Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Galwad i Weddi 2021- Dydd Mawrth (2il)

1 Mawrth 2021 | Eseia 40

Mae Duw yn anghymharol a Sanctaidd

I bwy, ynteu, y cyffelybwch Dduw? Pa lun a dynnwch ohono? (Eseia 40:18)

Pan yn yr ysgol gynradd roedd cystadleuaeth barhaus yn ein dosbarth – pwy oedd gyda’r esgidiau mwyaf cŵl. Bob wythnos byddai rhywun yn dod gyda thrainers newydd a oedd yn well ac yn fwy disglair na gweddill y dosbarth. Byddem yn treulio mwy o amser yn archwilio ein hesgidiau nag yn edrych ar ein llyfrau, ond un diwrnod, trodd pob dim wyneb i waered pan gerddodd Mark Kitchen i mewn i’r dosbarth yn gwisgo pâr o Nike Airs. Nid oeddem erioed wedi gweld esgidiau o’r fath a oedd yn cynnwys ymysg pethau eraill bwmp a oedd yn caniatáu iddo wthio aer i bocedi o fewn yr esgid a oedd yn ôl pob golwg yn caniatáu iddo neidio’n uwch – roedd ein meddyliau wedi ffrwydro (yn eironig, felly hefyd y balŵns aer o fewn ei esgidiau o fewn ychydig wythnosau)! Ar y pryd, fe roeddem i gyd yn rhyfeddu ar ei esgidiau gwyn pefriog mewn cenfigen llwyr gan gydnabod nad oedd yr hyn a oedd gennym ar ein traed yn cymharu.

Er fy mod bellach yn hŷn, ac yn anffodus mae’n rhaid imi adael yr esgidiau cŵl i’m plant, rwy’n aml yn gweld yr un tueddiad yn fy nghalon o fod eisiau rhywbeth mwy a gwell. Mae’n ymddangos ei fod wedi’i wifro i’n calonnau fel bodau dynol – rydyn ni bob amser yn chwilio ac ymdrechu am fwy. Rydyn ni’n prynu car, ond yn sydyn yn cael ein llygad-dynnu gan geir gwell. Rydyn ni’n ailaddurno ystafell yn y tŷ, ond rydyn ni’n dechrau meddwl am yr ystafell nesaf yn gyflym. Os ydym yn onest, yn rhannau tywyllaf a mwyaf pechadurus ein calonnau gallwn hyd yn oed deimlo’r un ffordd am yr anrhegion gorau a mwyaf rhyfeddol y mae’r Arglwydd wedi’u rhoi inni. Mae fel nad oes unrhyw beth yn medru gwirioneddol ein bodloni wrth i ni chwilio am rywbeth gwell… neu rywbeth gwahanol.

Mae adnod heddiw yn galonogol ac yn ddychrynllyd wrth iddo dynnu ein sylw at wirionedd arall am Dduw. Mae’n ddigymar!

Ef yw’r ‘Duw tragwyddol … yr ARGLWYDD a greodd gyrrau’r ddaear; ni ddiffygia ac ni flina, ac y mae ei ddeall yn anchwiliadwy’ (Eseia 40:28). ‘Ef yw’r Duw byw a’r brenin tragwyddol; y mae’r ddaear yn crynu rhag ei lid, ac ni all y cenhedloedd ddioddef ei ddicter’ (Jeremeia 10: 10b). Pwy sydd fel yr ARGLWYDD ein Duw yn y nefoedd neu ar y ddaear, yn gosod ei orseddfainc yn uchel a hefyd yn ymostwng i edrych yn isel (Salm 113: 5-6)? Mae Duw yn gwbl annealladwy yn ei fawredd ac ni all neb ddod yn agos ato. Rydyn ni’n gweld hyn yn arbennig yn ei sancteiddrwydd fel mae Datguddiad 4:8 yn dweud wrthym, ‘I’r pedwar creadur byw yr oedd chwe adain yr un, ac yr oeddent yn llawn o lygaid o’u hamgylch ac o’u mewn, a heb orffwys ddydd na nos yr oeddent yn dweud: “Sanct, Sanct, Sanct yw’r Arglwydd Dduw hollalluog, yr hwn oedd a’r hwn sydd a’r hwn sydd i ddod!”

Mae’r gwirionedd hwn am Dduw yn gwbl ddychrynllyd inni fodau dynol pechadurus sydd mor ddi-sanctaidd ag y gallem fod. Dylai wneud i ni grynu wrth i ni gydnabod y trwbl cosmig uffern-ddyfodol yr ydym ni ynddo. Ni allwn ond gweiddi fel y gwnaeth Eseia “Gwae fi! Y mae wedi darfod amdanaf! Dyn a’i wefusau’n aflan ydwyf, ac ymysg pobl a’u gwefusau’n aflan yr wyf yn byw; ac eto, yr wyf â’m llygaid fy hun wedi edrych ar y brenin, ARGLWYDD y Lluoedd” (Eseia 6: 5).

Ac eto, ar yr un pryd, mae’r gwirionedd hwn yn llawn gobaith. Rydym eisoes wedi nodi bod ein calonnau’n dyheu am rywbeth mwy a gwahanol, rhywbeth na all y byd hwn ei roi inni. A allai felly fod ein calonnau yn dyheu am y Duw Sanctaidd hwn?

Mae’r Beibl yn ein dysgu nad yw ein calonnau’n fodlon nes i ni ddod o hyd i Dduw – mae twll yn ein heneidiau na ellir ond ei lenwi gan y Duw sanctaidd a thragwyddol sy’n anghymarus ac yn annealladwy. Ef yw’r un a’n creodd ni, ac ynddo Ef rydyn ni’n dod o hyd i’n cartrefi. Gadewch inni felly agosáu heddiw at ein Duw Sanctaidd, trwy Grist ein cyfryngwr, gan gydnabod mai Ef yw’r hyn y mae ein calonnau’n chwilio amdano. Ni fydd unrhyw beth arall byth yn cymharu, anghofiwch am y Nike Airs a phob peth arall y gall y byd hwn ei roi, gallwn agosáu at y Duw digymar a sanctaidd trwy Grist Iesu!

Gallwn obeithio yn Nuw oherwydd ei fod yn anghymharol a sanctaidd.

Cwestiynau

  • Ym mha ffyrdd y mae Duw yn wahanol ac yn well na’r cyfan a welwn ar y Ddaear hon?
  • Sut mae Sancteiddrwydd Duw yn ddychryn ac yn dod â gobaith i chi?

Darllen pellach

  • Eseia 6, Salm 96

Gweddi

  • Defnyddiwch Salm 96 fel sail i weddi
  • Gweddïwch y byddai’r Ysbryd yn agor eich llygaid i weld pa mor ddigymar yw Duw.
  • Gweddïwch y byddai sancteiddrwydd yn nodwedd o’r Eglwys yn ein gwlad.
  • Gweddïwch y byddai’r Ysbryd yn dangos i bobl pa mor fyr-dymor a heb fod yn foddhaol y gall pleserau’r byd hwn fod.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF