Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Adolygiad o Confronting Christianity (Wheaton: Crossway, 2019) gan Rebecca McLaughlin

25 Ebrill 2022 | gan Gwilym Tudur

Ymateb i gwestiynau’r byd: Adolygiad gan Gwilym Tudur

Adolygiad o Confronting Christianity (Wheaton: Crossway, 2019) gan Rebecca McLaughlin

 

Cyfrol sy’n ymdrin â deuddeg gwrthwynebiad cyffredin i’r ffydd Gristnogol yw Confronting Christianity (2019) gan Rebecca McLaughlin. Bwriad yr awdur yw cynnig atebion i gyfres o gwestiynau mae’r byd ôl-fodernaidd yn eu gofyn i Gristnogion. Yn ogystal ag ateb cwestiynau sy’n ymdrin â gwyddoniaeth a moesoldeb, gan gynnwys ‘Onid yw gwyddoniaeth wedi gwrthbrofi Cristnogaeth?’ ac ‘Onid yw crefydd yn achosi trais?’, mae McLaughlin hefyd yn ymateb i gwestiynau ynglŷn â chymeriad Duw a dysgeidiaeth y Beibl, gan gynnwys ‘Onid yw’r Beibl yn esgusodi caethwasiaeth?’ a ‘Sut all Duw mor gariadus ganiatáu’r fath ddioddefaint?’. Prif nod y llyfr yw dangos mai’r ffydd Gristnogol a’r Beibl sy’n cynnig y bydolwg mwyaf cyflawn a boddhaus – ynghyd â’r atebion gorau i’n cwestiynau – o’i gymharu ag unrhyw ffordd arall o weld y byd.

Yn ddi-os, llwydda Confronting Christianity i gyflawni’r nod mentrus hwn mewn ffordd ragorol. Wrth ymateb i’r deuddeg cwestiwn, ysgrifenna McLaughlin mewn modd sy’n cyfuno’r deallusol â’r personol. Yn wir, nid apologeteg sych mo’r gyfrol hon, ond campwaith sy’n cynnig atebion sylweddol a deallus heb esgeuluso’r angen i fod yn dyner wrth ymateb i’r rhai hynny sydd eisiau gwybod mwy am Gristnogaeth. Un o gryfderau mwyaf McLaughlin ydy ei bod hi’n cymryd y cwestiwn dan sylw – a’r bobl sy’n gofyn y cwestiwn – o ddifrif, gan gynnig ymatebion manwl ac ysgrythurol sydd hefyd yn llawn empathi. Fel ysgolhaig sydd â doethuriaeth o Brifysgol Caergrawnt a gradd mewn diwinyddiaeth o Goleg Oak Hill, mae McLaughlin yn gwbl atebol i gynnig atebion trwyadl i gwestiynau’r llyfr hwn.

Yn fy nhyb i – er bod y gyfrol yn wych drwyddi draw – mae tair pennod yn sefyll allan yn rhai arbennig. Y gyntaf o’r rhain yw’r bennod sy’n ymateb i’r gwrthwynebiad, ‘Onid yw Cristnogaeth yn tanseilio menywod?’. Gan mai dynion sydd wedi ysgrifennu’r rhan fwyaf o gyfrolau apologeteg, peth hynod o bwerus yw darllen pennod gan fenyw sy’n ymdrin â’r cwestiwn hwn fel Cristion o argyhoeddiad efengylaidd. Mewn ffordd feistrolgar a theimladwy, dengys McLaughlin nad yw dysgeidiaeth y Beibl yn pardduo menywod ond yn rhoi urddas digyffelyb iddyn nhw. Pennod ardderchog arall yw ymateb y gyfrol i’r cwestiwn, ‘Onid yw’r Beibl yn esgusodi caethwasiaeth?’. Yn dilyn ymgyrchoedd diweddar Black Lives Matter i gael gwared ar gerfluniau o gaethfasnachwyr, dyma gwestiwn arbennig o berthnasol. Mae McLaughlin yn ateb trwy bwysleisio mai Cristnogion oedd nifer o’r bobl gyntaf i ymgyrchu yn erbyn caethwasiaeth gan gynnwys Josiah Henson (1789-1883) a David Walker (1796-1830). Er bod rhai Cristnogion wedi camddefnyddio’r Beibl i gyfiawnhau caethwasiaeth, dengys McLaughlin mai’r egwyddor Feiblaidd fod Duw wedi creu pawb yn gydradd ar ei lun a’i ddelw ei hun (Gen. 1:26) a wnaeth sbarduno’r ymdrech i ddod â chaethwasiaeth i ben.
Yn fy marn i, fodd bynnag, uchafbwynt y gyfrol yw’r bennod sy’n ateb y cwestiwn: ‘Sut all Duw cariadus anfon pobl i uffern?’. Mae’r awdur yn ateb trwy ddangos ein bod ni, fel cymdeithas, yn dal i gredu’n gryf mewn cyfiawnder. Dyma beth mae’r symudiad ‘MeToo’ wedi ei ddatgelu yn ddiweddar. Mae’r ymgyrch hon wedi dangos yn glir i’r byd fod dynion sydd wedi manteisio ar fenywod yn atebol am eu trosedd ac yn haeddu wynebu’r canlyniadau am eu drygioni. Wedi’r cyfan, dyma beth yw cyfiawnder. Esbonia McLaughlin fod Duw yn cymryd cyfiawnder hyd yn oed yn fwy difrifol na hyn. Mae e’n gweld popeth: nid yw e’n anwybyddu pechod nac yn diystyru drygioni. Mae’r Beibl yn glir y bydd yn rhaid i bawb roi cyfrif o’u bywydau o flaen Duw ar y dydd olaf. Newyddion da – nid newyddion drwg – ydy’r ffaith fod Duw yn gyfiawn a’i fod yn gweld pechod ac yn cosbi drygioni. Gorffenna McLaughlin trwy ddangos fod croes Iesu yn fynegiant perffaith o gyfiawnder a chariad Duw. Wrth i Fab Duw wynebu’r gosb am ein pechodau ar y groes, dangosodd Duw pa mor ddifrifol yw pechod. Ond, ar yr un pryd, wrth i Iesu farw yn ein lle, dangosodd Duw ei gariad rhyfeddol. Mae Duw nawr yn galw ar bobl i edifarhau ac i droi at Iesu: ‘And that is the good news for us, because we are more sinful than we realise. But in Christ we can be more known, more loved, and more truly alive than we ever dreamed’ (t. 221).

Felly, pwy ddylai ddarllen Confronting Christianity? Ar y naill law, mae’r gyfrol hon yn llyfr sy’n helpu Cristnogion. Bydd atebion McLaughlin yn cryfhau eich ffydd yng ngwirionedd yr efengyl a’r Beibl ac yn eich cynorthwyo i ateb cwestiynau eich ffrindiau. Yn wir, dyma lyfr a ddylai gael lle ar silff lyfrau’r Cristion drws nesaf i Mere Christianity (1952) gan C. S. Lewis a The Resaon for God (2008) gan Timothy Keller. Ond, ar y llaw arall, dyma gyfrol i’w rhoi i unrhyw un sydd eisiau darganfod mwy am y ffydd Gristnogol a’r Arglwydd Iesu.