Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 8 Awst 2020

7 Awst 2020 | gan Bill Hughes | Salm 62

Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid; oddi wrtho ef y daw fy ngwaredigaeth.

Salm 62:1

 

Detholiad o ddyfyniadau allan o bregeth gan George Morrison o Glasgow sydd gen i ar eich cyfer heddiw. Pregeth yn seiliedig ar “Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid…” Salm 62:1 yw hi a rhoddwyd iddi’r penawd “Ei adael o yno”. Mae’r penawd yn deillio o gyfieithiad Moffat o’r adnod sydd o’i gyfieithu i’r Gymraeg yn darllen “Fy enaid, tawela a gad bopeth i Dduw”.

“Daw cyfnodau mewn bywyd i ni i gyd pan mae clywed y geiriau “Gad y cwbl i mi” o gymorth mawr. Mewn cyfnod hurt o brysur neu tra’n ceisio trefnu priodas neu angladd, mae medru derbyn cynnig felly o gymorth gan rhywun tebol yn dod â rhyddhad heb ei ail. Nid oes modd symud pob baich na chario pob croes ar ran rhywun arall, ond cymaint mwy anodd fyddai’r cyfnod o bryder neu straen pe na byddai rhywun yn sefyll wrth ein hochr yn dweud “Gad y cwbl i mi.

Yn y gorchymyn yma mae’r Salmydd yn ei roi i’w enaid gwelwn un o gyfrinachau mawr y bywyd ysbrydol. Ni all treigl blynyddoedd dynnu oddi ar ei bwysigrwydd.

Ystyriwch er enghraifft droeon yr yrfa pan mae’n amhosib deall  rhagluniaeth Duw. Pan nad ydym fel petaem yn derbyn atebion i weddi mewn sefyllfa o golli rhywun annwyl neu ifanc, neu pan welwn y cymwynaswyr mwyaf ffyddlon yn sigo dan boen anioddefol, mor anodd yw dweud y geiriau “Mae Duw yn dda” a’u dweud â hyder sydd yn rhoi llawenydd Iddo. Rydym eisiau gwybod. Rydym eisiau deall. Weithiau teimlwn ein bod ger pwll anobaith fel Job.

Cymaint gwell yw agwedd ddoeth Dafydd pan yn wynebu dyfroedd yn rhuo a therfysgu o’i amgylch – “Fy enaid, tawela a gad y cwbl i Dduw”.

Ystyriwch sut y mwydrir meddyliau dynol weithiau gan gwestiynau dwfn sydd yn ymddangos tu hwnt i’n deall. Pwy ohonom na threuliodd gyfnod yn poeni am ddysgeidiaeth etholedigaeth? Neu beth am ragordeiniad Duw, ei sofraniaeth cyffredinol a neilltuol os oes gen i ewyllys rydd? Dyma rai o ymhlith llu o’r cwestiynau all ddrysu meddwl dyn.

Ar brydiau mae lle i ystyried cwestiynau dyrys o’r math yma. Gall dyn gael ei ysbrydoli o’u hystyried. Nid oes galw am osod y rheswm o’r neilltu i ymarfer ffydd; ar yr un pryd ni ellir mynnu gweld. Dro arall, y peth doeth i’w wneud yw peidio arteithio’n hunain ynghylch y pethau sydd rhy uchel i ni i’w dirnad ond yn hytrach cynghori’n eneidiau fel y salmydd – “Fy enaid, tawela a gad y cwbl i Dduw”.

Buan y daw’r dydd y cyrhaeddwn a deallwn. Cawn weld ei wyneb a bydd ei enw ar ein talcennau – wedi ei ysgrifennu yn agos iawn at yr ymenydd. Tan hynny mae gennym fywyd i’w fyw, calon i’w meithrin a gwaith i’w wneud.

Ac wedi i ni wneud ein gorau – a methu – rhaid dwyn i gof unwaith eto gyngor y salmydd. Mor werthfawr yw’r cyngor i bob athro ysgol Sul, pob mam sydd yn dwyn ei theulu i fyny ac i bob gweinidog sydd yn pregethu’r Efengyl. Cyflawni cyn lleied, gwneud cyn lleied o wahaniaeth, cyn lleied o ffrwyth i’w weld er yr holl lafurio ac er bod gweddiau lawer wedi rhagflaenu yr had sydd wedi ei hau.

Ai rhoi’r ffidil yn y tô mewn anobaith wnawn ni? Gan na chlywn rai’n bloeddio mewn gorfoledd a ydym i adael maes y gâd i wylio o bell? Annwyl ddarllenydd, atgoffa dy hun o anogaeth y salmydd gwrol – “Fy enaid, tawela a gad y cwbl i Dduw”. Rydym yn llwyddo’n aml pan rydym yn methu. Rydym yn cyflawni llawer mwy nac erioed a dybiem. Yn nerth Ei ddwylo drylliedig rydym yn medru cynnig cymorth gyda’n dwylo gwan a geirwon ni. Gwnewch eich gorau a gwnewch popeth er ei fwyn Ef. Daliwch ati heb anobeithio. Yn hytrach na phryderu am y llwyddiant, y cynhaeaf a’r ffrwyth – gad y cwbl iddo Ef. Medd Pantycelyn:

Nid myfi sydd yn rhyfela,
‘D yw fy ngallu pennaf ddim;
Ond mi rois fy holl ryfeloedd
I’r un godidoca’i rym;
Yn ei allu,
Minnau ddof trwy’r anial maith.

 

Yn gywir,

Bill Hughes