Duw cariad yw
Y sawl nad yw’n caru, nid yw’n adnabod Duw, oherwydd cariad yw Duw. Yn hyn y dangoswyd cariad Duw tuag atom: bod Duw wedi anfon ei unig Fab i’r byd er mwyn i ni gael byw drwyddo ef. Yn hyn y mae cariad: nid ein bod ni’n caru Duw, ond ei fod ef wedi ein caru ni, ac wedi anfon ei Fab i fod yn aberth cymod dros ein pechodau. 1 Ioan 4:8-10
Pe bawn i’n gwneud arolwg o’r pynciau mwyaf cyffredin ar gyfer caneuon a ysgrifennwyd erioed, rwy’n siŵr y byddai cariad yn dod i’r brig. Maen nhw’n dweud bod cariad yn gwneud i’r byd droi, a chan fod cymaint yn dyheu amdano nid yw’n syndod ei fod yn ymddangos mor aml mewn caneuon. P’un ai yw’n fabi sydd newydd ymddangos i’r byd, neu’n gwpl ifanc sydd wedi dechrau canlyn, neu’n hen berson mewn cartref gofal – rydyn ni i gyd yn dyheu am gariad. Dyma’r grym cryfaf a’r angen mwyaf yn y byd.
Mae ein hadnodau heddiw yn egluro mai cariad yw Duw ac mai ef yw ffynhonnell pob cariad. Beth allen ni ddweud a fyddai byth yn gwneud cyfiawnder â chariad Duw? Mae geiriau syml corws y plant ‘Cariad Duw sydd yn rhyfeddol’ yn dweud y cyfan ar un ystyr: ‘Mor Uchel, fedrai byth fynd drosto fe, Mor isel fedrai bydd fynd ‘danddo fe, Mor llydan fedrai byth fynd heibio fe, O gariad mawr!’ Ni allem fyth wneud cyfiawnder na hyd yn oed ddechrau ei ddisgrifio mewn defosiwn byr fel hyn. Mae ei gariad yn aruthrol, yn gyflawn ac yn ddi-ddiwedd, ond gadewch inni dynnu allan ychydig o bethau a fydd yn ein helpu i weddïo.
Yn gyntaf, gadewch inni sylwi mai cariad yw Duw. Ydy, mae ei gariad yn anhygoel, ac mae’n sicr yn caru eraill, ond yn gyntaf rhaid i ni nodi mai cariad yw Ef. Ffaith sy’n gwneud synnwyr pan fyddwn yn cydnabod bod Duw yn dri pherson, ac o dragwyddoldeb mae’r Tad, y Mab a’r Ysbryd wedi bod mewn perthynas hyfryd o gariad. Disgrifiodd Tadau’r Eglwys y berthynas hon fel dawns, ac mae’n ddarlun effeithiol wrth inni weld llif y cariad rhwng y tri pherson yn y drindod. Mae’n ddawns hyfryd sy’n ein tynnu at ein gliniau mewn addoliad. Dyma ffynhonnell a sylfaen pob cariad.
Nid yw cariad yn statig, ac mae cariad Duw wedi’i wneud yn amlwg yn ein plith fel yr eglura Ioan yn yr adnodau hyn. Ni eisteddodd Duw yn ôl yn y nefoedd gan edrych ar lanast ein byd a’n gwrthryfel a’n gadael i’n hynt a’n helynt ein hun – cariad yw Duw ac felly anfonodd ei Fab i’r byd, gan estyn allan atom trwy farwolaeth Iesu ar y groes. Roedd hwn yn gariad costus ac anhunanol, wrth i Iesu ddod yn Iawn dros ein pechodau. Ydych chi’n cydnabod ac yn llawn sylweddoli hyn heddiw fel plentyn i Dduw, trwy ffydd yng Nghrist? Rydych chi’n cael eich caru y tu hwnt i bob dealltwriaeth ac ym mhob ffordd bosibl. Mae Paul yn gwneud hyn yn glir yn Rhufeiniaid 8, ‘Nid arbedodd Duw ei Fab ei hun, ond ei draddodi i farwolaeth trosom ni oll. Ac os rhoddodd ei Fab, sut y gall beidio â rhoi pob peth i ni gydag ef?’ O’r fath gysur a braint wrth i ni gydnabod ein bod ni yn cael ein cofleidio ym mreichiau cariadus ein Tad Nefol, ond mae mwy!
Mae gwahoddiad a realiti yn yr adnodau hyn wrth i Ioan ddweud wrthym fod Duw wedi anfon ei Fab i’r byd er mwyn inni fyw trwyddo. Gan gymryd y darlun blaenorol, mae gan bob Cristion docyn i ddawns gariad tragwyddol Duw. Fe’n gwahoddir ac rydym i gymryd rhan yng nghariad Duw. Mae’n wirionedd rhyfeddol ein bod ni, trwy Grist, wrth i’r Ysbryd fyw ynom, yn cael mwynhau’r berthynas gariadus hon â Duw. Rydyn ni’n profi Ei gariad, yn cael ei lenwi ganddo, yn ei ddangos tuag at eraill, ac yn mynd i wledda ynddo am dragwyddoldeb. Mae’n ein caru ni!
Gallwn obeithio yn Nuw oherwydd mai cariad yw Ef.
Cwestiynau
- Gwnewch restr o’r holl ffyrdd y mae Duw wedi dangos Ei gariad tuag atoch chi.
- Sut mae cariad Duw yn rhoi gobaith i chi?
Darllen pellach
- Rhufeiniaid 8
- 1 Corinthiaid 13
Gweddïwch
- Myfyriwch ar gariad Duw mewn addoliad a mawl.
- Gweddïwch y byddai Duw yn cynyddu eich cariad tuag at eraill.
- Gweddïwch y byddai’r Eglwys yn ein gwlad yn cael ei hadnabod fel pobl sy’n caru pawb.
- Gweddïwch y byddai pobl nad ydyn nhw’n Gristnogion yn cael eu dwysbigo gan gariad Duw.