Beth yw Pwynt Hanes yr Eglwys?
Gwyn Davies
‘History,’ meddai Henry Ford, ‘is more or less bunk!’ A byddai llawer un yn cytuno:
- Peth diwerth yw byw yn y gorffennol. Rhaid byw yn y presennol a wynebu’r dyfodol.
- Mae hanes yn ‘boring’. Cawsom ddigon arno yn yr ysgol – dyddiadau di-ben-draw, digwyddiadau hollol amherthnasol i ni heddiw.
Beth am hanes yr Eglwys, felly?
- Mae hanes yr Eglwys yn amherthnasol i ni heddiw. Onid yw Duw yn ein galw i’w addoli a’i wasanaethu yn awr?
- Mae perygl bod yn gaeth i’r gorffennol. Yn wir, gall traddodiad ein llethu.
- Mae rhywfaint o wir yn y gosodiadau hyn i gyd. Ond nid dyna’r gwir i gyd. I’m tyb i, dylai hanes – a hanes yr Eglwys yn enwedig fod o ddiddordeb i bob Cristion. Pam hynny? Edrychwn yn gyntaf ar hanes yn gyffredinol.
Y Cristion a hanes
- Duw sy’n rheoli hanes y byd. Datganiad hanesyddol yw adnod gyntaf y Beibl: ‘Yn y dechreuad creodd Duw y nefoedd a’r ddaear.’ Ac wrth i’r Beibl fynd yn ei flaen darllenwn am Dduw ar waith mewn hanes – yn creu’r ddynoliaeth, yn anfon y dilyw, yn galw Abram, yn gwaredu’r Israeliaid o’r Aifft a’u harwain i wlad yr addewid, ac ati. Gwelwn Dduw yn defnyddio paganiaid – e.e. Nebuchadnesar, Cyrus, a Pilat – i gyflawni ei fwriadau dwyfol ar y ddaear.
- Crefydd hanesyddol yw Cristnogaeth. Mae’n golygu ffydd bersonol yn Iesu Grist a pherthynas fywiol ag ef, siŵr iawn, ond mae’r rhain yn seiliedig ar berson a ffeithiau hanesyddol. Ganwyd Iesu Grist i’r byd. Bu farw ar Galfaria. Atgyfododd y trydydd dydd. Dyma seiliau hanesyddol cadarn y ffydd Gristnogol. Heb yr hanes, yr hyn a gewch yw rhyw fath o gyfriniaeth ddisylwedd (a pheryglus).
- Mae gwybod rhywfaint am ddigwyddiadau’r gorffennol yn gymorth i ddeall pethau yn y byd modern. Ac mae sylwi ar ymddygiad pobl gynt yn sicr o’n helpu i ddeall ymddygiad pobl heddiw.
- Mae llawer o’r Beibl ei hun – e.e. rhan helaeth o’r Hen Destament, yr Efengylau, a’r Actau – yn gofnod hanesyddol. Ac mae’r Beibl yn aml yn apelio at hanes. Dyna faich y proffwydi: atgoffa’r genedl am yr hyn a wnaeth Duw drosti yn y gorffennol. Dyna hefyd ergyd neges Steffan yn Actau 7.
Dylai hanes fod yn rhyfeddod i’r Cristion. Dyma’r Duw sofran ar waith. Yng ngeiriau’r emyn ‘Rhagluniaeth fawr y nef’,
Mae’n tynnu yma i lawr,
Yn codi draw.
Ie,
Dyrchafu’n gyson mae
Deyrnas ein Duw.
Rhyfedd o beth, felly, yw gweld Cristion heb ddiddordeb mewn hanes.Yn wir, mae rhywbeth haerllug braidd am y syniad nad oes gennym ni heddiw fawr ddim i’w ddysgu gan y rhai sydd wedi byw o’n blaen. Ofer – a pheryglus – yw ceisio byw yn y gorffennol, mae’n wir; ond mwy ofer fyth – a mwy peryglus – yw anwybyddu hanes. Y gwir amdani yw mai Duw piau hanes: mewn ystyr real iawn, ‘His story’ yw ‘History’.
Y Cristion a hanes yr Eglwys
Os yw’r Cristion i ymddiddori mewn hanes yn gyffredinol, mae’n sicr y dylai hanes yr Eglwys fod yn werthfawr ganddo.
- Os yw Duw ar waith yn hanes y byd, mae ar waith mewn modd arbennig yn hanes ei bobl. Mae hanes yr Eglwys yn rhoi cyfle inni ryfeddu at yr hyn y mae Duw wedi ei wneud drostynt. Ar ryw olwg, beth yw hanes yr Eglwys ond Iesu Grist wrthi’n cyflawni ei addewid: ‘adeiladaf fy eglwys, ac ni chaiff holl bwerau Hades y trechaf arni’(Mathew 16:18)?
- Mae gan lawer ohonom ddiddordeb yn hanes ein teulu. Hanes ein teulu ysbrydol, ein brodyr a’n chwiorydd yng Nghrist,yw hanes yr Eglwys. Rhyfedd iawn, felly, yw anwybyddu neu ddifrïo’r rhain.
- Rhaid gwylio rhag gorddyrchafu neu anwybyddu gwendidau Cristnogion y gorffennol, ond gallwn ddysgu llawer ganddynt serch hynny:
– Maen nhw’n esiampl o sut i fyw i Iesu Grist.
– Maen nhw’n rhybudd rhag syrthio i gyfeiliornad diwinyddol neu ymddygiad annuwiol.
– Maen nhw’n her inni: er eu hanfanteision neu eu trafferthion, mae ymroddiad a duwioldeb llawer ohonynt yn hela cywilydd arnom ni yn y dyddiau didaro ac arwynebol hyn. (Am un enghraifft yn unig, meddyliwch am hanes y cenhadon a aeth o Neuadd-lwyd yng Ngheredigion i Fadagasgar yn 1818.)
– Maen nhw’n anogaeth inni ddal ati, doed a ddelo. - Mae’n dda inni sylwi ar y modd yr arweiniwyd Cristnogion y gorffennol gan yr Ysbryd Glân:
– Yn gadarnhaol, gallwn fanteisio ar gymorth yr Ysbryd iddynt yn eu dealltwriaeth o anffaeledigrwydd y Gair, y Drindod, Person Crist, yr Iawn, ac ati.
– Yn negyddol, cawn ein rhybuddio rhag gau athrawiaeth. Wrth sylwi ar hanes eglwysi Cymru dros y 150 mlynedd diwethaf, er enghraifft, gwelwn effeithiau truenus ymwrthod ag anffaeledigrwydd Gair Duw. Ar ben hynny, mae llawer o gyfeiliornadau heddiw wedi eu hwynebu o’r blaen. Enghraifft amlwg yw tyb y Tystion Jehofa mai dim ond dyn yw Iesu Grist; gwrthodwyd syniadau tebyg gan Gyngor Nicaea yn ôl yn 325 OC. Enghraifft arall yw mai dim ond ailwampio’r Gnosticiaeth a wrthwynebwyd gan yr Eglwys Fore a wna dilynwyr yr ‘Oes Newydd’.
‘Nid oes dim newydd dan yr haul’(Pregethwr 1:9). Nid nyni yw’r genhedlaeth gyntaf o gredinwyr. Yn lle ceisio ailddyfeisio’r olwyn, felly, gallwn elwa ar yr hyn y mae’r Ysbryd wedi ei ddysgu i’r rhai sydd wedi mynd o’n blaen. - Yr hyn a gawn wrth ddarllen hanes yr Eglwys yw persbectif gwerthfawr ar ein sefyllfa heddiw:
– Hawdd cael ein cynhyrfu a’n hysgwyd gan broblemau a gofidiau’r byd hwn. Ond mae gwybod ychydig am hanes yr Eglwys yn ein hatgoffa fod anawsterau tebyg wedi bod o’r blaen – ac yn ein gyrru at y Duw sydd wedi gwaredu ei bobl o’u cyfyngder dro ar ôl tro.
– Hawdd hefyd inni gael ein dylanwadu gan yr oes rydym yn byw ynddi. Da [run on]cofio i rai fel Daniel Rowland a John Elias brofi eneiniad Duw ar eu gweinidogaeth heb ddilyn y technegau dynol sy’n ffasiynol heddiw.
Yn wyneb y chwiw gyfoes am bethau allanol – gweledol a cherddorol – mewn addoli, mae’n llesol darllen am Calfin a’r Piwritaniaid yn ymwrthod â’r rhain am resymau beiblaidd cadarn.
‘Gwefreiddiol’
‘Boring?’ Dim o gwbl! Mae hanes yr Eglwys yn addysg ac yn anogaeth, yn gymorth ac yn gysur, yn her ac yn rhybudd. Mewn gair, mae’n ‘wefreiddiol’! A dyfynnu Martyn Lloyd-Jones (ac yn gwbl groes i Henry Ford!), ‘Yn nesaf at y Beibl, nid oes dim mwy calonogol na dod yn gyfarwydd â hanes mawr yr Eglwys.’
Yng ngoleuni hyn i gyd, bwriedir dechrau cyfres fach ar hanes yr Eglwys yn y rhifyn nesaf o’r Cylchgrawn Efengylaidd. Bydd gwahanol rai’n cyflwyno golwg bras ar yr hanes hwn, er mwyn inni gael y ‘darlun mawr’ yn glir yn ein meddyliau. Mae anogaeth Eseia 51:1 mor berthnasol ag erioed: ‘Edrychwch ar y graig y’ch naddwyd ohoni.’