Edrych ar bethau o’r newydd
Manon Steffan Ros, Llyfr Glas Nebo (Talybont: Y Lolfa, 2018)
Adolygiad gan Lowri Emlyn
Llyfr Glas Nebo enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2018. Bellach mae’r nofel wedi ei haddasu ar gyfer y llwyfan, ac wedi bod ar daith trwy Gymru.
Trychineb ofnadwy yw’r cefndir i’r nofel hon, ond nid nofel drist mohoni: yn hytrach mae’n ddathliad o harddwch. Harddwch perthynas teulu bach: mam, mab, a merch. Harddwch byd natur. Harddwch a gwerth y pethau rydym yn eu cymryd yn ganiataol.Yn erbyn cefndir du trychineb mae bywyd yn blodeuo ac yn ffynnu.
Caiff y stori ei chyflwyno trwy leisiau mam a’i mab sy’n ysgrifennu dyddiadur yn dilyn trychineb niwclear: ‘Y Terfyn’. Mae’r ddamwain wedi effeithio ar bopeth ac yn parhau i gael effaith bellgyrhaeddol wirioneddol ofnadwy, ond nid pregeth yn erbyn ynni niwclear sydd yma. O ganlyniad i’r drychineb, mae’r hen ffordd o fyw wedi dod i ben yn llwyr ac mae’n rhaid dysgu goroesi mewn byd newydd. Wedi i allanolion cymdeithas fodern cael eu sgubo o’r neilltu, mae modd i’r cymeriadau ailadeiladu gan ddechrau gyda’r pethau gwerthfawr oedd yn arfer cael eu gwthio i’r ymylon a’u mygu gan ‘ddatblygiadau’ cymdeithas orllewinol. Ar adegau mae cwestiynau a sylwadau diniwed y bachgen ynglŷn â sut oedd pethau yn y gorffennol (fel y ffaith fod gwasanaeth danfon pizza i’r cartref yn bodoli!) yn arddangos y fateroliaeth ddifeddwl sy’n perthyn i fywyd modern. Trwy’r cwestiynau hynny, mae’r awdur yn rhoi ei bys ar ein tueddiad naturiol i fynd gyda’r llif heb godi pen i feddwl am bethau sydd o bwys parhaol.
Gellid dadlau mai darlun yw’r drychineb, symbol o’r bygythiad cudd sy’n llygru’n araf bach ac sy’n arwain at gymdeithas sy’n hunanddinistrio: y difaterwch; y tueddiad i edrych ar ein hunain o hyd; yr agwedd ddinistriol a hunanol tuag at y byd naturiol; ein prysurdeb; y ffaith ein bod yn anghofio gwerth bywyd. O ailddarganfod beth sy’n werthfawr go iawn, ac er gwaethaf y drychineb, mae’r fam a’i mab yn profi rhywfaint o heddwch a bodlonrwydd o’r cydbwysedd sydd wedi ei ailddarganfod rhyngddynt a’r byd o’u cwmpas. Meddai’r fam: ‘Mae ‘na fwy o harddwch rŵan […] Ac eto, nag oes. Mae pob dim yr un fath, dim ond ein bod ni’n ei weld o.’ Yn lle difaterwch tuag at fywyd, y byd a phrosesau naturiol, mae’r cymeriadau yn ennyn parch a gwerthfawrogiad ohonynt, er bod tensiwn parhaol rhwng llwyddiant a siom wrth iddyn nhw weithio’r tir a phrofi methiant. Ceir golygfeydd trist a sefyllfaoedd dirdynnol trwy gydol y nofel, yn enwedig trwy un digwyddiad tua’r diwedd, ac mae gan yr awdur sensitifrwydd a thynerwch wrth ymdrin â’r pethau anodd sy’n creu prydferthwch bregus yng nghanol trasiedi.
O ganlyniad i’r Terfyn, mae technoleg drydanol yn ddiwerth a chyda hynny mae’r ffordd gyffredin o drosglwyddo a derbyn gwybodaeth wedi darfod. Darganfyddir arwyddocâd newydd i hanes, cofnodi, a chofio. Daw’r bachgen i werthfawrogi llyfrau pwysig hanes a diwylliant Cymru ac mae’n ddiddorol gweld, ynghanol y rhain, y sensitifrwydd sydd i ymdriniaeth y nofelydd â’r Beibl a’r ffydd Gristnogol. Yn hytrach na chyfri’r Beibl yn gyfwerth â llyfrau eraill, caiff y Beibl dipyn mwy o sylw, a gwelwn fod rhywbeth arbennig ynglŷn â’r Beibl yng ngolwg y mab. Cyferbynnir ei ddealltwriaeth syml ond didwyll ag agwedd ei fam sydd wedi ei dadrithio ac yn chwerwi tuag at Dduw; mae ei grefydd ar adegau fel tân ar ei chroen. Er gwaethaf ei brofiadau mae’r bachgen yn darganfod fod gan y Beibl rywbeth i’w ddweud sy’n gwneud synnwyr o’i amgylchiadau presennol: ‘er bod y pethau yn y Beibl wedi digwydd amser maith, maith yn ôl, mae’n nhw’n gwneud synnwyr yn ein byd ni,’ meddai.
Ymgorffora agwedd y fam tuag at fywyd syniadau mwy new-age am ryddid a chariad, ac Iesu yn ddim ond symbol trosiadol o’r waredigaeth gorfforol ac emosiynol fyrdymor mae hi’n hiraethu amdani. Er gwaethaf (neu oherwydd) ei ieuenctid, mae ei mab yn gweld Iesu’n berson y gall uniaethu ag e, un sydd â rhyw obaith i’w gynnig, er nad yw’n amlwg o gwbl iddo beth yn union yw’r gobaith hwnnw. Gwneir cyfatebiaeth amlwg rhwng hanes y Dilyw a’r Terfyn sy’n codi cwestiynau diddorol am ddehongliad y stori gyfan.
I mi, yr hyn sydd i’w ganmol fwyaf am y nofel yw’r anogaeth gynnil i werthfawrogi’r hyn sydd gennym, i gamu nôl o brysurdeb y gymdeithas bresennol ac ailddarganfod gwerth y pethau rydyn ni, fel cymdeithas faterol, wedi eu anghofio. Fel Cristion, mae’n braf darllen nofel sy’n dangos cymaint o barch a sensitifrwydd wrth drafod y Beibl, yn ogystal â dangos rhywbeth o’r angen greddfol sydd o fewn unigolyn i ddod o hyd i rywbeth y tu hwnt i’r ‘hunan’, rhywbeth sy’n gallu rhoi cysur, gobaith ac ystyr i fywyd.