Gallwn adnabod Duw
Traddodwyd i mi bob peth gan fy Nhad. Nid oes neb yn adnabod y Mab, ond y Tad, ac nid oes neb yn adnabod y Tad, ond y Mab a’r rhai hynny y mae’r Mab yn dewis ei ddatguddio iddynt. Mathew 11:27
Un o ddirgelion mawr Duw yw er ei fod uwchlaw ein dealltwriaeth ac ni allwn ei amgyffred, eto gallwn ei adnabod. Fel yr ysgrifennodd y diwinydd Herman Bavinck, ‘Mae cyfoeth anchwiliadwy’r Bod Dwyfol yn rhan anatod a phwysig o’n gwybodaeth am Dduw’. Er na fedrwn byth adnabod Duw yn llawn, eto mae wedi rhoi’r gallu inni adnabod ein Creawdwr tragwyddol a mawreddog. Rydyn ni wedi cael ein creu ar ei lun a’i ddelw ef ac rydyn ni wedi cael ein creu i’w adnabod – mae hwn yn wirionedd anhygoel.
Y drasiedi yw ein bod wedi fforffedu’r gallu a’r hawl hwnnw i adnabod Duw mewn ffordd bersonol. Trwy ein gwrthryfel pechadurus mae rhaniad mawr rhyngom. Cafodd Adda ac Efa eu taflu allan o’r ardd pan wnaethon nhw bechu, a daeth newid sylfaenol yw calonnau – fe ddaethon nhw’n farw yn eu camweddau a’u pechodau. Effeithiodd hyn ar y ddynolryw, ac rydym i gyd yn bechaduriaid sydd wedi methu â chyrraedd gogoniant Duw. Mae ein cyflwr naturiol yn un o fod wedi ein dieithrio i Dduw, ac ar y gorau dim ond ymbalfalu o gwmpas ar y Ddaear y medrwn ei wneud, gan geisio chwilio a dyfalu ynghylch cymeriad a natur Duw. Rydyn ni’n gweld cipolwg ohono yn y greadigaeth, ond creu duwiau yn ein delwedd ein hunain a wnawn – duwiau sy’n druenus a dim byd tebyg i’r Duw rhyfeddol a gwir.
Ein hunig obaith yw y byddai Duw yn datgelu ei hun i ni.
Mae Duw mor gariadus a graslon nes ei fod wedi gwneud yn union hynny! Trwy’r Ysbryd Glân mae’n datgelu ei hun i ni trwy’r greadigaeth a thrwy lyfr (y Beibl), ac eto trwy ddod yn ddyn fel ni y gwelwn Ef yn cael ei ddatgelu fwyaf eglur. Rhyfeddod yr efengyl yw bod Iesu’n datgelu’r Tad i’r rhai y mae wedi’u dewis, fel yr eglurir yn yr adnod heddiw. Trwy waith adfywiol yr Ysbryd, a thrwy waith Iesu ar y groes rydym yn gweld ac yn profi Duw mewn sancteiddrwydd, cariad, a gras – rydyn ni’n dod i adnabod Duw!
Fel Cristnogion ni ddylem fyth gymryd hyn yn ganiataol, a dylem ei ystyried yn fraint fwyaf gwerthfawr. Gadewch iddo suddo i mewn … er na allwn ni byth adnabod Duw yn llawn, eto gallwn adnabod yr Un sy’n dragwyddol, a greodd bopeth ac sy’n ddigymar ym mhob ffordd. Pan gawson ni ein haileni, daethom i berthynas ag Ef ac mae hyn yn golygu mwy na dim ond gwybod pethau amdano (er bod hyn yn rhan o’r adnabod), gallwn ni siarad ag ef a medrwn gerdded gydag ef.
Gwraidd yr adnabod hyn yw perthynas, ac fel y mae gŵr yn llawn gobaith a disgwyliad ar ddiwrnod ei briodas wrth iddo edrych ymlaen at oes o ddod i adnabod a charu ei wraig, gadewch inni gael ein llenwi â’r gobaith mawr o wybod bod gennym dragwyddoldeb i garu, addoli a dod i adnabod ein Duw!
Gallwn obeithio yn Nuw oherwydd medrwn ei adnabod.
Cwestiynau
- A ydych chi’n cymryd yn ganiataol y gwirionedd anhygoel y gallwn ni adnabod Duw?
- Ym mha ffyrdd yr hoffech chi adnabod Duw yn well?
Darllen pellach
- Jeremeia 9:23-26
- Ioan 17
Gweddi
- Diolchwch i’r Arglwydd a’i addoli am wneud Ei Hun yn hysbys i chi.
- Gweddïwch y byddech chi’n tyfu yn eich adnabyddiaeth o Dduw.
- Gweddïwch y byddai’r Eglwys yn ein gwlad yn blaenoriaethu adnabod Duw yn anad dim arall.
- Gweddïwch y byddai Duw yn datgelu ei Hun i bobl yng Nghymru heddiw trwy ei Ysbryd.