Adolygiad
Mere Calvinism gan Jim Scott Orrick, (Phillipsburg, N.J., U.D.A.: P&R Publishing, 2019)
adolygwyd gan Meirion Thomas
Mae trafod Calfin a Chalfiniaeth yng Nghymru yn gallu arwain at ddadlau ac ymrannu. Bydd rhai yn cofio’r gwrthdaro fu rhwng Bobi Jones a Hywel Teifi Edwards yng Nghylchgrawn Barn (1989-90) dros safbwynt ‘byd cul’ Dr Bobi wrth ymdrin â ‘bwgan Calfiniaeth’. Cofiaf feddwl ar y pryd, tybed faint o ysgrifau, llyfrau, pregethau ac esboniadau Calfin y bu Hywel Teifi wrthi yn eu darllen cyn mynegi ei farn (rhagfarn neu ragdybiaeth?) ar y mater? Gan fod cymaint i’w ddarllen, mae’r llyfr gweddol fach hwn – 219 tudalen – yn arweiniad cryno i’r prif bum pwnc a gyflwynwyd gan Calfin. Mewn ffordd syml, glir a chryno fe’n cyflwynir i athrawiaethau gras y ffydd Gristnogol. Mae ymdriniaeth yr awdur â phob pwnc yn apelio at y dystiolaeth Feiblaidd cyn mynd ymlaen i esbonio ac egluro ystyr a pherthnasedd yr athrawiaethau. Wrth ymdrin â llwyrlygredigaeth, etholedigaeth gras, prynedigaeth neilltuol, gras anorchfygol a dyfalbarhad y saint, cawn arolwg odidog, mewn modd cynnes fugeiliol, ar brif fannau’r ffydd.
Mae Jim Scott Orrick yn ymwybodol iawn o’r camddeall, y gwrthwynebiadau a’r cambwyslais fu wrth drafod y pynciau hyn. Mae’n ymateb i’r rhain trwy ddangos, gyda chyfeiriadau lu o’r Beibl, fod undod, cysondeb ac eglurder yr athrawiaethau yn cyd-fynd â’r datguddiad dwyfol ym mhob rhan o’r Ysgrythurau. Hoffais y pwyslais ar ddeall yn feddyliol, ymateb yn serchiadol ac ystyried goblygiadau yr ewyllys wrth sylweddoli pa mor bellgyrhaeddol a chynhwysfawr yw gwirioneddau ein ffydd yng Nghrist. Mae’n dangos hefyd pa mor berthnasol yw’r athrawiaethau, nid yn unig i ddefosiwn y Cristion ond i efengylu, cenhadu byd-eang a materion eraill y bywyd Cristnogol. Mae sicrwydd, hyder a defnyddioldeb ein ffydd yn cyd-fynd wrth ddeall a derbyn athrawiaethau gras.
Daeth llinell o emyn Williams Pantycelyn i’r cof –
‘Trwy ryw athrawiaeth hyfryd,
Gad i mi brofi o’th hedd.’
Er na fyddai Orrick wedi clywed geiriau’r emyn, mae ei lyfr yn hybu’r un canlyniad profiadol sy’n rhan annatod o athrawiaeth iach. Mae yna ddarluniau esboniadol gafaelgar trwy bob pennod sy’n help mawr i egluro ambell wirionedd, e.e. disgrifio gras anorchfygol wrth sôn am wenyn a mêl. Ar ddiwedd pob pennod mae cyfle i ystyried ymhellach trwy fyfyrio a thrafod cwestiynau perthnasol.
Wrth gymeradwyo’r llyfr gwerthfawr hwn, rhaid rhybuddio’r darllenydd o ddyrchafu dyn ac un system o feddwl. Mae perygl gwirioneddol o hynny. Er mor gynorthwyol yw rhestru rhai gwirioneddau canolog a’u hesbonio, rhaid cofio fod y gwirioneddau hyn wedi eu cyflwyno’n gyntaf mewn cyd-destun wrth ddarllen y Beibl. Rhaid i bob diwinyddiaeth systematig fod yn seiliedig ac yn ddarostyngedig i ddiwinyddiaeth Feiblaidd. Cafodd pob datguddiad o Dduw ei roi mewn lle arbennig, i bobl arbennig gyda phwrpas penodol arbennig. Mae cydnabod hyn a’i oblygiadau yn gam sylfaenol wrth ddatblygu a dehongli’r ffydd. Bydd cydnabod hyn yn diogelu cydbwysedd y Beibl ei hun ar bob gwirionedd wrth gofio yr union amgylchiad a sefyllfa gychwynnol y cafodd y gwirionedd ei ddatguddio gyntaf.
Yn sicr mae James Scott Orrick yn cyflawni ei fwriad o gyflwyno Calfin a Chalfiniaeth mewn dull clir a chryno. Mae’r pwyslais ar brif amcan y dysgu – gogoneddu Duw ac Iesu Grist – yn arwain y darllenydd at fawl ac addoliad o drugaredd anhygoel ein Harglwydd a’n Gwaredwr. Nid ennill dadl yw diben y drafodaeth ond cael cymorth i ddeall sut mae gras Duw yng Nghrist yn cyrraedd ac yn ymdreiddio i bob rhan o’n byw. Mae cydnabod a gwerthfawrogi prif athrawiaethau ein ffydd yn mynd i hwyluso ein defnyddioldeb ar bob lefel o’n hymwneud â theulu, gwaith, cymdeithas, hamdden ac eglwys. Nid byd cul yw byd y Calfinydd ond byd a bydysawd eang o dan sofraniaeth hollamgylchynol, ddoeth, garedig a nerthol Duw. Mae’r llyfr hwn yn hwb ac yn sbardun i ymuno yn y fenter a’r frwydr ‘o blaid y ffydd a draddodwyd un waith am byth i’r saint.’ (Jwdas 1:3 BCND).