Mae Duw yn ffyddlon a gellir ymddiried ynddo
os ydym yn anffyddlon, y mae ef yn aros yn ffyddlon, oherwydd ni all ef ei wadu ei hun.” 2 Timotheus 2:13
Dyma’r defosiwn olaf ond un yr Alwad i Weddi eleni, a gweddïwn i’r cyfan fod yn fendith ichi wrth i edrych gyda’n gilydd ar rai o nodweddion Duw. Er ein bod yn byw mewn byd sydd mor ansicr a llawn pechod, gallwn dynnu cysur mawr wrth wybod ein bod yn dibynnu ar Dduw sy’n Greawdwr ac yn cynnal pob peth, yn anghymar ac yn sanctaidd, yn hysbys inni, yn berffaith ac yn barnu, ac yn gariad. Heddiw, byddwn yn edrych ar Ei ffyddlondeb.
Un o’r pethau sy’n nodweddu ein hoes yw diffyg ‘brand loyalty’. Flynyddoedd yn ôl byddai eich banc wedi bod yn fanc i chi am oes, byddech chi’n siopa yn yr un siopau, ac ni allech fyth ddychmygu newid meddyg, deintydd neu garej. Ond y dyddiau hyn mae pethau’n wahanol, gan ein bod ni’n gallu edrych o gwmpas yn hapus braf. Mae’r rhyngrwyd yn llawn gwefannau cymharu lle gallwn chwilio am y fargen orau a syrffio o siop i siop gyda chlic botwm neu sgrol llygoden. Nid oes angen i ni gadw at yr un brand mwyach, ac mae’r dewisiadau’n ddiddiwedd.
Nid wyf yn tynnu eich sylw at y ffaith hon i wneud pwynt bod pethau’n arfer bod yn well yn yr hen ddyddiau! Mae yna lawer o bethau cadarnhaol ynglŷn â gallu edrych o gwmpas a chael rhyddid i chwilio am y pris gorau neu wasanaeth mwy cyflawn. Ond dylai byw mewn cymdeithas fel ein un ni wneud inni ryfeddu at deyrngarwch a ‘brand-loyalty’ Duw. Mae Duw yn ffyddlon ac yn wir ym mhob ffordd.
Yn yr adnod hon mae Paul yn tynnu sylw Timotheus at yr union ffaith hon. Mae Duw yn ffyddlon ym mhob ffordd ac mae’n ffyddlon i ni – dylai hyn beri i’n meddyliau a’n calonnau synnu a llawenhau. Byddai hyd yn oed y rhai mwyaf ffyddlon ohonom yn symud i ffwrdd o siop neu wasanaeth pe byddem wedi cael profiad gwael. Byddem yn teimlo bod gennym hawl i ddweud ‘Nid wyf yn rhoi fy arian iddynt os ydynt yn fy nhrin fel hynny!’ neu ‘Nid wyf, yn gwastraffu fy arian arnynt eto!’ Ac eto mae Duw yn deyrngar inni er ein bod yn ei siomi yn gyson a’i adael i lawr mewn meddwl, gair, a gweithred. I fod yn onest nid yw ‘ei siomi’ yn ddigon cryf ar gyfer y ffordd rydyn ni wedi trin ein Creawdwr. Fel dynoliaeth rydyn ni’n cymryd Ei roddion da ond eto’n gwadu Ei arglwyddiaeth ar ein bywydau, rydyn ni wedi gwrthryfela, gwneud llanast o’r greadigaeth, a gwaethaf oll fe wnaethon ni lofruddio Ei unig Fab. Ac eto, mae’n parhau i fod yn deyrngar, gan gynnig maddeuant llawn inni trwy ffydd yng Nghrist.
Hyd yn oed fel Cristnogion rydyn ni’n gadael Duw i lawr mewn cymaint o ffyrdd, ac eto mae’n parhau i fod yn ffyddlon. Fel y dywed Paul yn 1 Corinthiaid 1, ‘bydd ef yn eich cadw’n gadarn hyd y diwedd, fel na bydd cyhuddiad yn eich erbyn yn Nydd ein Harglwydd Iesu Grist. Y mae Duw’n ffyddlon, a thrwyddo ef y’ch galwyd chwi i gymdeithas ei Fab ef, Iesu Grist ein Harglwydd ni’. Mae’n ffyddlon ac ni fydd yn gadael inni gael ein temtio y tu hwnt i’n gallu (1 Corinthiaid 10:13), a phan gyfaddefwn ein pechodau, ‘mae’n ffyddlon ac yn gyfiawn i faddau ein pechodau a’n glanhau rhag pob anghyfiawnder’ (1 Ioan 1: 9).
Mae ei deyrngarwch i’r ‘brand’ dynol yn herio pob rhesymeg, ac eto mae’n gwneud synnwyr perffaith wrth inni symud i ffwrdd o edrych ar ein methiannau ni, i edrych ar Ei gymeriad anhygoel Ef. Mae’n ffyddlon oherwydd ei fod yn ffyddlon! Dyma pwy ydyw, a da fyddai inni gofio hyn ar adegau pan fyddwn yn cael trafferth deall beth sy’n digwydd. O! sut mae angen i ni ddal gafael ar y gwirionedd hwn yn y dyddiau hyn – Ef yw’r cyfan sydd ei angen arnom!
Gallwn obeithio yn Nuw oherwydd ei fod yn ffyddlon.
Cwestiynau
- Ar ba adegau ydych chi’n cael eich temtio i amau ffyddlondeb Duw? A yw hyn yn deg?
- Meddyliwch yn ôl i brofiadau’r gorffennol sy’n profi na fyddai Duw byth yn eich gadael.
Darllen pellach
- Salm 33,
- Hebreaid 11
Gweddïwch
- Diolchwch i’r Arglwydd am yr holl ffyrdd y mae wedi bod yn ffyddlon i chi.
- Gweddïwch y byddai’r Arglwydd yn eich cadw chi ar adegau o anhawster ac amheuaeth.
- Gweddïwch y byddai’r Eglwys yn dysgu dibynnu’n llwyr ar Dduw yn ein dyddiau ni.
- Gweddïwch y byddai’r Arglwydd yn maddau i’n gwlad am droi ein cefn arno.