Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Adolygaid: Golau trwy Gwmwl, John Emyr

21 Ebrill 2022 | gan Dewi Alter

Straeon Byrion
Golau trwy Gwmwl gan John Emyr
(Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 2019)

Adolygiad Dewi Alter

Mae John Emyr yn enw cyfarwydd i nifer o ddarllenwyr y Cylchgrawn Efengylaidd, ar hyd y blynyddoedd mae wedi gwneud nifer o gyfraniadau. Yn ddiweddar mae wedi ennill nifer o wobrau llenyddol fel y Gadair yn Eisteddfod Bont yn 2018, a gwobrau am straeon byrion mewn eisteddfodau eraill. Cyfrol sy’n cynnwys 12 stori fer yw Golau trwy Gwmwl, ac yma ceir rhai o’r straeon arobryn. Nid hon yw cyfrol gyntaf John Emyr o straeon byrion, cyhoeddwyd Mynydd Gwaith a storïau eraill ganddo ym 1984.
Erbyn hyn gwelwn ôl awdur sydd wedi cael gafael gadarn ar ei grefft ac awdur sydd, hefyd, wedi trwytho’i hun yn nhraddodiad cyfoethog y stori fer Gymraeg – traddodiad sy’n cynnwys gweithiau gan awduron amlwg fel Kate Roberts a John Gwilym Jones; dau awdur sy’n sicr o fod yn gwbl gyfarwydd i John Emyr. Un o gryfderau mawr y gyfrol hon yw’r darllen eang sydd rhwng y llinellau, darllen sy’n ehangu gorwelion ei gynulleidfa gan fynd â ni o lenyddiaeth Gymraeg i gynfas llenyddol gweddill y byd.
Fel unrhyw gyfrol o straeon byrion Cymraeg, mae cynildeb yn nodwedd gref o’r gyfrol hon. Mae adeiladwaith y straeon yn hyderus ac yn drefnus, mae John Emyr yn llwyddo i godi ac awgrymu pethau ar ddechrau straeon heb i chi sylwi, ac erbyn diwedd y stori maent yn bethau amlwg sy’n synnu’r darllenydd.

Canolbwyntia nifer o’r straeon ar ymwneud un cymeriad â’r byd o’i gwmpas, gan gynnig golwg microcosmig ar fywyd ac atebion personol i nifer o gwestiynau mawr fel ‘beth yw pwrpas bywyd?’ ac ‘wrth i chi weithio ar hyd y blynyddoedd beth ydych chi’n ei gyflawni?’ Mae’r stori fer wedi bod yn gyfrwng yng Nghymru i holi cwestiynau anodd, herio ystyriaethau poblogaidd, a diddanu darllenwyr; ac mae’r gyfrol hon yn deall ysbryd a gwendidau’r oes i’r dim, awgrymir nad ‘gwagedd llwyr yw’r cyfan’.
Yn ‘Ethel’ ac ‘Y Trefnydd’ mae llwybr bywyd y prif gymeriadau wedi cymryd troeon annisgwyl ac mae pethau wedi newid yn ddirfawr iddynt. Mae’r prif gymeriad yn ‘Y Trefnydd’ yn unig heb gysylltiad â’i blant wrth iddo wynebu salwch, mae llawenydd y blynyddoedd gynt wedi diflannu; neu yn ‘Ethel’ mae’r prif gymeriad wedi colli’r radicaliaeth gynt, sydd mor nodweddiadol o bobl ifanc ar hyd y cenedlaethau, ac mae’n mwynhau bywyd cysurus bourgeois. Yn y straeon hyn mae’r gorffennol yn llercian yn y cysgodion fel bwgan yn atgoffa’r cymeriadau o sut y bu bywyd ac yn codi ansicrwydd am eu hapusrwydd presennol.
Yn ‘Cyfle’cawn hanes athrawes gymharol ifanc, efallai, ond sydd wedi bod yn gweithio yn yr ysgol am gyfnod, a gartref mae ganddi ŵr a phlant ifanc. Mae’r prifathro yn gofyn iddi wneud gwaith ychwanegol sef ysgrifennu adroddiad, mae’r gwaith yn ddi-dâl ac yn orchwyl beichus, ond mae hi’n fodlon gwneud hynny, er y gellid dadlau mai cyfrifoldeb y prifathro yw ei wneud. Treulia ei hamser rhydd yn gweithio’n galed ar y ddogfen, yr adroddiad oedd ei hunig gwmni dros yr haf, golyga hyn ei bod hi’n absennol o bethau teuluol. Ni chawn sôn am yr effaith hon ar y teulu, efallai er gwell, oherwydd rydym yn canolbwyntio ar fenter yr athrawes. Y pleser iddi yma yw cyflwyno a chyflawni llafur mawr.

Mewn Cymraeg cryf ac ystwyth cawn gyfraniad gwreiddiol i’r stori fer Gymraeg, sydd ar yr un pryd yn parchu gwreiddiau’r traddodiad cyfoethog hwnnw.