Anobaith a Gobaith
Adolygiad gan Rhodri Brady o Paul Blackham, The Great Unknown?: what the Bible says about Heaven and Hell (Fearn: Christian Focus, 2016).
Dyma lyfr sy’n gyflwyniad da i ddiwinyddiaeth Crist Ganolog yr awdur. Yn wahanol i nifer o lyfrau eraill ar y Nefoedd ac Uffern, nid yw’n neidio’n syth i’r Testament Newydd, yn hytrach mae’n ein harwain drwy’r holl Feibl gan ddilyn esiampl Iesu ei hunan o esbonio’r dyfodol drwy ddefnyddio’r Hen Destament. Gwna’r awdur hyn yn glir yn ei esboniad ar Matthew 22, wrth ddangos fod Iesu wedi defnyddio’r Hen Destament wrth ddadlau gyda’r Sadwceaid am yr atgyfodiad. Ateb Iesu i’w cwestiynau yw dweud, ‘Yr ydych yn cyfeiliorni am nad ydych yn deall na’r Ysgrythurau na gallu Duw […] Myfi, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob ydwyf’? Nid Duw’r meirw yw ef, ond y rhai byw.’
Ces i a Sibyl, fy ngwraig, fendith arbennig wrth ddarllen y llyfr gyda’n gilydd – yn arbennig felly pennod dau, Outer Darkness. Yn y bennod hon, mae’r awdur yn ein harwain drwy hanes y creu, gan ddangos y tywyllwch oedd yn y byd cyn i’r Arglwydd Iesu ddisgleirio a dod â’r byd i fod. Mae’r bennod yn dangos fod pob dim o’i le ac yn dywyll heb Iesu, ac adeilada ar y thema gan ddangos mai Iesu yw’r goleuni sy’n gorchfygu’r tywyllwch trwy’r Beibl i gyd. Erbyn i ni gyrraedd diwedd y bennod, roeddem mewn tawelwch ac yn gwybod pa mor bwysig yw rhannu Iesu efo’r byd. Credaf ei fod yn llyfr pwysig iawn, a bydd yn fendith i bwy bynnag sy’n ei ddarllen, gan ei fod yn gwneud yn fawr o Iesu – y ffordd a’r gwirionedd a’r bywyd.