Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 7 Awst 2020

5 Awst 2020 | gan Wemimo Jaiesimi

A bydd tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall, yn gwarchod dros eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu.

Philipiaid 4:7

 

Ddoe edrychom ar Paul mewn sefyllfa ofnadwy yn cael ei longddryllio wrth deithio i Rufain. Sylwon y medrwn wynebu stormydd hyd yn oed pan fyddwn yn cyflawni ewyllys Duw. Heddiw dysgwn ddwy wers arall am stormydd bywyd.

Gall stormydd fod yn gyfle i ni brofi presenoldeb Duw mewn ffordd arbennig. Tra oedd y storm yn rhuo, roedd Duw ynddi gyda Paul. Yn ôl ei dystiolaeth i’r morwyr: “Neithiwr safodd yn fy ymyl angel y Duw a’m piau, yr hwn yr wyf yn ei addoli…” (Actau 27:23). Weithiau mae’r Arglwydd yn caniatáu i stormydd ein hwynebu er mwyn i ni gael profi ei arweiniad a’i ragluniaeth mewn ffordd unigryw. Bryd hynny, gweddi yw’r allwedd. ’Does ond dau ddewis: nesáu at Dduw mewn gweddi neu roi i mewn i ddigalondid. Mae’r temtasiwn i boeni a gofidio yn gryf ond os dewiswn yn hytrach, trwy ffydd, dreulio amser mewn gweddi, mae’r Ysgrythur yn addo y byddwn yn profi “tangnefedd Duw, sydd goruwch pob deall” (Philipiaid 4:7

Gall stormydd roi cyfle i ni dystiolaethu i anghredinwyr. Wedi i Dduw sicrhau Paul y byddai’n profi ei bresenoldeb, mae’r apostol yn gallu calonogi ei gyd-deithwyr – y mwyafrif ohonyn nhw ddim yn Gristnogion – â’r geiriau hyn: “Codwch eich calonnau, ddynion, oherwydd yr wyf yn credu Duw, mai felly y bydd, fel y dywedwyd wrthyf” (Actau 27:25). Gall stormydd, felly, roi cyfle i ni dystiolaethu i anghredinwyr trwy ein geiriau a’n hamlygiad o ffydd yng nghanol ein trallod. Efallai y daw rhai i ffydd yng Nghrist!

Wemimo Jaiesimi, aelod yn Eglwys Efengylaidd Llanbed