Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Adolygaid o ‘Pray Big’ gan Alistair Begg

22 Ebrill 2022 | gan Dewi Alter

Gweddïo Grymus
Alistair Begg, Pray Big,
The Good Book Company, 2019
adolygwyd gan Dewi Alter

 

Un o nodweddion amlycaf bywyd y Cristion yw gweddi. Dywed Thomas Charles mewn cofnod sylweddol yn y Geiriadur Ysgrythyrol: ‘Gweddi, weithiau, a arwydda holl addoliad Duw; ond gweddi, yn yr ystyr briodol ohoni, yw tywallt ein calonnau ger bron Duw.’ Mae Thomas Charles yn y dyfyniad yn ymwybodol o’r ddau beth sy’n digwydd mewn gweddi sef addoli Duw ac agor ein calonnau ger ei fron.

Yn fwy diweddar mae Alistair Begg wedi cyhoeddi cyfrol uchelgeisiol tu hwnt o’r enw Pray Big. Mewn wyth pennod fer tyn Begg ar esiampl yr Apostol Paul yn bennaf i’n hannog sut i weddïo’n rymus, ond mae hefyd yn manteisio ar enghreifftiau eraill o weddi a geir yn yr ysgrythur. Yn ei farn ef, nid yw gweddïau Cristnogion ein dydd ni yn addoli Duw yn gyflawn, ac wrth i ni dywallt ein calonnau ger bron Duw rydym yn canolbwyntio’n ormodol ar bethau bydol. Mae’n awyddus i Gristnogion heddiw weddïo’n fwy, yn fwy uchelgeisiol.

Dywed Begg os ystyriwn wrthrych ein gweddïau, byddwn yn sylweddoli ein braint fawr wrth siarad â Duw. Cawn ein hatgoffa hefyd o’n perthynas ni â Duw wrth ystyried hyn, sy’n medru’n cysuro ni pan gawn ni hi’n anodd gweddïo, ac mae’n anogaeth i ni weddïo’n eofn.

Yn gyntaf, dywed fod gweddïo’n weithred sy’n datguddio ein dibyniaeth ar Dduw, mae’n gydnabyddiaeth nad ydym yn gallu cyflawni pethau heb ei nerth, ac o’n hangen am faddeuant a chymorth gan Dduw oherwydd ein pechodau.Wrth i ni addoli Duw mewn gweddi a thywallt ein calonnau ger ei fron dylai ein gweddïau fod yn ysbrydol ac wedi’u gwreiddio yn y Beibl.
Mae gan Begg bum cyngor ymarferol wrth weddïo. Dywed yn gyntaf y dylem weddïo am ffocws fel y gallwn weld yn gliriach a chanolbwyntio ar Dduw. Dylem hefyd weddïo am obaith, ac yn benodol, ymwybyddiaeth o’n gobaith sicr yn yr Arglwydd sy’n rhoi anogaeth a hyder i Gristnogion wrth weddïo, oherwydd gwyddom fod Duw o’n plaid a bod ein hachubiaeth yn sicr. Dylem hefyd weddïo am gyfoeth, nid cyfoeth bydol wrth reswm, ond cyfoeth ein hetifeddiaeth ogoneddus. Cred Begg y dylem weddïo am rym yr Ysbryd Glân – wrth hynny cawn ein hatgoffa o weithredoedd mawrion Duw yn y Beibl ac mewn cyfnodau diweddarach. Yn olaf dylem weddïo am gariad, i ni wybod faint mae Duw yn ein caru ni, i ddeall cariad Duw atom ni ar y groes yn ddyfnach, ac i ni fedru caru eraill fel mae Duw wedi’n caru ni.

All hyn ddigwydd? Efallai ein bod yn dod i weddïo’n ddiffygiol, heb egni, ac nid o reidrwydd heb ffydd, ond yn aml heb ddigon o ffydd. Os edrychwn mewn drych gwelwn bechadur gwael a oedd yn elyniaethus tuag at Dduw ac yn wynebu barn. Yn rhyfeddol bellach, mae’r person hwnnw’n Gristion ac yn blentyn i Dduw. Mae’n wyrth, meddai Begg, ac mae gwaith yr Ysbryd yn parhau, ers y dröedigaeth wreiddiol honno, i’n puro a’n gwneud ni’n debycach i’r Arglwydd Iesu. Wrth gwrs, yn y gorffennol, y tu ôl i hyn, roedd gweddi – gweddïau pobl eraill sy’n ein caru. Bydded i ni gofio am nerth gweddïau yn hanes ein tröedigaethau ni.
Un o brif gryfderau Pray Big yw sut y mae’n llwyddo i dreiddio gwirioneddau dwys am weddi a’u hegluro mewn ffordd hygyrch a chryno, mewn arddull uniongyrchol, ac mae’n anogaeth fawr wrth droi at Dduw am weddi. Mae’n gyfrol heriol yn y bôn ac yn codi cwestiynau mawr am arferion gweddi yn ein dydd ni. Dywed yn syml y dylem weddïo am y pethau pwysicaf o safbwynt tragwyddol ac o safbwynt Duw.