Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gweddïo dros y Colledig

26 Mawrth 2021 | gan Rhun Murphy

Gweddïo dros y Colledig

1. Gweddiwch y bydd Duw yn eu tynnu hwy ato’i hun:

Ni all neb ddod ataf fi heb i’r Tad a’m hanfonodd i ei dynnu; a byddaf fi’n ei atgyfodi yn y dydd olaf. Ioan 6:44

2. Gweddïwch y bydd Duw yn rhoi dyhead ynddynt amdano ef ei hun :

“Wele’r dyddiau yn dod,” medd yr Arglwydd DDUW, “pan anfonaf newyn i’r wlad; nid newyn am fara, na syched am ddŵr, ond am glywed geiriau’r Arglwydd. Amos 8:11

3. Gweddïwch y bydd yr Ysbryd Glân yn rhoi argyhoeddiad o bechod :

A phan ddaw (yr Eiriolwr), fe argyhoedda ef y byd ynglŷn â phechod, a chyfiawnder, a barn. Ioan 16:8

4. Gweddïwch am gyfleon i rannu’r Efengyl :

Gweddïwch yr un pryd drosom ninnau hefyd, ar i Dduw agor inni ddrws i’r gair, inni gael traethu dirgelwch Crist… Gweddïwch ar i mi ei amlygu, fel y mae’n ddyletswydd arnaf lefaru. Colosiaid 4:3-4

5. Gweddïwch y bydd Duw yn arwain Cristnogion eraill i rannu’r Efengyl a hwy hefyd :

Yna meddai wrth ei ddisgyblion, “Y mae’r cynhaeaf yn fawr ond y gweithwyr yn brin; deisyfwch felly ar Arglwydd y cynhaeaf anfon gweithwyr i’w gynhaeaf.” Mathew 9:37-38

…a gweddïwch drosof finnau y bydd i Dduw roi i mi ymadrodd, ac agor fy ngenau, i hysbysu’n eofn ddirgelwch yr Efengyl. Effesiaid 6:19

6. Gweddïwch y bydd Duw yn agor eu llygaid i wirionedd yr Efengyl :

 yr anghredinwyr y dallodd duw’r oes bresennol eu meddyliau, rhag iddynt weld goleuni Efengyl gogoniant Crist, delw Duw. 2 Corinthiaid 4:4

7. Gweddïwch y bydd Duw yn agor eu calon i ymateb i’r Efengyl :

 Agorodd yr Arglwydd ei chalon hi i ddal ar y pethau yr oedd Paul yn eu dweud. Fe’i bedyddiwyd hi a’i theulu… Actau 16:14

8. Gweddïwch y bydd Duw yn para iddynt gredu yn yr Arglwydd Iesu a phwyso arno ef yn unig am eu hiachawdwriaeth :

Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. Ioan 3:16

“Cred yn yr Arglwydd Iesu, ac fe gei dy achub” Actau 16:31

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF