Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bugeilio’r ‘Liquorice Allsorts’

26 Ebrill 2022 | gan Trystan Hallam

Bugeilio’r ‘Liquorice Allsorts’

Trystan Hallam

‘Nid dant melys sy ‘da fi – ond set ohonyn nhw!’ Dyna oedd llinell anfarwol mam-gu gynt, wrth straffaglio gyda’r Chocolate Eclairs â’i dannedd gosod. Rhaid cyfaddef mai straffaglio’n aml iawn rydyn ni fel Cristnogion wrth geisio helpu a bugeilio’n gilydd yn yr eglwys. Rhaid wynebu ein bod i gyd yn wahanol iawn i’n gilydd – yn ‘Liquorice Allsorts’ go iawn. Rydyn ni’n wynebu sefyllfaoedd a gofidiau gwahanol. Yn ogystal, mae Cymru 2021 yn bur wahanol i Gymru canol y ganrif ddiwethaf. Mae’r mwyafrif wedi troi cefn ar ein treftadaeth Gristnogol, ac yn yr ysgol, yn y gwaith, ar ein strydoedd a thrwy’r cyfryngau modern rydym fel Cristnogion yn dod ar draws materion na fyddai Cristnogion Cymreig yng nghanol y ganrif ddiwethaf yn ymwybodol ohonynt. Does dim rhyfedd bod y ‘Liquorice Allsorts’ yn yr eglwys braidd yn sticky ac mewn penbleth ar brydiau! Ond allwn ni ddim cau ein llygaid – a llowcio rhyw eclair arall – gan obeithio y bydd y problemau’n diflannu. Os ydym yn un yng Nghrist mae rhaid i ni straffaglio a chynnal breichiau’n gilydd yn ein hamrywiol bersonoliaethau a phroblemau.

Egwyddorion
Cyn edrych ar sefyllfaoedd penodol, mae rhaid ceisio edrych ar rai egwyddorion bugeiliol.
Efallai mai’r egwyddor gyntaf a phwysicaf yw cofio pwy yr ydym yn ceisio eu cynorthwyo yn yr eglwys. Pwy yw’r ‘Liquorice Allsorts’ rhyfedd yma sy’n baglu fan hyn a fan draw dros broblemau amrywiol? Ond, sut mae Duw’n edrych ar ei bobl? Yn Actau 20, wrth i Paul deithio i Jerwsalem, mae’n galw henuriaid Eglwys Effesus ato. Meddai wrthyn nhw am bobl yr eglwys: ‘Gofalwch amdanoch eich hunain ac am yr holl braidd, y gosododd yr Ysbryd Glân chwi yn arolygwyr drosto, i fugeilio eglwys Dduw yr hon enillodd ef â gwaed ei briod un’ (Actau 20:28). Mae’r ‘Liquorice Allsorts’ yn werthfawr i Dduw. Gwae ni os ydym yn anwybyddu neu’n dilorni ein brodyr a chwiorydd yn y ffydd. Dyma i chi bobl Dduw y rhai a dalodd amdanynt gyda’i Fab ei hun.
Mae angen i ni gofio egwyddor arall – dwy glust ac un geg! Ces y profiad o fynd ati i geisio ‘helpu’ rhywun â phroblem, ac wedi ei g/adael yn sylweddoli na wnes i wrando o gwbl. O, do fe wnes i ganiatáu brawddeg i adrodd ei b/phroblem, ac yna bant â fi a’m tafod fel milgi yn doethinebu ac yn datrys y broblem! Ond wnes i ddatrys dim byd – wnes i ddim gwarando! Gan fod gennym ddwy glust ac un geg, dylsai’r gwrando fod yn ddwywaith cymaint â’r siarad. Gwnaeth ffrindiau Job ddechrau‘n dda! ‘Eisteddasant ar y llawr gydag ef [Job] am saith diwrnod a saith nos. Ni ddywedodd yr un ohonynt air wrtho, am eu bod yn gweld fod ei boen yn fawr’ (Job 2:13). O na fyddai ffrindiau Job wedi parhau yn y ffordd wnaethon nhw ddechrau! Dwy glust ac un geg – egwyddor hanfodol wrth geisio helpu ein brodyr a’n chwiorydd.

Eto, rhaid dweud rhywbeth. O oes, mae gyda ni Air Duw, y gwirionedd i ddelio â’n problemau. Nid fy nghrebwyll i sy’n mynd i helpu pobl. Diolch am ddoethineb gwirionedd Gair Duw. Ond eto, rhaid cofio ffrindiau Job. Mae yna elfen o wirionedd yn yr hyn a ddywedant. Cymerwch chi eiriau Eliffas ar y dechrau wrth Job – ‘Fel hyn y gwelais i: y rhai sy’n aredig helbul ac yn hau gorthrymder, hwy sy’n ei fedi’ (Job 4:8). Digon gwir: o chwarae gyda drygioni, yn y diwedd bydd drygioni a’i ganlyniadau yn ein cnoi. Eto, er bod Eliffas yn adrodd gwirionedd – yr hwn sy’n hau drygioni fydd yn ei fedi – nid dyna sy’n wir am Job. Mae Job yn ‘ŵr cywir ac uniawn’ (Job 1:1). Dydy Job ddim wedi bod yn hau drygioni – felly nid yw’n gyfrifol am y trychinebau sy’n dod i’w ran. Holl fyrdwn llyfr Job yw dioddefaint dyn cyfiawn Duw. Mae Elffas yn adrodd gwirionedd, ond gwirionedd amhriodol yn y sefyllfa, oherwydd nid un felly yw Job. Wrth fugeilio rhaid peidio â chwarae gydag elfen o wirionedd Gair Duw a cheisio ei wasgu i sefyllfa nad yw’n ei adlewyrchu.

Rhywioldeb
‘Onid yw Duw am i’m ffrindiau sydd ag atyniad at yr un rhyw fod yn hapus?’ Sut mae helpu Cristion ifanc yn ei (h)arddegau sy’n wynebu’r fath gwestiwn byth a beunydd yn yr ysgol, mewn coleg neu weithle? Dyma bwnc lle mae angen y sensitifrwydd mwyaf. Dwy glust ac un geg yw’r egwyddor elfennol fan hyn. Efallai mai dyma’r tro cyntaf i’r person ifanc fentro i siarad am y pwnc gyda Christion yn yr Eglwys. Cwestiynau am rywioldeb yw realiti dyddiol llawer o blant a phobl ifanc. Mae’n hollbwysig fod yna wrando, cariad a sensitifrwydd wrth gynorthwyo. Os taw ateb llym, stoc a roddwn, efallai mai dyna’r tro olaf i’r person ifanc rannu dim â ni. Ond wedi gwrando, mae angen ceisio rhannu gwirionedd Gair Duw. Efallai, wrth edrych ar y Gair, dylem nodi dau brif wirionedd. Yn gyntaf cymeriad Duw – fod Duw yn ei hanfod yn dda, ac am y gorau i ni. Pan fydd Duw’n gwahardd rhywbeth, beth bynnag y bo, nid yw’n gwneud mewn sbeit neu â malais, ond o achos ei fod yn ein caru. Mae ‘Na’ Duw yn gadarnhaol – gan ei fod yn gwybod yn well na ni beth sy’n dda ar ein cyfer.

Yr ail wirionedd i’w rannu yw’r ffaith nad rhywioldeb sy’n diffinio person – sy’n ‘gwneud’ person, beth bynnag a ddywed ein cymdeithas seciwlar. Y mater mawr yw ein perthynas â Duw – a’r ffaith yw ein bod ni, beth bynnag ein rhywioldeb, yn bechaduriaid dan farn Duw. Dyna pam, er bod Paul yn sôn llawer am foeseg rywiol, mae’r Apostol yn canolbwyntio ar y berthynas doredig rhyngom ni â Duw. ‘Oherwydd dewisais beidio â gwybod dim yn eich plith ond Iesu Grist ac yntau wedi ei groeshoelio’(1 Corinthiaid 2:2). Nid y cwestiwn sylfaenol yw: beth yw fy rhywioldeb? Na, y cwestiwn sylfaenol yw: beth yw fy mherthynas â Duw? Dyna pam angen Crist a’i groes. Crist, ac nid fy rhywioldeb, sy’n fy ‘ngwneud i’n gyfan’ – yn dod â mi i berthynas â Duw. Crist a’i groes sy’n fy ‘ngwneud’ i ac nid fy rhywioldeb. Felly, fel mae pobl fel Sam Alberry, Ed Shaw neu Vaughan Roberts wedi dangos – drwy adnabod Duw yn yr Arglwydd Iesu – drwy dderbyn gwir fywyd, mae modd i rai sydd ag atyniad at yr un rhyw fyw a mwynhau bywyd cyflawn fel Cristion – ac eto heb fyw bywyd gwrywgydiol. Crist a’r groes yw’r allwedd i fywyd cyflawn, ac nid rhyw, beth bynnag ein rhywioldeb.

Dwi ishe bod mewn band roc a rôl…
Falle nad ydych eisiau bod fel Edward H gynt mewn band roc a rôl, ond yn sicr mae ’na demtasiwn, efallai wrth adael coleg a dechrau gyrfa, i geisio bywyd sy’n llawn o’r ‘pethau da’. Hynny yw, dwi am y swydd orau bosib, er mwyn cael cyflog mawr, fel y galla’ i gael y tŷ gorau, yn yr ardal orau – gyda’r car gorau o flaen y tŷ. Os oes plant gyda ni, o gael y tŷ gorau yn yr ardal orau, fe fydd hynny’n golygu y gall ein plant fynd i’r ysgolion gorau – a chymysgu â phobl sy’n debyg i ni. Nawr does dim byd o’i le bod yr Arglwydd yn darparu tŷ braf, car braf ac yn y blaen. Ac eto – onid yw e’n demtasiwn wrth i ni deithio trwy’n hugeiniau, tridegau hyd nes cyrraedd canol oed – fod y ‘pethau da’ yn dod yn bwysicach na Duw. Gallwn garu’r rhoddion, gan anghofio’r Rhoddwr. Sut mae delio â rhai sy’n poeni am ‘stwff’ yn hytrach na sylwedd Duw? Yn gyntaf, drwy beidio â syrthio i’r fagl o ‘ni a nhw’. ‘O drychwch arnyn nhw – dim ond y gore o bob dim yw popeth iddyn nhw…’ Gadwch i ni fod yn onest, mae poeni am bethau da, cael y stwff a’r statws gorau yn broblem i bob un ohonom ni. Mae angen gostyngeiddrwydd wrth ddelio â’n gilydd. Byddwch yn onest – sawl awr ydyn ni’n treulio ar Amazon yn dyheu am gant a mil o bethau? Ta beth, dyw jyst pwyntio’r bys ddim yn mynd i newid ein ffocws hunanol. Mae angen gweld y Crist croeshoeliedig. Ni fu neb yn fwy ei statws a’i sylwedd fel y dywed Philipiaid 2, ac eto fe adawodd ogoniant y nefoedd, yr hawl oedd ganddo i ysblander a mawl y nefoedd, ac ‘fe’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau ar groes’ (Philipiaid 2:8). Wrth edrych ar Grist a’i groes, oes ots os nad ydw i’n byw yn yr ardal fwyaf ffasiynol, os nad yw ‘mhlant yn mynd i’r ysgol orau ac os nad ydw i ar ben rhestr poblogrwydd a llwyddiant? Wrth i ni fugeilio’n gilydd anogwn ein gilydd i fod fel Isaac Watts: “Myfi aberthaf er dy glod/bob eilun sydd o dan y rhod; /ac wrth fyfyrio ar dy waed/fe gwymp pob delw dan fy nhraed.’

Ond beth am y diwedd?
Gwnaeth gweinidog rannu â mi un tro am wraig oedd yn Gristion hŷn. Roedd hi wedi bod yn Gristion gloyw am flynyddoedd. Dywedodd wrth y gweinidog: ‘Dwi’n ofni marw’, a chan gyfeirio at arweinyddion yr eglwys dywedodd; ‘ond fydde ni ddim yn dweud wrthyn nhw.’ Hynny yw, roedd hi’n ofni marw, ond o achos cywilydd, yn ofni rhannu â’r arweinyddion rhag iddynt ei beirniadu fel rhyw Grisiton pathetig. Sut mae helpu rhai yn hydref eu bywyd wrth wynebu marwolaeth? Yn gyntaf, drwy feithrin diwylliant yn ein heglwsi lle mae’n iawn rhannu ein hofnau, ie ein hofnau ynglŷn â marw. Os yw Pantycelyn ac Ann Griffiths yn eu hemynau yn cyfaddef ofni marw, siawns na allwn ni gyfaddef heb gywilydd fod marwolaeth yn elyn mawr. Efallai mai dyna un agwedd y mae angen ein hatgoffa ohoni – sef mawredd marwolaeth. Does dim byd mwy erchyll a all ddigwydd. Dyw marwolaeth ddim yn naturiol. Hynny yw nid ‘angau gawr’ oedd yn teyrnasu i ddechrau yn Eden berffaith Duw. Canlyniad pechod yw marw, nid rhan o gynllun creu Duw. Does ryfedd bod yna ofn wrth wynebu marwolaeth. Pan fydd Cristion yn cyfaddef, ei f/bod yn ofni marw, dylem ddeall hynny. Ond, wrth gwrs mae na un sy’n fwy – yr Arglwydd Iesu Grist. Mae angau yn fawr, ond mae’r Arglwydd Iesu’n fwy. Yr Arglwydd Iesu yw cysur y Cristion ym mhob gofid, yn enwedig wrth wynebu marwolaeth. Mae hanes Lasarus yn profi hyn i ni. Dyma’n Gwaredwr sy’n cydymdeimlo, yn wylo ac ie, yn grac wrth fedd Lasarus am y difrod mae pechod wedi’i achosi. Dyma un sy’n deall hagrwch ac ofn marwolaeth. Ond diolch Iddo, mae’n Waredwr. ‘Lasarus tyrd allan!’ Wrth i’r Arglwydd Iesu godi Lasarus, roedd yn arwyddo y bydde Fe ei hun, wedi iddo farw ar y groes a delio â phechod, yn atgyfodi’n fuddugoliaethus o’r bedd. Dyma un all gydymdeimlo wrth i ni wynebu marwolaeth, a dyma’r Un sy’n goncwerwr ar angau gawr.
Mewn gwirionedd, dyma yw ein gwaith wrth fugeilio ein brodyr a’n chwiorydd, sef eu tywys at yr Arglwydd Iesu Grist. Mae gofidiau’r ‘Liquorice Allsorts’ yn ormod i fi ddelio â nhw. Alla’ i ddim eu datrys. Ond mae na un, Bugail Mawr y defaid, sy’n gwybod yn gwmws sut i ddelio â’i braidd. Beth bynnag y dryswch, gadewch i ni fugeilio’n gilydd gan bwyntio tuag at yr Arglwydd Iesu Grist.