Mae Duw yn gyfiawn a bydd yn barnu
Pwy bynnag ni chafwyd ei enw’n ysgrifenedig yn llyfr y bywyd, fe’i bwriwyd i’r llyn tân. Datguddiad 20:15
A ydych erioed wedi gweld un o’r lluniau hynny sydd wedi’u cynllunio i edrych yn wahanol i wahanol bobl? Wrth edrych ar yr un llun, gall un person weld hen ddyn tra gall un arall weld dynes ifanc hardd. Maen nhw’n glyfar, ac maent hefyd yn ddarlun gwych o’n cymdeithas heddiw. Mae’n ymddangos y gall cymaint ohonom edrych ar yr union fater neu ddigwyddiad a gweld pethau hollol wahanol. Gall rhai edrych ar gyfraith benodol sy’n cael ei phasio gan y llywodraeth fel un beryglus ac anghywir, tra bod eraill yn ei gweld fel cam blaengar. Gall rhai edrych ar rai sylwadau a ysgrifennwyd ar Twitter fel tynnu coes diniwed, tra bod eraill yn ysgwyd eu pennau mewn anghrediniaeth ar y sarhau peryglus.
Gall hyn fod yn frawychus i Gristnogion sydd mor aml yn cael eu hunain â safbwyntiau gwrthwyneb i’n diwylliant seciwlar. Mae ein hadnod heddiw, a’r hyn sy’n cael ei ddatgelu am Dduw, yn sobreiddiol ac yn gysur ar yr un pryd.
Mae Duw yn berffaith ac yn gyfiawn. Weithiau gallwn gymryd bod y datganiad hwn yn dweud mai Duw yw’r mwyaf perffaith a’r mwyaf cyfiawn o fewn y system foesol fel yr ydym yn ei ddeall, ond mae hyn yn gwneud cam a Duw. Perffeithrwydd ydyw ac Ef yw cyfiawnder. Trwy edrych ar Dduw y cawn gyfiawnder – gadewch imi ddefnyddio darlun (amherffaith) y gobeithiaf y bydd yn helpu … mae rhai pobl yn edrych ar gyfiawnder fel tâp mesur. Rydym yn dal y tâp mesur hwnnw at rai pobl neu ddigwyddiadau ac yn gweld nad ydyn nhw’n mesur i fyny, maen nhw’n anghyfiawn ac yn anghywir. Fel Cristnogion gallwn ddychmygu dal y tâp mesur hwnnw at Dduw a gweld y byddai’n mesur yn berffaith – Mae’n gyfiawn ac yn berffaith. Er bod hynny’n wir, dim ond rhan o’r stori yw hynny gan mai Duw yw’r mesur tâp!
Rydym yn rhan o’i fyd Ef, ac o’i gymeriad Ef yr ydym yn deall ac yn gweld cyfiawnder, ac nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr i edrych am gyfiawnder y tu allan Iddo. Ef sy’n gosod y rheolau, ac mae’n ffolineb llwyr ac yn bechod ofnadwy ceisio gosod ein rheolau ein hunain a diffinio cyfiawnder ar ein telerau ein hunain. Soniais yn gynharach fod hyn yn sobreiddiol ac yn gysur ar yr un pryd.
Mae’n gysur oherwydd rydyn ni’n gwybod y bydd Duw ryw ddydd yn gwneud pethau’n iawn. Ar ddiwedd y dydd, nid oes ots sut mae pobl yn gweld materion penodol – gan gymryd ein darlun cyntaf, nid yw’n gwneud gwahaniaeth yr hyn y mae gwahanol bobl yn ei weld yn y llun – Duw yw’r artist, a’r hyn y mae’n ei ddweud sy’n gywir. Mae hyn yn gysur pan mae’n rhaid i ni sefyll i fyny a wynebu anghyfiawnder ein hunain, oherwydd gallwn ni ymddiried yn Nuw yn llwyr. Fel yr eglura Paul yn Rhufeiniaid 12, ni ddylem geisio dial ein hunain, yn hytrach gadewch inni garu a gadael dial i’r Arglwydd. Mae rhyddid llwyr drwy wneud hyn.
Ac eto, er ei fod yn gysur, mae’n ein sobri gan ein bod yn sylweddoli pa mor amherffaith ac anghyfiawn yr ydym ni. Fel y dywed y Beibl rydym i gyd wedi pechu ac wedi methu â chyrraedd gogoniant Duw. Mae perffeithrwydd a chyfiawnder Duw yn mynnu bod pob pechod yn cael ei gosbi ac felly rydyn ni’n gwybod beth sy’n aros pob un ohonom, fel yr eglura ein hadnod heddiw – byddwn ni’n cael ein taflu i’r llyn tân. Mae uffern yn realiti ofnadwy, ac yn un a ddylai ein gyrru i’n gliniau wrth inni sylweddoli’r digofaint ofnadwy sydd gan Dduw yn erbyn pob anghyfiawnder a drygioni.
Ond diolch i Dduw! Fe roddodd Ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw. Gwnaethpwyd Iesu yn bechod drosom a chymerodd y gosb yr oeddem yn ei haeddu ar y groes – allwn ni byth amgyffred y boen a ysgwyddodd wrth iddo wynebu digofaint ofnadwy’r Tad. O’r fath gariad! Am Waredwr! Dyma newyddion da ac anhygoel yr efengyl, a rhaid inni ei rhannu ag eraill. Fel yr ysgrifennodd Charles Wesley (ac a gyfieithwyd gan E.H Griffiths) –
Ai gwir y gair fod elw i mi
Yn aberth Crist a’i werthfawr loes?
A gollodd ef ei waed yn lli
Dros un a’i gyrrodd Ef i’w groes?
Ei gariad tra rhyfeddol yw,
Fy Nuw yn marw i mi gael byw.
Medrwn obeithio yn Nuw oherwydd ei fod Ef yn gyfiawn ac yn berffaith.
Cwestiynau
- Sut mae gwybod bod Duw yn berffaith a chyfiawn yn rhoi gobaith i chi dros ein gwlad?
- Sut gall dealltwriaeth o gyfiawnder Duw ddyfnhau ein cariad tuag ato?
Darllen pellach
- Rhufeiniaid 1: 18-32,
- Eseia 53
Gweddïwch
- Treuliwch amser yn ystyried ac yn ymateb i gyfiawnder Duw.
- Gweddïwch y byddai eich ffydd a’ch cariad at Grist yn tyfu.
- Gweddïwch y byddai’r Ysbryd yn argyhoeddi ei Eglwys o gyfiawnder a barn.
- Gweddïwch y byddai’r Ysbryd yn argyhoeddi pobl Cymru o gyfiawnder a barn.