Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Defosiwn Dyddiol MEC – 6 Awst 2020

5 Awst 2020 | gan Wemimo Jaiesimi | Actau 27

Ond heb na haul na sêr i’w gweld am ddyddiau lawer, a’r storm fawr yn dal i’n llethu, yr oedd pob gobaith am gael ein hachub bellach yn diflannu.

Actau 27:20

Mae Duw gyda ni drwy stormydd bywyd (Acts 27:13-26)

Yn y ffilm enwog ‘Titanic’ (1997) cawn gipolwg trwy lygaid y camera ar erchylltra trychineb ar y môr, ac fe sylweddolwn pa mor beryglus y gall bywyd yn hwylio’r tonnau fod. Wrth i’r llong suddo ac i’r teithwyr wibio’n gythryblus yma ac acw yn chwilio am ddihangfa – yn ofer yn achos y mwyafrif ohonyn nhw – gwelwn pa mor ddirdynnol oedd yr eiliadau olaf i gymaint o’r rhai oedd ar y llong anffodus honno.

Darllenwn yn Actau 27:13-44 i’r Apostol Paul fod mewn sefyllfa debyg. Yn hytrach na sefyll ei brawf yn Jerwsalem, fel dinesydd Rhufeinig dewisodd Paul apelio at Gesar (Actau 25:12) er mwyn cael y cyfle i roi ei achos gerbron ymerawdwr Rhufain ar y pryd. (Roedd Duw yn ei Ragluniaeth wedi arfaethu ei ddefnyddio i helaethu ei deyrnas ym mhrifddinas yr ymerodraeth a’r byd!) Cafodd y llong roedd yr apostol yn teithio arni o Gesarea i Rufain fel carcharor ei dal mewn storm enbyd ac, ymhen hir a hwyr, ei dryllio’n llwyr. Fel y teithwyr hynny ar y ‘Titanic’, roedd pob enaid byw ar y llong, ar wahân i Paul, yn ofni am ei fywyd. Ond, yn ôl ei addewid rasol, arbedodd Duw Paul a phawb oedd ar fwrdd y llong gydag ef.

Gallwn ni, fel Paul a’i gymdeithion ar y llong, wynebu stormydd yn ein bywyd. Nid, o raid, stormydd llythrennol, ond ‘stormydd’ er hynny, gorthrymderau o bob math. Unigrwydd, diagnosis o afiechyd angheuol, problemau teuluol, diweithdra neu’n wir y pandemig rydyn ni’n mynd trwyddo ar hyn o bryd. Ond mae gan y storm a gofnodir yn Actau wersi pwysig i’w dysgu i ni. Gadewch i ni edrych ar dair ohonyn nhw heddiw a fory.

Gallwn wynebu stormydd hyd yn oed pan fyddwn yn cyflawni ewyllys Duw. Mae’n bwysig i ni gofio fod Paul pan aeth y llong i drybini yn garcharor “er mwyn Crist” (Philipiaid 1:13). Roedd wedi’i restio am ei fod yn datgan ffydd yn Iesu ac yn rhannu’r ffydd honno ag eraill. Yn wir, wedi i aelodau’r Sanhedrin ymrafael ag ef, roedd yr Arglwydd wedi ymddangos iddo a’i annog i godi’i galon, “Oherwydd fel y tystiolaethaist amdanaf i yn Jerwsalem, felly y mae’n rhaid i ti dystiolaethu yn Rhufain hefyd” (Actau 23:11). Roedd y fordaith i Rufain felly wedi’i hordeinio gan Dduw. Ac eto, bu’n rhaid iddo wynebu storm a llongddrylliad. Rhaid i ni ddeall y gallwn ni, a ninnau yng nghanol ewyllys Duw, brofi damweiniau, sialensiau, anawsterau, rhwystredigaethau, a hyd yn oed beryglon bywyd. Fel mae’r hanes hwn yn dangos, does dim unrhyw sail dros gredu bod Cristnogion wedi’u diogelu rhag stormydd bywyd. Gall pobl Dduw ddioddef. Ond ’dyw hynny ddim yn golygu bod Duw wedi’n gadael. ’Dyw’r “baich ysgafn o orthrymder” all fod arnom ar hyn o bryd (2 Corinthiaid 4:17) ddim yn arwydd ei fod wedi troi ei gefn arnon ni. Mae wedi addo, “Ni’th adawaf fyth, ac ni chefnaf arnat ddim” (Hebreaid 13:5).

Wemimo Jaiesimi, aelod yn Eglwys Efengylaidd Llanbed