Pura fi ag isop fel y byddaf lân; golch fi fel y byddaf wynnach nag eira.
Salm 51:7
Mater o Gefndir
‘Na, mae’r defaid acw i’w gweld yn rhy amlwg o lawer.’ Dyna ddywediad a glywir yn bur aml ar ein buarth pan geisir synhwyro pa fath dywydd y gallwn ei ddisgwyl. I gyflawni llawer gorchwyl ar y fferm mae’n gwbl angenrheidiol cael tywydd braf, a dyna paham yr astudir arwyddion y tywydd mor fanwl.
Arwydd gwael ydyw pan fo’r mynyddoedd i’w gweld yn glir ac agos, a’r defaid yr ochr draw i’r cwm i’w gweld yn amlwg iawn. Bryd hynny, fe’u gwelir fel ysmotiau gwynion yn erbyn eu cefndir gwyrdd, neu yn erbyn lliw copr y rhedyn gwywedig neu lesni’r graig. Mae eu cefndir yn gwneud eu gwynder yn amlwg i bawb a’u gwêl.
Golygfa gyfarwydd yn у gaeaf yw gweld y mynydd gyferbyn â ni wedi’i orchuddio â blanced о eira gwyn erbyn y bore. Bydd y defaid i’w gweld yr un mor amlwg bryd hynny, ond nid fel ysmotiau gwynion yn awr ond fel plorod pygddu yn erbyn eu cefndir claerwyn. Gallech daeru iddynt newid eu lliw dros nos. Sut y bu iddynt golli eu gwynder mor sydyn?
Ci defaid gwyn yw Rhys y ci yma, ac yn aml iawn mae ei wynder yn anhawster iddo yn ei waith, gan mor anodd gwybod y gwahaniaeth rhyngddo a’r defaid. Pan gaiff orchymyn i gasglu’r defaid, fe dybiant wrth ei liw mai un ohonynt hwy ydyw. Ni chânt eu hargyhoeddi’n wahanol hyd nes iddo gynhyrchu sŵn gwahanol iawn i fref dafad, a dangos iddynt ei gryfder a’i feistrolaeth arnynt.
Ond pan orchuddir y buarth gan eira newydd, glân, fe dry liw Rhys yn rhyw felyn budr, ac mae’n anodd ymatal rhag rhoi trochfa iddo mewn dŵr a phowdwr golchi i weld ai gwir yr honiad fod gwynnach na gwyn i’w gael!
Mewn gwledydd gogleddol fe newidia’r carlwm ei liw yn ôl ei amgylchfyd. Fe’i gwelir yn y gaeaf mor wyn â’r eira o’i gwmpas, tra bod ei gôt weddill y flwyddyn yn lliw rhwd y ffriddoedd. Cyfrinach ei ddiogelwch yw ei allu i ymdoddi i’w gefndir a’i amgylchfyd. Nid oes angen y fath ddiogelwch ar y defaid na Rhys y ci.
Dengys gwynder yr eira wir liw Rhys a’r defaid, nes gwneud i ni ryfeddu at y gwahaniaeth. Yr Ysbryd Glân yn unig a’n hargyhoedda o’n gwir liw yn erbyn sancteiddrwydd Duw. A maddeuant Duw ei hun а’n gwna yn ‘wynnach na’r eira’.
Yng ngoleuni dyn gall pechod fyw,
Ond а welaist ti bechod yng ngoleuni Duw?
CYNAN (o’r bryddest Mab у Bwthyn)
Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, yn ôl dy ffyddlondeb; yn ôl dy fawr dosturi dilea fy nhroseddau; golch fi’n lân o’m drygioni, a glanha fi o’m pechod. Salm 51:1-2
Ceisiwch heddwch â phawb, a’r bywyd sanctaidd hwnnw nad oes modd i neb weld yr Arglwydd hebddo. Hebreaid 12:14
Mari Jones, Daw’r Wennol yn Ôl