Brwydro mewn Gweddi
Gwyon Jenkins
Yn olaf, ymgryfhewch yn yr Arglwydd ac yn nerth ei allu ef. Gwisgwch amdanoch holl arfogaeth Duw, er mwyn ichwi fedru sefyll yn gadarn yn erbyn cynllwynion y diafol. Nid â meidrolion yr ydym yn yr afael, ond â thywysogaethau ac awdurdodau, â llywodraethwyr tywyllwch y byd hwn, â phwerau ysbrydol drygionus yn y nefolion leoedd. Gan hynny, ymarfogwch â holl arfogaeth Duw, er mwyn ichwi fedru gwrthsefyll yn y dydd drwg, ac wedi cyflawni pob peth, sefyll yn gadarn. Safwch, ynteu, â gwirionedd yn wregys am eich canol, a chyfiawnder yn arfwisg ar eich dwyfron, a pharodrwydd i gyhoeddi Efengyl tangnefedd yn esgidiau am eich traed. Heblaw hyn oll, ymarfogwch â tharian ffydd; â hon byddwch yn gallu diffodd holl saethau tanllyd yr Un drwg. Derbyniwch helm iachawdwriaeth a chleddyf yr Ysbryd, sef gair Duw. Ymrowch i weddi ac ymbil, gan weddïo bob amser yn yr Ysbryd. I’r diben hwn, byddwch yn effro, gyda dyfalbarhad ym mhob math o ymbil dros y saint i gyd, a gweddïwch drosof finnau y bydd i Dduw roi i mi ymadrodd, ac agor fy ngenau, i hysbysu’n eofn ddirgelwch yr Efengyl.
Effesiaid 6: 10-19
Rydyn ni a phob Cristion arall mewn rhyfel ysbrydol. Felly rhaid bod yn gryf yn yr Arglwydd ac ymladd yn y ffordd mae Duw ei hun wedi ei dangos i ni. Mae Paul yn disgrifio’r arfogaether er mwyn i ni lwyddo yn y frwydr. Ar ddiwedd y disgrifiad (ad.18) y mae Paul yn sôn am weddi. Mae gweddïo yn rhan pwysig dros ben o’r frwydr ysbrydol. Dyma sawl peth i’w cadw mewn cof wrth fynd ati i weddïo.
Ymroi i weddi ac ymbil yn yr Ysbryd
Ymrowch i weddi ac ymbil, gan weddïo bob amser yn yr Ysbryd. Rydyn ni’n ymladd yn erbyn cynllwynion y diafol, tywysogaethau, awdurdodau, llywodraethwyr tywyllwch a phwerau ysbrydol drygionus. Gelynion ysbrydol cryf yn temtio pob Gristion i bechu, bod yn anffyddlon i’r Iesu ac i gyfaddawdu yr efengyl. Gelynion ysbrydol sy’n ceisio atal pob eglwys rhag pregethu’r efengyl, dod â’r cwrdd gweddi i ben a dim gwaith efengylu. Rhan bwysig o wrthwynebu temtasiynau yw bod yn ffyddlon yn ein gweddïau a parhau i weddïo. Peidiwch byth ag anghofio pwysigrwydd gweddi yn y rhyfel ysbrydol. Rhaid i bob un ohonom ni ymroi i weddi ac ymbil yn yr Ysbryd. Gweddïo fel mae Duw wedi datguddio yn ei air a gweddïo gyda gwaith yr efengyl a teyrnas Duw yn flaenllaw yn ein gweddïau.
Gweddïo dros yr holl saint
Ym mhob math o ymbil dros y saint i gyd. Dros y saint i gyd? Ie, oherwydd bod angen gweddïau’r saint ar bob un ohonom ni. Gweddïwch am y saint yn eich eglwys leol (gwnewch restr a gweddïo trwy’r rhestr), yn eich tre, y saint sy’n cael eu herlid, y saint yng ngwledydd eraill. Gweddïwch y bydd y saint i gyd yn tyfu mewn gras, yn gwrthsefyll temtasiynau, yn ffyddlon i’r Arglwydd Iesu ac yn achub ar bob cyfle i siarad ag eraiil am Iesu wrth eraill. Pan na fyddwch chi na fi’n teimlo fel gweddïo, cofiwn bod angen ein gweddïau ni ar y saint.
Dyfalbarhau, ymroi, bod yn effro
I’r diben hwn, byddwch yn effro, gyda dyfalbarhad. Pwrpasu, bod yn benderfynol ein bod ni yn mynd i weddïo’n ffyddlon. Gwybod beth dylen ni ei wneud, gwybod beth mae’n rhaid ei wneud ac wedyn penderfynu ein bod ni’n myd i weddïo’n ffyddlon. Bydd temtasiynau’n dod, weithiau byddwn ni ddim yn teimlo fel gweddïo, bydd llywodraethwyr y tywyllwch yn gwneud popeth i’n hatal ni rhag gweddïo. Rhaid bod yn effro i hyn a phenderfynu gweddïo. Gweddïo yn effro: bod yn ymwybodol o anghenion y saint, anghenion ein heglwysi, cyflwr ein gwlad a chyflwr ein byd.
I gloi
Felly gan fod gweddïo mor bwysig yn y frwydr ysbrydol rhaid bod yn barod i ddyfalbarhau mewn gweddi. Rydyn ni mewn rhyfel ysbrydol enfawr yn wynebu gelynion ysbrydol nerthol, felly mae’nrhaid i ni i ddyfalbarhau mewn gweddi