Eastwood

25 Ebrill 2022 | gan Tony Eastwood

Bywyd Newydd ar Ben Clogwyn: Dod i Adnabod Tony Eastwood

Ganwyd fi i deulu dosbarth canol cyffredin yng nghanol y 1950au. Roedd fy rhieni yn bobl garedig a gweithgar, ond doedd dim amser gyda nhw i grefydd. Roedd ganddyn nhw agwedd ofergoelus o barchus tuag at grefydd. Doedden ni byth yn trafod marwolaeth, ac nid oedd y plant yn mynychu angladdau – cefais wybod am farwolaeth fy nhad-cu ddeufis ar ôl iddo farw. Magwyd fy rhieni mewn tlodi, felly does dim syndod mai gwaith caled, cwrteisi cyffredin a llwyddiant materol oedd yn bwysig iddyn nhw.

Yn fy arddegau ystyriais fy mod yn gwrthryfela yn erbyn delfrydau materol fy rhieni; ond mewn gwirionedd roeddwn i’n cydymffurfio â fersiwn modern, rhyddfrydol o’u safonau nhw. Roedd fy chwaer iau weithiau’n mynychu eglwys Ddiwygiedig Unedig. Fe es i gyda hi un tro. Roedd yn wleidyddol iawn: roedden nhw’n pregethu bod y Viet Cong yn bobl dda, a’r Americanwyr yn ddrwg. Doedd dim sôn am Dduw.

Yn anffodus, pan oeddwn i’n 18 oed cefais fy ngyrru i Rydychen. Canu yng nghôr y capel oedd fy mhrofiad cyntaf o unrhyw beth Cristnogol. Wrth droi i’r dde yn ddefodol, roedden ni’n canu neu’n llafarganu’r Magnificat; ‘gwasgarodd y rhai balch eu calon.’ Roeddwn i’n ystyried bod y dosbarth llywodraethol yn falch, ond doeddwn i ddim wedi ystyried fy mod i hefyd ymhlith y rhai balch. Roedd digwyddiadau Cristnogol o bob math yn Rhydychen. Fe ddes i ar draws fersiwn Oxfam o Gristnogaeth – oedd yn credu bod Cristnogaeth yn gyfystyr yn unig â chyfiawnder rhyngwladol a rhoi cymorth i wledydd tlawd. Fe ddes i ar draws gwir Gristnogion hefyd – rwy’n cofio myfyriwr hŷn a fu mewn damwain taro a ffoi, a chafodd e mo’i ddarganfod am ddeuddydd. Fe wnaeth wella’n llwyr, ac roedd e’n adnabod Crist ac yn gwybod bod Crist yn gallu gwneud pethau rhyfeddol. Yn annisgwyl iawn, roedd fy nhiwtor personol hefyd yn Gristion, ond am fy mod yn rhy brysur yn methu yn ei gyrsiau, ac yn dod â gwarth ar y coleg, roeddwn i’n amharod i roi’r argraff fy mod yn ceisio integreiddio fy hun drwy siarad â fe am Grist.

Felly, fe wnes i adael Rhydychen – heb fy newid, gwaetha’r modd. Roeddwn i wedi bod yn agos at Dduw, ond doeddwn i ddim wedi cwrdd â fe. Daeth fy ieuenctid a’m gyrfa brifysgol i ben. Efallai mai dyma’r cyfnod pryd y byddech chi’n disgwyl i berson gael tröedigaeth, ond nid felly y bu hi yn fy hanes i.

Ond doedd Duw ddim wedi gorffen â mi eto. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, roeddwn i yn ôl mewn Prifysgol well, ar gyfer ail radd sylfaenol – nid mewn mathemateg [pwnc yr oeddwn i’n ei gasáu] y tro hwn, ond mewn pwnc yr oeddwn i wrth fy modd ag ef, sef cerddoriaeth. Roedd llawer o’m cyd-fyfyrwyr yn chwilio am ystyr bywyd, ac roedd rhai ohonyn nhw’n Gristnogion go iawn. Yn baradocsaidd, roedd y rhai oedd yn chwilio yn fwy o help i mi, am eu bod nhw’n deall fy nghwestiynau; doedd y credinwyr ddim yn gallu gweld fy mhroblemau. Gwnaeth difrifoldeb y rhai oedd yn chwilio effaith fawr arna i; rwy’n cofio un ferch addfwyn yn cael ei thrwbli am ddyddiau oherwydd ei bod yn sylwi ar groes-ddweud ymddangosiadol yn y cyfieithiad modern oedd ganddi o’r Beibl. Roedd hi’n annodweddiadol o gynddeiriog pan wnaeth hi ddarganfod mai’r cyfieithiad oedd ar fai. ‘Ddyle hyn ddim cael ei ganiatáu,’ oedd ei chri. Roedd Duw yn delio â hi, ac roedd e’n bendant yn delio â minnau hefyd. Ar fy mhen blwydd yn 26, cefais ddau gopi o’r Testament Newydd. Roedd y copi bach gwyrdd yn mynd i fod yn arwyddocaol i mi.
Am nad oedd llawer o arian gen i, roeddw i’n arfer mynd ar wyliau ar fy meic gyda phabell. Pan rydych chi’n teithio ar feic, mae’n bwysig iawn eich bod chi’n cario cyn lleied o bwysau â phosibl. Fe wnes i ganiatáu un llyfr i mi fy hun. Roedd dau bosibilrwydd: copi o unawdau ffidil Bach, neu’r llyfr bach gwyrdd. Roedd y Testament Newydd yn pwyso llai na’r unawdau, felly cafodd ddod gyda mi ar y daith. Fe wnaeth Duw fy nghorneli i; ar nosweithiau gwlyb, wrth eistedd yn fy sach gysgu gyda thortsh, yr unig beth oedd gen i i’w ddarllen oedd y llyfr bach gwyrdd. Erbyn diwedd yr wythnos roeddwn i wedi darllen y rhan fwyaf o efengyl Mathew.

Yna, un dydd Sul, ym Maentwrog, aeth Duw gam ymhellach. Roeddwn i, a bachgen o Ffrainc, wedi penderfynu cerdded i Lan Ffestiniog i gael diod. Ond roedd Cymru yn sych ar y pryd, felly roedd y tafarndai ynghau. Fe es i fy ngwely i ddarllen y Testament Newydd. Disgynnodd storm o fellt a tharanau, ac fe wnaeth un fellten daro’n agos iawn ata i – credais fy mod wedi teimlo gwres y fellten ar fy moch. Yn sydyn sylweddolais fod fy holl syniadau a’m daliadau yn anghywir. Petawn i’n cael fy nharo gan fellten, yr unig beth fyddai’n cyfri’ fyddai’r hyn oedd yn y llyfr bach gwyrdd.

Fe fues i’n meddwl am y pethau hyn am ddyddiau wrth i fi wneud fy ffordd i Bortin-llaen . Yno, fe wnes i’r penderfyniad annoeth o osod fy mhabell yn agos i’r clogwyn. Mae gwersyllwyr profiadol yn gwybod nad yw hynny’n ddoeth, achos gall y gwynt gymryd eich pabell i ffwrdd yn llwyr. Ond trefnodd Duw awel gynnes o’i fynwes ei hun, yn llawn maddeuant a chariad, i gyffwrdd â mi. Cefais fy llethu, ac mae’n rhaid fy mod wedi torri allan i grio. Yn ddiweddarach y noson honno roeddwn i’n cael diod gyda dau fachgen oedd wedi teithio o Lerpwl ar eu mopeds. Roedd y profiad roeddwn i newydd ei gael o faddeuant Duw yn dal i lenwi fy meddwl, ac fe ddywedais i wrthyn nhw, ‘Rydw i newydd ddod yn Gristion’. Wnaethon nhw ddim chwerthin, na gwneud hwyl am fy mhen, ac fe ofynnon nhw i fi beth oedd wedi digwydd a sut brofiad oedd e. Doeddwn i ddim yn gwybod digon i’w herio nhw, nac i’w cynghori nhw, y cyfan allwn i ei ddweud wrthyn nhw oedd ei fod yn brofiad da iawn.

A gadewch i fi ddweud wrthoch chi nawr – mae yn dda iawn. Mae Duw wedi fy mendithio i gymaint. Mae Duw hyd yn oed wedi bendithio fy ngobeithion ffôl a’m huchelgais. Mae Duw wedi bendithio’r profiadau amhleserus hefyd.Un tro roeddwn i ar awyren ac fe wnaeth un o’r ddwy injan yn chwydu llafnau’r twrbein (fe welais i’r ffrwydriad, a theimlo’r ergyd). Wrth weld yr awyren yn cael gwared o 65 tunnell o danwydd, ac yna’n sgrialu ar hyd y llwybr glanio, roeddwn i’n ofni’r gwaethaf. Ond doedd dim tân, na chrash. Wrth i fi syllu i wyneb dynion tân mewn siwtiau asbestos yn pwyntio peipen ddwr ata i, fe ges i dawelwch meddwl o wybod fy mod yn ddiogel yn nwylo Duw. Yna, fe ges i ddwy ddamwain boenus ar fy meic. Fe ddylai’r ddamwain gyntaf fod wedi’m lladd i, ond fe wnes i oroesi. Doedd yr ail ddamwain ddim mor ddifrifol ond fe ges i doriad cas i bont yr ysgwydd a haint difrifol yn fy mraich. Fel cerddor, mae’r posibilrwydd o golli defnydd un fraich yn ddychryn mawr. Ond, unwaith eto roeddwn i’n ddiogel ym mreichiau fy Ngwaredwr. Wrth i fi orwedd yn yr Uned Ddamweiniau roeddwn i’n gwybod bod fy enaid yn hollol ddiogel. Mae ein Gwaredwr ni yn wych. Mae’r bywyd hwn, gyda’i broblemau a’i bleserau, yn dod i ben yn gyflym iawn – ond mae cariad Duw, trwy Iesu Grist ein Gwaredwr, yn para am byth.

(Erbyn hyn, mae Tony Eastwood yn ddiacon ac yn aelod gwerthfawr yn Eglwys Efengylaidd Ardudwy).