Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Galwad i Weddi 2021 – Dydd Sul (7fed)

6 Mawrth 2021 | 1 Ioan 1

Mae Duw yn oleuni

Hon yw’r genadwri yr ydym wedi ei chlywed ganddo ef, ac yr ydym yn ei chyhoeddi i chwi: goleuni yw Duw, ac nid oes ynddo ef ddim tywyllwch. Os dywedwn fod gennym gymundeb ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, yr ydym yn dweud celwydd, ac nid ydym yn gwneud y gwirionedd; ond os rhodiwn yn y goleuni, fel y mae ef yn y goleuni, y mae gennym gymundeb â’n gilydd, ac y mae gwaed Iesu, ei Fab ef, yn ein glanhau ni o bob pechod. 1 Ioan 1:5-7

Y gwahaniaeth rhwng tywyllwch a goleuni yw’r gwahaniaeth mwyaf sylfaenol oll. Ni ellir cymysgu’r ddau. Tywyllwch yw absenoldeb golau ym mhob ffordd, ac nid oes gan olau dywyllwch ynddo. Dywed yr apostol Ioan wrthym mai “goleuni yw Duw, ac nid oes ynddo ef ddim tywyllwch” 1 Ioan 1: 5.

Mae goleuni yn yr Ysgrythur yn ddarlun o wirionedd (Salm 43:3), sancteiddrwydd (Eseia 10:17) a bendith (Salmau 97:11). Mae’r holl bethau hyn yn berffaith wir am Dduw. Ef yw “Duw’r gwirionedd”, y “Sanctaidd Un”, a’r “Duw bendigedig”.

Rhaid i ni bob amser edrych ar Dduw fel hyn, fel gwirionedd pur, heb ei ddifetha, yn sancteiddrwydd a bendith, a pheidio byth â syrthio i’r fagl o feddwl bod Duw rywsut yn llai na hyn. Nid oes celwydd nac anwiredd yn Nuw, dim amhuredd nac anghyfiawnder, dim diffyg llawenydd na diffyg hyfrydwch.

Dylai hyn oll beri inni sylweddoli cymaint yn fwy yw Duw na dim a welwn yn ein byd syrthiedig a meidrol, a dylai ennyn awydd i’w adnabod a bod yn debyg iddo.

Duw yw ffynhonnell goleuni. Mae pob gwirionedd, sancteiddrwydd a bendith yn deillio ohono. Ond tristwch mawr yw gwybod cymaint yr ydym wedi cwympo o’r cyflwr perffaith yr oedd Adda ac Efa yn brofi pan y’u crëwyd gan Dduw.

Mae tywyllwch y byd o’n cwmpas yn amlwg i bawb, ei gelwyddau, ei bechod, a’i dristwch. Ond clod i Dduw fod:

Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr; y rhai a fu’n byw mewn gwlad o gaddug dudew a gafodd lewyrch golau. Eseia 9:2

Mae’r Arglwydd Iesu Grist, “goleuni’r byd”, wedi dod, a thrwyddo ef nid yw Cristnogion bellach yn dywyllwch ond yn “olau yn yr Arglwydd” ac i “gerdded fel plant goleuni” (Eff. 5: 8). Goleuni yw lle mae Duw yn byw a beth yw Duw, ac mae’r un peth i fod yn wir amdanon ni hefyd. Rydyn ni’n blant goleuni (gwirionedd, sancteiddrwydd a bendith) a dylid gweld hynny yn y ffordd rydyn ni’n byw. Mae cerdded mewn tywyllwch pechadurus yn wadiad o bwy ydyn ni.

Felly, o ddydd i ddydd, a yw ein bywydau wedi’u llenwi â golau? Ydyn ni’n dal ein gafael ar y gwir, yn ceisio bod fel Crist mewn calon a bywyd, ac felly’n profi bendith agosatrwydd Duw?

Dywed yr apostol Ioan wrthym, os ydym yn cerdded mewn tywyllwch, ni allwn gael perthynas â Duw mewn gwirionedd, na gyda Christnogion eraill. Ni fydd yn cerdded gyda ni mewn tywyllwch pechadurus, a phan wrthodwn edifarhau am ein pechodau, rydym yn tristau ei Ysbryd Glân, ac mae’n tynnu’n ôl oddi wrthym, gan ein gadael yn oer a thywyll a phell.

OND, mae pwrpas Duw i ni yn wahanol. Mae’n ein galw i “gerdded yn y goleuni fel y mae Ef yn y goleuni”: credu ei addewidion ac ymddiried yng Nghrist, ymdrechu i fod yn sanctaidd fel y mae’n sanctaidd, ac felly i brofi ei fendith. Nid oes angen perffeithrwydd i fod yn agos at Dduw na gyda’n gilydd – mae hynny y tu hwnt i ni yn y bywyd hwn. Ond mae angen didwylledd – cerdded yn y goleuni, ymddiried yn y Gwaredwr a’i eiriau, edifarhau am ein pechodau, a phrofi glanhad ei waed gwerthfawr.

Mi glywais lais yr Iesu’n dweud,
“Tyrd ataf fi yn awr,
Flinderog un, cei ar fy mron
Roi pwys dy ben i lawr”
Mi ddeuthum at yr Iesu cu,
Yn llwythog, dan fy nghlwyf;
Gorffwysfa gefais ynddo Ef,
A dedwydd, dedwydd wyf.

Gallwn obeithio yn Nuw oherwydd ei fod yn oleuni

Cwestiynau

  • Ym mha ffordd mae Iesu yn olau’r byd?
  • Sut allwn ni adlewyrchu goleuni Duw yn y byd hwn?

Darllen pellach

  • Ioan 1,
  • Mathew 5: 1-16

Gweddïwch

  • Addolwch Dduw am ei burdeb, ei ddaioni a’i gariad.
  • Gweddïwch y byddai Duw yn rhoi gweledigaeth gliriach i chi o Grist.
  • Gweddïwch y bydd yr Eglwys yn ein gwlad yn ddinas ar fryn.
  • Gweddïwch y byddai’r Ysbryd yn gweithio mewn pobl fel eu bod nhw’n symud o dywyllwch i oleuni.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF